Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio iaith sy鈥檔 berthnasol i sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- tri gweithgaredd addas
Learning focus
Learn how to use language that is appropriate for formal and informal situations.
This lesson includes:
- three suitable activities
For an English version of this lesson, scroll below.
Mae deialog yn gwneud stor茂au yn llawer mwy cyffrous ac yn gadael i ni ddod i adnabod y cymeriadau, sef y bobl sy鈥檔 ymddangos mewn stori neu ddrama, yn well. Pan rwyt ti鈥檔 mynd ati i ysgrifennu stori fe ddylet ti geisio cynnwys deialog er mwyn gwneud y stori yn fwy hwyliog i'w darllen.
Beth yw pwrpas deialog mewn stori?
- Mae鈥檔 symud y stori yn ei blaen.
- Mae鈥檔 dweud rhywbeth wrthym am y cymeriadau.
- Mae鈥檔 dweud rhywbeth wrthym am berthynas y cymeriadau a鈥檌 gilydd.
Beth am i ni edrych yn fanylach ar hyn? Darllena鈥檙 darn nesaf o stori.
鈥淥es rhaid i ni adael i鈥檙 crinc yna ddod hefo ni?鈥 Doedd Arwyn ddim wedi cymryd at Iolo o gwbwl.
鈥淥鈥檚. Ma fe鈥檔 frawd i fi!鈥 atebodd Gwenno. 鈥淔i ffaelu mynd hebddo fe. A paid galw fe鈥檔 鈥檔a!鈥
鈥淵n be?鈥
鈥淐rinc鈥 beth yffach ma鈥檔a fod i feddwl beth bynnag?鈥 Roedd Iolo wedi clywed y cyfan.
鈥淧eidwch dechre nawr. Ni鈥檔 tri yn mynd i鈥檙 parti 鈥檓a i gael laff! Dewch, sa鈥檌 moyn bod yn hwyr.鈥
Roedd Gwenno鈥檔 edrych ymlaen a doedd hi ddim am adael i鈥檙 ddau yma ddifetha鈥檙 noson.
Darllena鈥檙 darn yma eto.
Mae'r lliwiau yn y ddeialog yn cyfateb i'r pwyntiau pwysig nesaf. Edrycha ar y darnau o'r ddeialog sy'n cyfateb o ran lliw.
Mae deialog yn bwysig iawn felly. Cofia - pan rwyt ti鈥檔 creu deialog, mae'n bwysig bod y ddeialog yn:
- cyfleu sut mae cymeriadau'n teimlo
- cyfleu sut mae'r cymeriadau yn teimlo tuag at gymeriad arall
- naturiol iawn ac yn gweddu i'r cymeriad sy'n siarad
Gweithgaredd 1
Edrycha ar yr olygfa yma o'r opera sebon 'Pobol y Cwm'. Mae un cymeriad o'r de a'r llall o'r gogledd.
P'un yw p'un? Wyt ti'n medru deall y cymeriadau yn y clip?
Gweithgaredd 2
Beth am ysgrifennu deialog rhwng bachgen o'r ddinas a merch o'r wlad sy'n cyfarfod am y tro cyntaf? Maen nhw'n trafod y cyfleusterau (ee canolfannau hamdden, siopau, mynyddoedd i'w dringo ac ati).
Efallai y bydd un o dy gymeriadau yn dod o'r de a'r llall yn dod o'r gogledd!
Tafodiaith
Tafodiaith yw'r enw ar y geiriau sy'n perthyn i ardaloedd gwahanol. Mae hyn yn cyfoethogi'r iaith Gymraeg! Fe alli di ddefnyddio tafodiaith mewn deialog. Mae hyn yn dangos bod y cymeriadau'n siarad yn naturiol.
Dyma rai enghreifftiau o eiriau tafodieithol: houl, iste, sbia, dishgled.
Mae iaith hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar y sefyllfa. Mae'n si诺r dy fod ti鈥檔 siarad yn wahanol iawn gyda dy ffrindiau i gymharu 芒'r sgyrsiau rwyt ti鈥檔 cael gyda dy athro/athrawes!
Pan mae'r cymeriadau'n siarad yn ein stor茂au, mae'n bwysig bod y ddeialog yn cael ei hysgrifennu mewn ffordd ffurfiol neu anffurfiol, ond mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar y sefyllfa! Dyma enghreifftiau:
Iaith ffurfiol
Mae iaith ffurfiol yn addas pan rydyn ni mewn sefyllfa ffurfiol, sef sefyllfa bwysig, ee mewn cyfarfod. Er enghraifft:
Penderfynwyd anfon y bachgen adref oherwydd salwch.
Iaith anffurfiol
Mae iaith anffurfiol yn cael ei defnyddio mewn sefyllfa llai ffurfiol, ee wrth siarad 芒 ffrind. Er enghraifft:
Mi ddudodd y prif wrth y bachgen am 'i gwadnu hi adre os oedd o'n teimlo'n giami.
Bratiaith
Bratiaith yw鈥檙 enw ar iaith sy'n cynnwys geiriau Saesneg ac iaith anghywir. Er enghraifft:
Desidodd yr Head i ala'r crwt gartre cos o'dd e'n sick.
Gweithgaredd 3
Gwranda ar y ddeialog yma ar wefan 大象传媒 Radio Cymru. Mae鈥檙 cyflwynydd Aled Hughes yn siarad 芒 Dilwyn Morgan sydd wedi cyhoeddi fideos ar y we am ganu鈥檙 piano.
- Ydy'r iaith yn ffurfiol neu'n anffurfiol?
- Ydyn nhw'n defnyddio geiriau neu ymadroddion sy'n wahanol i dy rai di?
- Ydyn nhw鈥檔 dod o鈥檙 gogledd neu鈥檙 de?
Berfau
Mae defnyddio berfau diddorol yn bwysig. Berf yw gair sy鈥檔 golygu bod person yn gwneud rhywbeth, ee rhedeg, dringo. Mae defnyddio 'meddai' fel berf yn gallu bod yn ddiflas os wyt ti'n defnyddio'r gair dro ar 么l tro.
Darllena鈥檙 brawddegau nesaf, sy'n defnyddio berfau gwahanol:
- "Jiw, jiw fechgyn. A'th y b锚l 'na'n uchel tu hwnt!" bloeddiodd Miss Jenkins.
- "Nefi bliw! Mae Mari wedi newid lliw ei gwallt! Mae o rwan yn biws!" chwarddodd Dafydd.
- "O NA! Dim prawf mathemateg arall!" gwaeddodd y plant.
Cofia ddefnyddio amrywiaeth o ferfau mewn deialog. Er enghraifft:
- bloeddiodd
- chwarddodd
- ebychodd
- atebodd
- gwaeddodd
Adferfau
Gallet ddisgrifio'r ferf gan ddefnyddio adferf ddiddorol. Adferf yw gair sy鈥檔 disgrifio berf (ee 鈥榬hedeg yn gyflym鈥). Mae hyn yn disgrifio'r ffordd mae'r person neu'r cymeriad (gair am berson sy鈥檔 ymddangos mewn stori neu ddrama) yn dweud yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Er enghraifft:
- bloeddiodd yn groch
- chwarddodd yn uchel
- ebychodd yn anghwrtais
Sut a beth?
Gallet ychwanegu at yr adferf drwy ddisgrifio beth mae'r cymeriad yn ei wneud tra'i fod yn siarad.Gofynna sut? a beth? er mwyn disgrifio beth mae'r person neu'r cymeriad yn ei wneud tra'i fod yn siarad a sut mae'n gwneud hynny. Er enghraifft:
Bloeddiodd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr.
Chwarddodd yn uchel gan wenu o glust i glust.
Ebychodd yn anghwrtais gan rythu yn gas.
Atalnodi
Mae defnyddio'r gofynnod (marc 鈥?鈥 sy鈥檔 cael ei ddefnyddio i ddangos fod cwestiwn wedi ei ofyn) yn bwysig pan mae cymeriad yn gofyn cwestiwn. Er enghraifft:
"Ble mae fy esgidiau p锚l-droed, Mam?" gofynnodd Teifi.
Mae defnyddio'r ebychnod (atalnod 鈥!鈥 sy鈥檔 cael ei ddefnyddio ar ddiwedd ebychiad) yn bwysig hefyd er mwyn dangos syndod neu er mwyn pwysleisio ffaith arbennig, er enghraifft:
"Paid 芒 gwneud hynny byth eto! Mae'n beryglus tu hwnt!" bloeddiodd Dad.
Gwna鈥檔 si诺r fod y bobl neu'r cymeriadau sy'n siarad yn ymateb i'w gilydd. Er enghraifft:
- "Dw i eisiau'r losin 'na nawr," bloeddiodd Dafydd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr.
- "Dwyt ti ddim yn ei gael e' a dyna ddiwedd arni," sibrydodd ei fam yn dawel.
- "O, dw i wedi cael llond fy mol," dywedodd Dafydd yn anghwrtais gan rythu ar ei fam fel tarw.
Gallet ddefnyddio dy ddeialog i ddangos y berthynas rhwng dy gymeriadau. Er enghraifft:
- "Dw i ddim yn credu bod hyn yn ddigon da!" awgrymodd Rhian yn swrth.
- "Pam? Dw i wedi gwneud pob dim dw i'n ei allu. Wir!" holodd Steffan yn ymbilgar.
- "Na! Dyna fy mhenderfyniad ola'!" mynnodd Rhian yn grac.
- "Dw i ddim yn mynd i wneud dim byd i ti byth eto! Rwyt ti wedi fy ngadael i lawr unwaith yn ormod y tro hwn!" gwaeddodd Steffan yn groch gan gau'r drws yn glep ar ei 么l.
Dialogue makes stories much more exciting and allows us to get to know the characters 鈥 the people who appear in a story or drama 鈥 better. When writing a story, you should try to include some dialogue to make the story more entertaining to read.
What is the purpose of dialogue in a story?
- It drives the story forward.
- It says something about the characters.
- It tells us something about the characters鈥 relationships with each other.
Let鈥檚 look at this in more detail. Read the following extract from a story.
鈥淥es rhaid i ni adael i鈥檙 crinc yna ddod hefo ni?鈥 Doedd Arwyn ddim wedi cymryd at Iolo o gwbwl.
鈥淥鈥檚. Ma fe鈥檔 frawd i fi!鈥 atebodd Gwenno. 鈥淔i ffaelu mynd hebddo fe. A paid galw fe鈥檔 鈥檔a!鈥
鈥淵n be?鈥
鈥淐rinc鈥 beth yffach ma鈥檔a fod i feddwl beth bynnag?鈥 Roedd Iolo wedi clywed y cyfan.
鈥淧eidwch dechre nawr. Ni鈥檔 tri yn mynd i鈥檙 parti 鈥檓a i gael laff! Dewch, sa鈥檌 moyn bod yn hwyr.鈥
Roedd Gwenno鈥檔 edrych ymlaen a doedd hi ddim am adael i鈥檙 ddau yma ddifetha鈥檙 noson.
Read this extract again.
The colours in the dialogue correspond to the next important points. Look at the parts of the dialogue which correspond in terms of colour.
So, dialogue is very important. Remember - when creating dialogue, it鈥檚 important that it:
- conveys how the characters are feeling
- conveys how the characters feel towards other characters
- is very natural and suits the nature of the character who's speaking
Activity 1
Look at this scene from the soap opera 'Pobol y Cwm'. One character is from south Wales and the other from north Wales.
Which is which? Can you understand both characters in the clip?
Activity 2
Why not write a dialogue between a boy from the city and a girl from the country, who meet for the first time? They discuss the facilities (eg leisure centres, shops, mountains to climb etc).
Maybe one of your characters will come from the south and the other from the north!
Dialect
Dialect is the term for words that belong to different areas. This enriches the Welsh language! You can use dialect in dialogues. This shows that the characters speak naturally.
Here are some examples of words from certain dialects: houl (sun), iste (sit), sbia (look), dishgled (cuppa).
The language also varies depending on the situation. How you speak with your friends is probably very different to how you speak with your teacher.
When characters speak in our stories, it's important that the dialogue is written in a formal or informal way, but this depends on the situation of course. Here are some examples:
Formal language
Formal language is appropriate when we are in a formal or important situation, eg in a meeting. For example:
Penderfynwyd anfon y bachgen adref oherwydd salwch.
(A decision was made to send the boy home because he was ill.)
Informal language
Informal language is used in a less formal situation, eg when speaking to a friend. For example:
Mi ddudodd y prif wrth y bachgen am 'i gwadnu hi adre os oedd o'n teimlo'n giami.
(The Head told the boy to head on home if he felt poorly.)
Slang
Slang is the term for using casual or incorrect language when speaking and, in Wales, when you use English words when speaking Welsh. For example:
Desidodd yr Head i ala'r crwt gartre cos o'dd e'n sick.
(The Head decided to send the lad home 鈥檆os he was sick.)
Activity 3
Listen to this dialogue on 大象传媒 Radio Cymru's website. Presenter Aled Hughes chats to Dilwyn Morgan who's published videos online about playing the piano.
- Is the language formal or informal?
- Do they use different words or expressions from the ones you would use?
- Do they come from north or south Wales?
Verbs
Using interesting verbs is important. A verb is a word that means a person is doing something, eg rhedeg (running), dringo (climbing).Using 'meddai' (鈥榮aid鈥) as a verb can be boring if you use it time after time.
Read the following sentences, which use different verbs:
- "Jiw, jiw fechgyn. A'th y b锚l 'na'n uchel tu hwnt!" bloeddiodd Miss Jenkins.
(鈥淲ell, well, boys. That ball went very high!鈥 Miss Jenkins bellowed.)
- "Nefi bliw! Mae Mari wedi newid lliw ei gwallt! Mae o rwan yn biws!" chwarddodd Dafydd.
(鈥淕oodness me! Mari has changed the colour of her hair! It鈥檚 purple now!" Dafydd laughed.)
- "O NA! Dim prawf mathemateg arall!" gwaeddodd y plant.
(鈥淥H NO! Not another maths test!" the children shouted.)
Remember to use a variety of verbs in a dialogue. For example:
- bloeddiodd (bellowed)
- chwarddodd (laughed)
- ebychodd (exclaimed)
- atebodd (replied)
- gwaeddodd (shouted)
Adverbs
You could describe the verb by using an interesting adverb. An adverb is a word that describes a verb (eg 鈥榬unning quickly鈥). This describes how a person or character (a word for a person who appears in a story or drama) says what they have to say. For example:
- bloeddiodd yn groch (bellowed fiercely)
- chwarddodd yn uchel (laughed loudly)
- ebychodd yn anghwrtais (exclaimed rudely)
How and what?
You could add to the adverb by describing what the character is doing whilst speaking. Ask sut? (* how?) and beth? ( what?*) in order to describe what the person or character does whilst speaking, and how they do that. For example:
- Bloeddiodd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr. (He bellowed fiercely whilst jumping up and down.)
- Chwarddodd yn uchel gan wenu o glust i glust. (She laughed loudly with a wide grin.)
- Ebychodd yn anghwrtais gan rythu yn gas. (He exclaimed rudely while glaring angrily.)
Punctuation
Using a question mark (the 鈥?鈥 symbol used to show a question is being asked) is important when a character asks a question. For example:
"Ble mae fy esgidiau p锚l-droed, Mam?" gofynnodd Teifi.
("Where are my football boots, Mum?" Teifi asked.)
Using an exclamation mark (the 鈥!鈥 symbol used after an exclamation) is also important to convey shock or to emphasise a certain fact, for example:
"Paid 芒 gwneud hynny byth eto! Mae'n beryglus tu hwnt!" bloeddiodd Dad.
(鈥淒on鈥檛 ever do that again! It鈥檚 extremely dangerous!鈥 Dad bellowed.)
Make sure the people or characters speaking respond to each other. For example:
- "Dw i eisiau'r losin 'na nawr," bloeddiodd Dafydd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr. ("I want those sweets now," Dafydd bellowed fiercely whilst jumping up and down.)
- "Dwyt ti ddim yn ei gael e' a dyna ddiwedd arni," sibrydodd ei fam yn dawel. ("You鈥檙e not getting any and that's that," his mother whispered quietly.)
- "O, dw i wedi cael llond fy mol," dywedodd Dafydd yn anghwrtais gan rythu ar ei fam fel tarw. ("Oh, I鈥檓 fed up," Dafydd said rudely, glaring at his mother like a bull.)
You could use your dialogue to show the relationship between your characters. For example:
- "Dw i ddim yn credu bod hyn yn ddigon da!" awgrymodd Rhian yn swrth. (鈥淚 don鈥檛 think this is good enough!鈥 Rhian suggested sourly.)
- "Pam? Dw i wedi gwneud pob dim dw i'n ei allu. Wir!" holodd Steffan yn ymbilgar. (鈥淲hy? I鈥檝e done all I can. Really, I have!鈥 Steffan pleaded hopelessly.)
- "Na! Dyna fy mhenderfyniad ola'!" mynnodd Rhian yn grac. (鈥淣o! That's my final decision!鈥 Rhian insisted angrily.)
- "Dw i ddim yn mynd i wneud dim byd i ti byth eto! Rwyt ti wedi fy ngadael i lawr unwaith yn ormod y tro hwn!" gwaeddodd Steffan yn groch gan gau'r drws yn glep ar ei 么l. (鈥淚鈥檓 not going to do anything for you ever again! You鈥檝e let me down one too many times now!鈥 Steffan shouted loudly, slamming the door behind him.)
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11