大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cyflwyniad yn esbonio arddull ysgrifennu erthygl ar gyfer papur newydd
  • Enghraifft i鈥檞 hanodi
  • Sut i ysgrifennu pennawd bachog
  • Un gweithgaredd i greu pennawd bachog ac erthygl fer

Lesson content

  • An introduction to the writing style required for a newspaper article
  • An example to annotate
  • How to write an eye-catching headline
  • One activity to create a headline and write an article to go with it
Llinell / Line

Arddull ysgrifennu erthygl i bapur newydd

Er bod pobl yn cysylltu papurau newydd gyda thrafod y newyddion, mewn gwirionedd, mae pob math o arddulliau ysgrifennu i鈥檞 gweld mewn papur newydd:

  • cyfarwyddiadol
  • esbonio
  • disgrifio
  • perswadio
  • naratif
  • trafod
  • ffeithiol

Er enghraifft, os yw erthygl yn trafod y ffasiwn diweddaraf i鈥檞 weld yn Wythnos Ffasiwn Llundain, mae鈥檙 awdur yn disgrifio鈥檙 dillad gan ddefnyddio iaith ddisgrifiadol ac o bosib yn defnyddio iaith berswadiol i annog pobl i brynu dilledyn tebyg.

O bosib y bydd linc ynghlwm 芒鈥檙 erthygl yn dy arwain at siop i brynu鈥檙 dilledyn a bydd hwnnw鈥檔 defnyddio iaith gyfarwyddiadol.

Iaith esboniadol a ffeithiol a geir mewn erthygl newyddion 鈥榞o iawn鈥 gan mai鈥檙 nod yw cyflwyno鈥檙 ffeithiau鈥檔 glir i'r darllenwyr.

Pethau i鈥檞 cofio wrth ysgrifennu stori newyddion

  • Manylion, ee pwy, beth, ble, pam, sut, pryd?
  • Pwy yw dy gynulleidfa? Addasa dy iaith yn 么l y darllenydd, ee:
    • iaith anffurfiol, siaradus mewn stori ysgafn neu 鈥榗lickbait鈥
    • iaith ffurfiol, fwy cywir ar gyfer adroddiad ffeithiol
  • Byddi di fel arfer yn defnyddio amser presennol y ferf, ee mae, gwelwn, daw.
  • Ysgrifenna鈥檔 drefnus i bobl ddilyn trywydd y stori鈥檔 glir, ee yn gyntaf, yn ail, wedyn, nesaf, ar 么l, tra.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Darllena鈥檙 erthygl a chwilia am y nodweddion isod:

  • pennawd bachog
  • pwy? beth? ble? pam? sut? pryd?
  • dyfyniad gan lygad-dyst/arbenigwr
  • berfau鈥檙 presennol
  • cysyllteiriau

Cadwch draw!

Mae鈥檙 cyhoedd yn cael eu hannog i gadw draw o afonydd a llynnoedd Cymru. Er gwaetha鈥檙 tywydd braf, rhaid cymryd gofal, yn 么l penaethiaid Gwasanaeth T芒n ac Achub holl ranbarthau Cymru. Mae cynghorau tref a sir wedi gwneud yr un ap锚l. Mae Cymru dal mewn cyfnod o glo oherwydd y coronafeirws, sy鈥檔 golygu bod llai o wylwyr y glannau ac achubwyr bywyd yn gweithio i gadw golwg ar arfordir Cymru. O ganlyniad, mae mentro i鈥檙 d诺r yn golygu eich bod yn mentro eich bywyd.
Yn 么l Mair Huws sy鈥檔 byw tafliad carreg o Lyn Padarn, mae pobl yn aml yn mynd i drafferthion yn y d诺r. 鈥淓r ei bod hi鈥檔 gynnes braf ar hyn o bryd, mae d诺r llynnoedd yn oer tu hwnt. Mae鈥檙 llyn tua 35 gradd Fahrenheit, felly allwch chi ddim aros yn y d诺r am fwy na thua chwarter awr. Yn anfoddus, mae pobl leol fel fi yn gweld pobl yn mynd i drafferthion dro ar 么l tro a gyda neb yn gwarchod y llyn ar hyn o bryd, rydan ni鈥檔 poeni鈥檔 arw y bydd rhywun yn mynd i drafferth ac yn boddi a neb wrth law i鈥檞 achub.鈥
Ategodd Dr John Williams mai鈥檙 prif berygl i bobl sy鈥檔 gallu nofio yw bod eu cyrff yn mynd i sioc d诺r am fod y tymheredd mor oer, a bod hynny鈥檔 arwain at lyncu d诺r a boddi.
Mae鈥檙 ap锚l yma鈥檔 dilyn marwolaeth dyn aeth i drafferthion yn un o lynnoedd Eryri dros y penwythnos. Cafodd ei dynnu o鈥檙 d诺r a鈥檌 gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan yr Ambiwlans Awyr. Er gwaethaf ymdrechion meddygon yno, bu farw鈥檔 ddiweddarach.

Llinell / Line

Denu sylw

Os oes gennyt ti stori i鈥檞 dweud ac rwyt ti eisiau i bobl ei darllen, mae angen denu eu sylw. Y ffordd orau i wneud hynny yw dewis pennawd bachog.

Mae penawdau llwyddiannus yn bachu sylw鈥檙 darllenydd ac yn gwerthu鈥檙 stori mewn modd sydyn, gafaelgar.

Mae penawdau fel arfer yn:

  • ddoniol
  • chwarae ar eiriau
  • brawychus
  • clyfar
  • dramatig
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dyma rai enghreifftiau diweddar o benawdau:

  • 鈥楪a鈥檌 weld Nain a Taid r诺an?鈥
  • Llofrudd!
  • Caewch y drysau, mae Eisteddfod T yn dechrau!
  • Y plant n么l yn y nyth: ymdopi 芒鈥檙 plant yn symud adre.

Beth am edrych ar benawdau cylchgrawn neu bapur newydd ar-lein? Pa enghreifftiau wyt ti鈥檔 gallu dod o hyd iddyn nhw?

Edrycha ar y darluniau yma. Wyt ti鈥檔 gallu meddwl am bennawd bachog i gyd-fynd 芒 nhw? Cofia dy fod yn ceisio denu sylw鈥檙 darllenwyr!

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Ceisia feddwl am bennawd trawiadol ar gyfer erthygl am bwnc sy鈥檔 dy ddiddori di, er enghraifft:

  • chwaraeon arbennig
  • ffasiwn
  • celf
  • cyfres deledu/ffilm
  • datblygiadau gwyddonol

Ysgrifenna erthygl fer i ddilyn gan gofio nodweddion erthygl effeithiol.

Defnyddia鈥檙 eirfa isod i dy helpu.

Ysgrifennu鈥檔 drefnus:

  • yn gyntaf
  • yn ail
  • wedyn
  • nesaf
  • ar 么l
  • tra

Cysyllteiriau yn trafod achos:

  • o ganlyniad
  • felly
  • oherwydd
  • gan hynny
  • yn y pen draw

Cysyllteiriau i ychwanegu ffeithiau/gwybodaeth:

  • yn ogystal 芒
  • ar ben hynny
  • yn ychwanegol
  • hefyd

Cysyllteiriau i gymharu:

  • yn yr un modd
  • o gymharu
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • adnabod a deall yn hyderus arddull ysgrifennu erthygl papur newydd
  • ysgrifennu erthygl gyda phennawd trawiadol i gyd-fynd ag e

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • confidently recognise and understand the writing styles used when writing newspaper articles
  • write an article with an attention-grabbing headline

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU