大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i ffynonellau dibynadwy a pheryglon newyddion ffug
  • Un fideo yn dangos y meini prawf i'w defnyddio wrth ystyried os yw ffynhonell yn ddibynadwy
  • Tri gweithgaredd i ddysgu mwy am bwysigrwydd ymchwil

Lesson content

  • One introduction to the importance of research and the dangers of fake news
  • One video explaining the critieria to use when assessing the credibility of sources
  • Three activities to learn more about the importance of research
Llinell / Line

Dibynadwyedd

Er mwyn ysgrifennu erthygl, traethawd, adroddiad neu roi cyflwyniad, gan amlaf bydd angen gwneud ymchwil a chwilio am wybodaeth.

Mae鈥檔 bwysig felly medru adnabod a gwahaniaethu rhwng y canlynol:

  • ffynonellau dibynadwy
  • ffynonellau annibynadwy
  • newyddion ffug

Mae dibynadwyedd ffynonellau yn gallu effeithio鈥檔 fawr ar safon ein hymchwil, ac ar gredadwyedd ein gwaith ni.

Beth yw ffynhonell ddibynadwy?

Mae ffynhonnell ddibynadwy yn cynnwys gwybodaeth sydd fel arfer:

  • yn ffaith
  • yn ddiduedd
  • yn gyfoes

Rhaid i ti fynd at ffynonellau dibynadwy er mwyn i dy waith ymchwil fod yn effeithiol.

Cofia gall ffynonellau ymchwil dibynadwy gynnwys:

  • ffynonellau鈥檙 llywodraeth, fydd 芒 .gov neu .llyw yn y teitl
  • ffynonellau鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fydd ag .nhs.uk yn y teitl
  • ffynonellau sefydliadau dielw, fydd 芒 .org.uk yn y teitl
  • ffynonellau masnachol, fydd 芒 .co.uk neu .com yn y teitl
  • gwefannau sy鈥檔 cynnwys .ac yn y teitl 鈥 fel arfer mae rhain yn perthyn i golegau a phrifysgolion

Adnabod ffynonellau dibynadwy

Mae cymaint o wybodaeth ar gael wrth wneud ymchwil ar farn pobl eraill, ac mae hi'n hawdd iawn cael hyd i'r wybodaeth ar-lein.

Ond mae鈥檔 hynod o bwysig gallu penderfynu os yw ffynhonnell gwybodaeth yn ddibynadwy ai peidio.

Mae pedwar maen prawf gelli di eu defnyddio wrth ystyried pa ffynonellau sy鈥檔 gredadwy, sef:

  • perthnasol
  • cyfoes
  • dibynadwy
  • defnyddiol
Llinell / Line

Fideo / Video

Mae鈥檙 ffilm isod yn defnyddio'r pedwar maen prawf sydd eu hangen wrth ystyried pa ffynonellau sy鈥檔 gredadwy.

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall beth yw'r pedwar maen prawf wrth ystyried os yw ffynhonnell yn ddibynadwy
  • ystyried peryglon dibynnu ar ffynonellau annibynadwy
  • medru adnabod ffynonellau dibynadwy ac annibynadwy gan ddilyn y pedwar maen prawf

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • understand what the four criteria are when assessing the credibilty of sources
  • consider the problems of relying on unreliable soures
  • recognise reliable and unreliable sources by applying the four criteria
Llinell / Line

Beth yw ffynhonell annibynadwy a newyddion ffug?

Mae ffynonellau annibynadwy a newyddion ffug yn debyg iawn.

Bydd ffynhonell annibynadwy yn cynnwys barn neu wybodaeth unochrog neu鈥檔 llawn tuedd. Mae blogiau neu fforymau sgwrsio yn gallu bod fel hyn.

Hefyd, gall ffynhonell annibynadwy gynnwys gwybodaeth sydd yn ymddangos yn ffeithiol, ond sydd mewn gwirionedd heb ei phrofi.

Enghraifft o ffynonellau fel hyn yw gwefan fel Wikipedia. Gall unrhywun addasu, ychwanegu neu ddileu鈥檙 wybodaeth ar Wikipedia, ac felly er bod llawer iawn o wybodaeth ddiddorol i'w gweld ar y tudalennau, nid yw鈥檔 gallu cael ei hystyried yn wefan hollol ddibynadwy.

Newyddion ffug

Mae straeon a newyddion yn ymddangos ym mhobman 鈥 ar gyfryngau cymdeithasol, ar ein ffonau ac ar y teledu. Bydd rhai straeon yn wir ac yn fanwl gywir, ond bydd rhai yn anghywir neu hyd yn oed yn ffug.

Weithiau gall newyddion ffug ymddangos yn ddibynadwy ar yr olwg gyntaf.

Rhaid edrych am yr arwyddion canlynol er mwyn gallu gwahaniaethu rhwng ffynhonell neu newyddion dibynadwy a newyddion ffug.

Y stori

  • Beth yw鈥檙 stori?
  • Ydy鈥檙 stori鈥檔 hysbyseb neu鈥檔 j么c?
  • Edrycha am yr un stori mewn man arall 鈥 a yw鈥檔 ymddangos?

Yr awdur

  • Ai ffaith neu farn rhywun yw鈥檙 darn?
  • Fel arfer, bydd gan ffynhonell ddibynadwy fanylion yr awdur arni. Os nad oes gan y darn fanylion yr awdur, rhaid ymchwilio ymhellach.

Y wefan

  • Oes camsillafu?
  • Oes diweddglo dibynadwy i鈥檙 cyfeiriad, ee 鈥.gov鈥,鈥.org鈥?

Y dyddiad

  • Ydy鈥檙 stori鈥檔 hen neu鈥檔 gyfoes?
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Edrycha ar y ddwy enghraifft isod. Mae un yn addasiad o'r math o gynnwys a welir ar wefan ddibynadwy ac mae'r llall yn enghraifft o'r math o beth a welir ar wefan annibynadwy.

Cymhara'r ddau ddarn isod gan nodi鈥檙 rhesymau pam fod un yn ddibynadwy a鈥檙 llall ddim.

Testun 1

Cyfeiriad:

Fi鈥檔 gweitho ar gyfer y cwmni NASA yn y USA, ac felly rwy鈥檔 arbenigwr ar holl ddigwyddiadau鈥檙 Bydysawd.

Dyma鈥檙 dyddiadau pywsig i chi gofio ar gyfer hanner cyntaf mis Mai 2020. Os ydych yn dymuno gweld dydddiadau ar gyfer hanner olaf y mis, yna cliciwch isod a thanysgrifiwch i鈥檙 wefan hon am dim ond 拢5 y mis!

Mai 5ed/6ed 鈥 Gallwch weld Seren Wib Lyrid yn saethu ttrwy鈥檙 awyr rhwng haner nos ar Fai鈥檙 5ed a gwawr y 6ed. / Mai 9fed 鈥 Bydd Lleuad Anferth (Supermoon) yn ymddagnos ar noson y nawfed.

Tanysgrifwch NAWR i weld gweddill y mis!!!

Testun 2

Cyfeiriad:

Mae NASA yn asiantaeth lywodraethol yr Unol Daleithiau sy'n gyfrifol am wyddoniaeth a thechnoleg sy'n gysylltiedig ag aer a gofod.

Dyma鈥檙 digwyddiadau pwysig ar gyfer mis Mai yng nghalendr NASA. Cliciwch ar y dyddiad am fwy o fanylion am y digwyddiad.

  • 5ed/6ed 鈥 Seren Wib Lyrid
  • 9fed 鈥 Lleuad Anferth
  • 20fed 鈥 Llong ofod yn cyrraedd y Wennol ofod
  • 29ain 鈥 Llong ofod yn gadael y Wennol ofod a chychwyn ar ei thaith

Cliciwch yma i weld misoedd y flwyddyn.

Dilynwch ein Trydar: @NASA

Cysylltwch 芒 ni fan hyn

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Rwyt ti wedi derbyn cais gan ymwelydd am enwau ac adolygiad am y gwestai gorau yn dy ardal leol.

Rhaid i ti ddefnyddio dy sgiliau ymchwil er mwyn ffurfio rhestr fer sy鈥檔 cynnwys adolygiadau dibynadwy am y ddau westy gorau yn dy ardal leol.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Meddylia am stori newyddion rwyt ti wedi ei chlywed yn ddiweddar. Gwna'n siwr ei bod yn stori genedlaethol neu'n stori ryngwladol rwyt ti'n credu i fod yn wir.

Nawr, edrycha ar-lein i weld os wyt ti'n gallu cael hyd i newyddion am y stori rwyt ti wedi ei dewis o ffynonellau eraill, er enghraifft darlledwyr ac asiantaethau newyddion, porwyr chwilio, cyfryngau cymdeithasol a safleoedd papurau newydd ar-lein.

  • Noda sut mae'r straeon am yr un pwnc yn wahanol i'w gilydd?
  • Pa ddarnau o'r un stori sydd yr un fath?
  • Beth am y lluniau?
  • Edrycha ar ddyddiadau'r adroddiadau - ydy rhai yn fwy diweddar nag eraill?
  • Wyt ti wedi cael hyd i rai straeon sy'n ymddangos yn amheus neu sy'n cynnwys gwybodaeth sydd ddim i'w gweld mewn ffynonellau eraill?
  • Pa un o'r adroddiadau wyt ti'n meddwl yw'r un mwyaf cywir a'r un gelli di ymddiried ynddo fwyaf?
  • Beth wyt ti wedi darganfod am dechnegau cyflwyno'r newyddion?
  • Sut mae'r cyfryngau cymdeithasol yn wahanol i'r asiantaethau newyddion? Ydyn nhw'n defnyddio'r un lluniau, yr un cyfweliadau, yr un dyfyniadau a'r un tystion?
  • Wyt ti wedi newid dy farn ynglyn 芒 ble i fynd i chwilio am wybodaeth ddibynadwy?

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU