大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cyflwyniad i ysgrifennu dyddiadur yn y person cyntaf
  • Un fideo yn rhannu syniadau ar sut i wella dy arddull ysgrifennu
  • Un gweithgaredd sy鈥檔 cadarnhau sut mae iaith ac arddull yn dy helpu i greu darlun cyflawn o berson 鈥媋 sefyllfa
  • Un fideo o hanes bywyd Mari Jones a gweithgaredd wedi ei seilio ar y fideo

Lesson content

  • Introduction to writing a diary in the first person
  • One video sharing ideas on how to improve your writing style
  • One activity that reinforces how language and style help you build a complete picture of 鈥媝erson and situation
  • One video about Mari Jones followed by an activity based on the video
Llinell / Line

Beth yw dyddiadur?

Dyddiadur yw meddyliau person wedi eu hysgrifennu ar bapur. Gall fod yn feddyliau cymeriad mewn stori neu鈥檔 ddyddiadur personol.

Iaith ac arddull

  • Defnyddio鈥檙 person cyntaf, 'fi', yn bennaf.
  • Gellir defnyddio amser presennol, gorffennol a dyfodol y ferf, ee:
    • rydw i鈥檔 mynd
    • es i
    • byddaf i鈥檔
  • Iaith anffurfiol.
  • Ansoddeiriau a chymariaethau i ddisgrifio.
  • Defnyddio ebychnodau i ddangos syndod neu bwysleisio ffaith.
Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia鈥檙 fideo gan athro鈥檔 cyflwyno syniadau ar sut i ysgrifennu dyddiadur yn y person cyntaf.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Dyddiadur pwy?

Darllena'r ddau ddarn isod sy'n dod o ddau ddyddiadur gwahanol. Wedyn penderfyna ar ba lun isod sy鈥檔 perthyn i ba ddyddiadur?

Dyddiadur 1

Annwyl ddyddiadur,

Am ddiwrnod gwych! Codais i ben bore ar bigau鈥檙 drain! Dim ond unwaith y flwyddyn dwi鈥檔 cael fy mhen-blwydd felly doeddwn i ddim eisiau gwastraffu eiliad. Ar 么l fy hoff frecwast yn y byd i gyd, sef crempog a maple syrup, es i, Dan a Gelert i鈥檙 ffair! Bwyton ni lwyth o fwyd rwtsh a mynd ar sawl reid ofnus iawn. Waaaaa! Hyd yma, mae bod yn 14 yn ffantastig!

Dyddiadur 2

Annwyl ddyddiadur,

Am ddiwrnod ofnadwy! Dw i鈥檔 fethiant llwyr! Fe wnes i herio Kasia i rasio fyny鈥檙 Wyddfa! Ro鈥檔 i鈥檔 si诺r y bydden i鈥檔 ennill yn hawdd. Es i i鈥檙 parc yn gynnar er mwyn cynhesu鈥檙 corff ond roedd Kasia yna鈥檔 barod! Helpodd yr holl gynhesu, mae鈥檔 si诺r, achos enillodd hi'r ras yn hawdd; gwibiodd heibio fi fel ceffyl yn y Grand National! Dw i鈥檔 wyllt gacwn!

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Gwylia鈥檙 fideo isod o hanes Mari Jones o鈥檙 Bala gan gwmni Mewn Cymeriad.

Rho dy hun yn esgidiau Mari ac ysgrifenna ddyddiadur yn y person cyntaf am un o鈥檙 swyddi a wnaeth Mari Jones er mwyn arbed arian i brynu Beibl.

Cofia fod angen:

  • defnyddio鈥檙 person cyntaf, ee 'rydw i', 'cerddais i', 'byddaf i鈥檔'
  • defnyddio amser gorffennol a phresennol y ferf, ee 'roeddwn i wedi blino鈥檔 l芒n', 'dw i'n falch iawn'
  • ysgrifennu am ddigwyddiadau diddorol a chyffrous
  • cyfleu dy deimladau
  • defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau i ddisgrifio
  • trefnu'r paragraffau yn glir

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • ysgrifennu dyddiadur yn y person cyntaf gan ddefnyddio iaith ac arddull sy鈥檔 gweddu i鈥檙 person

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • write a diary in the first person using a language and style that suits the person

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU