大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i arddull teithlyfrau ac ysgrifennu am fynd ar daith
  • Dau weithgaredd i ddeall rhagor am arddull ysgrifennu teithlyfrau

Lesson content

  • One introduction to the style of travel writing
  • Two activities to learn more about the language and style of travel writing
Llinell / Line

Beth yw teithlyfr?

Teithlyfr yw cofnod o brofiadau awdur yn teithio i wahanol lefydd o gwmpas y wlad neu hyd yn oed o gwmpas y byd.

Mae teithlyfrau yn cael eu hysgrifennu ar gyfer ymwelwyr, neu maen nhw'n gallu adrodd hanes personol o daith.

Mae ysgrifennu am deithiau yn gallu ymddangos mewn sawl ffurf, ee:

  • erthyglau papur newydd
  • traethodau
  • blogiau
  • llyfrau

Iaith ac arddull teithlyfr

Bydd teithlyfr yn:

  • disgrifio lle
  • addysgu am fywyd a diwylliant pobl eraill
  • yn perswadio'r darllenydd i ymweld 芒 lle
  • cynghori'r darllenydd beth i'w wneud mewn lle dieithr trwy s么n am brofiadau personol
  • diddanu'r darllenydd gydag arddull ysgrifennu creadigol, drwy adolygu neu ddisgrifio profiadau'r awdur mewn gwledydd neu leoedd penodol

Fel arfer mae teithlyfrau yn cael eu hysgrifennu:

  • yn y trydydd person unigol neu luosog (fe, hi, nhw, ei, eu) wrth gyfeirio at le, ee Roedd Cymru yn hynod o brydferth, gyda鈥檌 thraethau hir a鈥檌 golygfeydd hi鈥檔 odidog.
  • yn y person cyntaf unigol (fi, fy) os yw rhywun yn teithio ar ei ben ei hun ac yn s么n am brofiadau personol ar daith
  • yn y person cyntaf lluosog (ni, ein) os yw rhywun yn teithio gyda phobl eraill

Mae arddull teithlyfr hefyd yn gallu cynnwys:

  • berfau byrlymus
  • ffeithiau a ffigurau
  • ansoddeiriau cyffrous
  • iaith anffurfiol
  • cymariaethau/personoli pan mae'n addas

Weithiau, mae rhai awduron yn defnyddio hiwmor i ddiddanu'r darllenydd hefyd.

Dyma enghraifft o iaith ac arddull nodweddiadol sy'n cael eu defnyddio mewn teithlyfrau.

Ein bwriad y prynhawn crasboeth hwnnw oedd ymweld 芒 chastell Caerdydd, sy'n sefyll yn smart ac yn gadarn yng nghanol y ddinas. Diolch i drefnwyr y daith cawsom gyfle i weld y b锚l rygbi enfawr oedd yn rhan o鈥檙 castell i nodi cystadleuaeth Cwpan y Byd. Er mawr siom i ni, doedd y castell ddim ar agor, felly ymlwybron ni draw at Stadiwm y Mileniwm a rhyfeddu ar ei hadlewyrchiad prydferth ar yr afon Taf. Wedi cerdded yn hamddenol ar hyd ochr y stadiwm cawsom ein stopio鈥檔 stond gan ddynion egn茂ol a brwdfrydig yn gwerthu crysau a hetiau coch gyda 鈥榃ales Cymru鈥 mewn ysgrifen fras drostynt.

Mae'r awdur:

  • wedi ysgrifennu yn y person cyntaf lluosog, sy'n dangos bod yr awdur wedi teithio gyda phobl eraill, ee Ein bwriad, cawsom ein stopio, Er mawr siom i ni
  • yn ysgrifennu'n ddisgrifiadol, ee castell Caerdydd, sy'n sefyll yn smart ac yn gadarn yng nghanol y ddinas, ei hadlewyrchiad prydferth
  • yn defnyddio berfau byrlymus, ee ymlwybron ni, rhyfeddu
  • yn defnyddio ansoddeiriau, ee cyffrous, crasboeth, cadarn, enfawr, prydferth, egn茂ol, brwdfrydig
  • yn defnyddio iaith anffurfiol, ee 'doedd鈥 ddim' yn lle 'nid oedd', smart
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Darllena'r pwt isod o deithlyfr o'r enw Jambo Carib诺 gan Rocet Arwel Jones.

Un peth ydy gwneud cynlluniau - peth cwbl wahanol ydy cadw atyn nhw.

Ar 么l bod wrthi mor ofalus ddoe yn torri llwybrau newydd a chyn ymgynefino efo nhw, dyma fi heddiw yn ddigon gwirion 芒 derbyn cyngor y ferch wrth y ddesg yn y gwesty yngl欧n 芒 sut i gyrraedd y bws. Codi am chwech, pacio'r ddau sach a stryffaglu efo'r naill ar 'y nghefn a'r llall yn fy llaw i lawr y grisiau cul i dalu. Y ferch yn holi lle ro'n i'n mynd a finna'n dweud 'mod i'n dal y bws i Malindi o'r fan a'r fan.

"Tro i'r chwith ac i lawr y ffordd am ryw hanner milltir a thro i'r dde a byddi di yno."

"O'n i'n meddwl mai i'r dde ro'n i angen mynd ar 么l mynd trwy'r drws yn fan 'ma?"

"Na, na - i'r chwith, a byddi di yno cyn i ti droi."

Ac oeddwn, roeddwn i yno - ond bod yr 'yno' hwnnw yn 'yno' gwahanol i'r un r'on i isio. Oedd, roedd yno res o fysus ond bod pob un ohonyn nhw yn mynd i gyfeiriad Nairobi a finna angen mynd am Malindi.

Noda'r iaith a'r arddull sy'n cael eu defnyddio yn y darn uchod.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dychmyga dy fod am annog pobl i ymweld 芒 dy dref neu dy bentref.

Disgrifia'r profiad o gerdded trwy鈥檙 ardal.

  • Bydd angen meddwl am yr iaith ac arddull sydd eu hangen wrth ysgrifennu teithlyfr, ee person cyntaf unigol, berfau byrlymus, ansoddeiriau cyffrous, iaith anffurfiol, hiwmor.
  • Cofia ddisgrifio a nodi鈥檙 pethau hyfryd/diddorol am yr ardal, a chynnwys ffeithiau.
  • Noda hefyd brofiadau personol, ee yr ysgol rwyt ti'n ei mynychu, neu ardal chwarae lle fuost ti'n chwarae pan oeddet yn iau.
  • Gelli di ddefnyddio iaith anffurfiol yn dy deithlyfr.

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU