Cynnwys y wers hon
- Un fideo yn adrodd chwedl Branwen ferch Ll欧r
- Dau weithgaredd i ymgyfarwyddo gyda鈥檙 chwedl
Lesson content
- One video retelling the tale of Branwen ferch Ll欧r
- Two activities to familiarise you with the story
Fideo / Video
Chwedl Branwen ferch Ll欧r yw ail stori Pedair Cainc y Mabinogi. Mae鈥檙 stori鈥檔 digwydd yng Nghymru ac Iwerddon.
Gwylia鈥檙 fideo yma sy鈥檔 adrodd y stori.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Creu poster
Mae pair y dadeni鈥檔 chwarae rhan bwysig yn y chwedl.
Cer ati i greu poster yn ymffrostio am allu鈥檙 pair ac yn gwahodd pobl i ddod i鈥檞 weld.
Cofia ddefnyddio iaith ac arddull bwrpasol i ddweud dy neges mewn ffordd gynnil a bachog:
- defnyddia deitl bachog a hiwmor, o bosib
- defnyddia eiriau pwrpasol
- defnyddia ferfau byrlymus ac addas, ee gelli di ddefnyddio ffurf orchmynnol y ferf:
- Edrycha! (ffurf unigol/anffurfiol)
- Edrychwch! (ffurf luosog/ffurfiol)
- cofia strwythuro鈥檙 poster yn ofalus 鈥 oes dilyniant llyfn, ac ydy'r drefn yn gwneud synnwyr?
- noda鈥檙 holl wybodaeth angenrheidiol, ee y lleoliad i bobl ddod i鈥檞 weld
Mae鈥檔 bwysig bod dy boster yn edrych yn drawiadol ac yn hawdd i鈥檞 ddarllen felly:
- defnyddia luniau syml
- defnyddia liw
- paid 芒 llwytho鈥檙 poster gyda gormod o wybodaeth 鈥 dewisa鈥檙 wybodaeth angenrheidiol yn unig
Cyn mynd ati i lunio dy boster, edrycha ar hwn.
Sut allet ti wella ar y poster yma? Beth sydd ar goll a beth allai fod yn well?
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Yn y chwedl, mae Branwen yn ysgrifennu llythyr i鈥檞 brawd, y cawr Bendigeidfran, yn s么n am ba mor anhapus mae hi a pha mor wael mae鈥檔 cael ei thrin.
Dychmyga mai ti yw Branwen.Ysgrifenna lythyr yn ymbil ar Bendigeidfran i ddod i dy achub.Cofia, mae Bendigeidfran yn frawd i ti felly ysgrifenna鈥檙 llythyr mewn iaith anffurfiol.
Os nad wyt ti鈥檔 si诺r sut mae ysgrifennu llythyr, clicia neu bwysa ar y linc yma.
Dyma rai syniadau:
Medri di ddefnyddio ebychnodau i bwysleisio dy deimladau yn y llythyr. Cofia, mae gennyt ti deimladau cryf am dy sefyllfa di ar hyn o bryd!
Beth am ddechrau yn syth gyda dy deimladau? Rwyt ti eisiau rhoi portread llawn o dy sefyllfa i dy frawd. Er enghraifft:
- Dw i mor anhapus!
- Dw i mor ddigalon!
Beth am ddechrau gyda chwestiwn, gan fod y llythyr yn gofyn am gyngor? Er enghraifft:
- Be wn芒i?
- Sut dw i鈥檔 dianc o鈥檙 sefyllfa yma?
Beth am ddechrau鈥檔 syth gyda鈥檙 naratif? Rwyt ti eisiau rhannu dy sefyllfa鈥檔 syth. Er enghraifft:
- Mae Matholwch wedi fy nghosbi ar gam!
- Dw i wedi fy ngharcharu yn y gegin!
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adrodd chwedl Branwen ferch Ll欧r yn hyderus
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- retell the tale of Branwen Ferch Ll欧r with confidence
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11