Cynnwys y wers hon
- Un fideo am ddatblygu syniadau mewn ffordd greadigol
- Cyflwyniad i dechneg creu map meddwl
- Un gweithgaredd cynllunio cyflwyniad
Lesson content
- One video on developing ideas creatively
- Introduction to mind mapping technique
- One activity planning a presentation
Fideo / *Video *
Mapiau meddwl
Un o鈥檙 syniadau yn y fideo yw map meddwl. Beth felly yw map meddwl?
Mae'r dechneg o greu mapiau meddwl yn ffordd dda o gofio ffeithiau wrth adolygu.
Mae mapiau meddwl hefyd yn ffordd effeithiol i dy helpu i feddwl yn greadigol. Felly os wyt ti鈥檔 ceisio creu poster neu ffeithlun trawiadol neu eisiau datblygu cymeriad ar gyfer stori, gall map meddwl fod yn dechneg dda i鈥檞 defnyddio.
Darlun o sawl darn o wybodaeth yw map meddwl, ac mae'r dechneg yn cysylltu gwahanol syniadau gyda'i gilydd. Trwy wneud cysylltiadau rhwng y syniadau hyn, mae modd creu syniadau newydd.
Enghraifft
Mae angen dilyn cyfres o gamau er mwyn creu map meddwl.
Dychmyga dy fod angen creu taflen i godi ymwybyddiaeth o lygredd d诺r yn dy ardal di. Gall dilyn y pump cam isod i lunio map meddwl dy helpu i ddod o hyd i syniad:
Cam un
Yng nghanol y dudalen, tynna lun neu ysgrifenna beth yw鈥檙 thema, er enghraifft, sut i godi ymwybyddiaeth o lygredd d诺r.
Cam dau
Tynna ychydig o linellau neu 鈥榞anghennau鈥 trwchus sy鈥檔 ymestyn o鈥檙 brif thema. Dylai'r llinellau hyn dy helpu i drefnu dy feddyliau.
Er enghraifft, gallai dy ganghennau gynnwys rhai o鈥檙 ffyrdd gwahanol o godi ymwybyddiaeth pobl at lygredd d诺r, ee posteri, taflenni gwybodaeth, cyflwyniadau, ymgyrchoedd a cherddi.
Cam tri
Ym mhen draw pob cangen drwchus, gwna ganghennau teneuach yn nodi beth bynnag sy鈥檔 dod i dy feddwl.
Er enghraifft, gallai canghennau teneuach oddi ar air fel 鈥榯aflenni鈥 gynnwys syniadau o beth sydd angen bod ar daflen a ble i ddosbarthu鈥檙 taflenni. Gallet ddefnyddio delweddau a lluniau yn ogystal 芒 geiriau yma.
Cam pedwar
Ar 么l nodi dy holl syniadau, edrycha ar dy fap meddwl unwaith eto. Oes unrhyw gysylltiadau rhwng y syniadau? A oes modd ychwanegu saethau i gysylltu gwahanol rannau o dy fap meddwl?
Cam pump
Beth sy鈥檔 sefyll allan? Pan fyddi di鈥檔 gallu ateb y cwestiwn hwn, byddi di'n gallu cynnig syniad ar gyfer pecyn codi ymwybyddiaeth.
Gweithgaredd / *Activity *
Llunia gyflwyniad ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a fydd yn ymuno 芒 dy ysgol ym mis Medi. Pa bethau pwysig sy鈥檔 rhaid iddyn nhw ei wybod?
Beth am lunio map meddwl i gasglu syniadau?
Pa beth y bydd angen i鈥檙 disgyblion Blwyddyn 6 ei wybod am dy ysgol di? Manyla ar dy fap meddwl gan weld os oes cysylltiadau rhwng dy syniadau.
Ar 么l casglu dy holl syniadau, rwyt yn barod i greu dy gyflwyniad. Wyt ti am greu poster, blog, gwefan neu bamffled? Cofia fod angen i dy wybodaeth fod yn ddefnyddiol, yn ymarferol ac yn eglur.
Dilyna鈥檙 pump cam uchod er mwyn creu map meddwl i drefnu dy syniadau. Mae enghraifft isod i dy helpu.
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw map meddwl
- creu map meddwl effeithiol a defnyddiol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand what a mind map is
- create an effective and useful mind map
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11