大象传媒

Comisiynu Radio Cymru

Cyfle comisiynu: Ar y Marc

9 Ionawr 2025

Rydym yn chwilio am ddarparwr i gynhyrchu rhaglen bêl-droed Ar y Marc ar foreau Sadwrn am 8.30am drwy’r flwyddyn. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu o ganolfan 大象传媒 Radio Cymru ym Mangor, a bydd holl gostau’r rhaglen (cynhyrchu, ymchwil, cyflwynydd, panelwyr, gwesteion, sain/stiwdio) yn dod o’r pris isod.

Cyflwynydd: Dylan Jones

Hyd: 30 munud

Lleoliad: Bryn Meirion, Bangor

Pris: £55,000 - £60,000 y flwyddyn

Y rhaglen

Ers dros 30 mlynedd, mae rhaglen Ar y Marc wedi bod yn rhan annatod o arlwy Radio Cymru ar foreau Sadwrn. Gyda Dylan Jones yn cyflwyno ers y dechrau, mae’n raglen sy’n trafod pêl-droed gydag angerdd a hygrededd - ond yr hyn sy’n diffinio Ar y Marc yw’r hiwmor, yr hwyl a’r cyfeillgarwch. Mae hefyd felly yn raglen adloniant sy’n mynnu ei lle yn oriau brig y penwythnos – yn rhan o amserlen bore Sadwrn sy’n arwain at raglenni Tudur Owen, a Rhydian a Shelley.

Mae straeon Ar y Marc yn deillio o’r lleol, y cenedlaethol a’r rhyngwladol. Dyma raglen sy’n rhoi sylw i’r gemau lleol sydd mor bwysig i’n cymunedau, sy’n dathlu campau clybiau neu chwaraewr yn eu hardal, ac sy’n medru dod o hyd i straeon gwreiddiol sy’n adlewyrchu pob cwr o Gymru. Mae clywed gan gymeriadau lliwgar a difyr o bob oed ar hyd a lled y wlad yn elfen tu hwnt o bwysig.

Mae’n rhaglen sydd hefyd wrth gwrs yn rhoi sylw teilwng i’n cynghreiriau cenedlaethol a’u sêr, tra hefyd yn cydnabod y diddordeb brwd sydd yng Nghymru i bêl-droed Uwch-Gynghrair Lloegr ac yn rhyngwladol. Yn rhoi llais i gefnogwyr, mae Ar Y Marc hefyd yn ymfalchïo yn llwyddiannau’n timau cenedlaethol Cymru – a bydd Ewro 2025 yn dipyn o foment!

Mae strwythur clir i’r rhaglen, gyda Dylan wrth y llyw, a dau banelwr yn leisiau ychwanegol. Mae nifer a hyd y sgyrsiau yn amrywio wrth gwrs, ond disgwylir tua 3 sgwrs y rhaglen. Gall rhain fod yn sgyrsiau hefo un neu ddau gyfrannwr, neu’n becyn o leisiau ar bwnc neu thema. Mae amrywiaeth lleisiau yn hanfodol, ac mae Ar y Marc yn un o’r rhaglenni sy’n sicrhau fod lleisiau newydd yn cael eu clywed yn gyson.

Uchelgais

Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffem glywed sut byddai’r darparwr yn sicrhau parhad i raglen sy’n llwyddo ar hyn o bryd, tra hefyd yn meithrin a dod o hyd i gyfranwyr newydd. Hoffem hefyd glywed am syniadau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i godi cyrhaeddiad i'r rhaglen ar 大象传媒 Sounds. Bydd angen sicrwydd gall y darparwr gyflenwi’r rhaglenni 52 wythnos y flwyddyn – drwy gyfnodau gwyliau, salwch ayyb.

Amserlen y rownd gomisiynu

Ionawr 9 – Agor y rownd gomisiynu

Ionawr 28 am hanner dydd – Cau y rownd

6,7,8 Chwefror – Cyfweliadau rhestr fer

Rydym yn dymuno fod cwmni yn gallu dechrau darlledu’r rhaglen erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae croeso i gwmnïau gysylltu gyda ni am sgwrs cyn cynnig: syniadau@bbc.co.uk

Tîm comisiynu Radio Cymru

Dyma’r tîm sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â chomisiynu.

Mae croeso i gynhyrchwyr drafod yn anffurfiol gydag aelod o’r tîm comisiynu cyn mynd ati i gyflwyno cynnig yn llawn.

Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg 大象传媒 Cymru
Dafydd sy’n arwain timau Radio Cymru a Cymru Fyw, ac yn cynrychioli’r gwasanaethau Cymraeg ar Fwrdd 大象传媒 Cymru.

Yn ddarlledwr a chynhyrchydd profiadol, mae gan Dafydd brofiad helaeth o gyflwyno a chreu rhaglenni radio o bob math.

Gruffudd Pritchard, Golygydd Cynnwys
Mae gan Gruff drosolwg o gynnwys gwasanaethau Radio Cymru, Radio Cymru 2, adran gylchgrawn Cymru Fyw a chynnwys Cymraeg 大象传媒 Sounds.

Gareth Iwan Jones, Uwch-gynhyrchydd
Mae Gareth yn gyfrifol am amrywiaeth o raglenni’r orsaf o ganolfan Bangor, ac mae ganddo arbenigedd mewn rhaglenni cerddoriaeth a llafar.

Sioned Lewis, Uwch-gynhyrchydd
Mae Sioned yn gyfrifol am amrywiaeth o raglenni’r orsaf o ganolfan Caerdydd, ac mae ganddi arbenigedd mewn rhaglenni llafar a dogfen.

Cerian Arianrhod, Rheolwr Darlledu
Yn gynhyrchydd profiadol, mae Cerian bellach yn arwain tîm darlledu Radio Cymru ac yn sicrhau bod ein rhaglenni yn cyrraedd y gynulleidfa ar y radio ac ar 大象传媒 Sounds.

Catrin Huws, Rheolwr Cynhyrchu
Yn ogystal â rheoli elfennau ymarferol a chynyrchiadau Radio Cymru, mae Catrin yn rhan o dîm golygyddol a chomisiynu’r adran ac yn gweithio gyda chynhyrchwyr o’r sector annibynnol i gynnig arweiniad pendant ar raglenni.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: