Cynnwys y wers hon
- Un fideo yn esbonio beth yw nodweddion ysgrifennu naratif
- Un cyflwyniad yn egluro am iaith naratif
- Un fideo ar yr iaith sydd ei hangen ar gyfer ysgrifennu naratif
- Tri gweithgaredd i ymarfer sut i ysgrifennu naratif yn effeithiol
Lesson content
- One video explaining the characteristics of narrative writing
- One introduction to narrative language
- One video on the type of language required when writing in a narrative style
- Three activities to help practise narrative writing forms
Beth yw ysgrifennu naratif?
Naratif yw鈥檙 enw ar y math o ysgrifennu ble wyt ti'n cyflwyno stori, neu gasgliad o ddigwyddiadau sydd wedi eu cysylltu gyda鈥檌 gilydd.
Mae stori fer yn un math o ysgrifennu naratif.
Enghreifftiau eraill o ysgrifennu naratif yw cofiant ac hunangofiant.
Fideo 1 / Video 1
Beth yw stori fer?
Gan amlaf, mae stori fer yn disgrifio rhywbeth sydd wedi digwydd go iawn neu yn y dychymyg. Mae'n fyr, hynny yw nid yw mor hir 芒 nofel.
Iaith ac arddull ysgrifennu stori fer
- Rwyt ti angen ysgrifennu yn y gorffennol.
- Rwyt ti鈥檔 ysgrifennu yn y person cyntaf (fi, ni) neu'r trydydd person (fe/fo/hi/nhw).
- Mae angen defnyddio amrywiaeth o dechnegau arddull, er enghraifft:
- ansoddeiriau
- cymariaethau
- personoli
- trosiadau
- Cofia gyfeirio at y synhwyrau - beth wnest ti ei weld, ei glywed, ei arogli, ei flasu, ei gyffwrdd.
- Rhaid sicrhau bod:
- agoriad diddorol
- uchafbwynt
- diweddglo addas
- Rhaid amrywio dechrau brawddegau.
Fideo 2 / Video 2
Mewn t欧 anniben, llawn chwerthin, mae tri o ffrindiau yn cyd-fyw. Yn y ffilm hon, mae Cath yn penderfynu ysgrifennu 鈥榖log stori鈥 ond mae arni angen cymorth ar sut i ysgrifennu naratif.
Wrth wylio, noda enghreifftiau da o:
- ansoddeiriau ofnus
- berfau cryno
- idiomau
- cymariaethau
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Nawr dy fod wedi gwylio鈥檙 fideo, rhestra:
- tri ansoddair ofnus
- dwy ferf gryno
- un idiom neu gymhariaeth
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifenna'r berfenwau hyn yn y gorffennol:
agor + fi
gweld + fi
mynd + fi
cael + fi
gweiddi + fi
6 cerdded + hi
edrych + ef
ymlwybro + hi
syllu + ef
aros + hi
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Dyma enghraifft o baragraff agoriadol stori fer.
Y Prawf 鈥 Gwen Redvers Jones
鈥淐er, paid 芒 bod yn fabi. Sgen ti鈥檓 ofn mynwent, si诺r?鈥 chwarddodd Alun yn gas ar ben ei ffrind am hanner nos ar Noson Calan Gaeaf. Cerddodd Rhodri drwy鈥檙 gi芒t fochyn a arweiniai i鈥檙 fynwent. Uwch ei ben roedd tylluan yn hwtian ac ystlumod yn hedfan. Disgleiriodd y lleuad yn wyn ar farrug y cerrig beddau. Crensiai ei draed yn annaturiol o uchel ar y cerrig m芒n ar y llwybr. Clywodd gi yn cyfarth yn y pellter. Caeodd y tywyllwch o鈥檌 amgylch. Roedd hi fel bol buwch. Crynai. Gallai glywed ei galon yn curo fel pe bai鈥檔 ceisio dianc o鈥檌 gorff. Cerddodd yn ei flaen at ddrws mawr pren yr eglwys鈥
Nawr, cer ati i orffen y stori uchod.
Gofynna鈥檙 cwestiynau yma i ti dy hun wrth fynd ati i ysgrifennu gweddill y stori fer:
- Oes yna dro annisgwyl yn y stori?
- Ydy fy nghymeriad yn gredadwy?
- Ydy鈥檙 diweddglo yn procio meddwl y darllenydd?
- Ydy鈥檙 diweddglo鈥檔 cysylltu gyda dechrau'r stori?
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod a deall yn hyderus nodweddion ysgrifennu naratif
- deall sut gall defnyddio ansoddeiriau, berfau, idiomau a chymariaethau pwrpasol gyfoethogi eu gwaith ysgrifenedig
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- confidently recognise and understand the characteristics of narrative writing
- recognise how using suitable adjectives, verbs, idioms and similes can enhance their written work
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11