ý

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Tyfu
  • Sut i gadw’n iach
  • Dannedd a sut i ofalu amdanyn nhw

Lesson content

  • Growing
  • How to stay healthy
  • Teeth and how to look after them
Llinell / Line

Tyfu

  • Mae pob anifail yn tyfu ac yn atgenhedlu.
  • Mae anifeiliaid yn tyfu ar wahanol gyflymdra yn ystod eu hoes.
  • Mae yna lawer o amrywiaeth - mae plant o'r un oedran yn amrywio mewn maint.
Llinell / Line

Dyma'r prif gyfnodau yng nghylch bywyd bodau dynol ac anifeiliaid eraill.

Cadw'n iach

  • Mae cadw'n iach yn golygu: deiet cytbwys, gorffwys, ymarfer corff, a gwneud dewisiadau call.

  • Mae bodau dynol (fel anifeiliaid) angen bwyd.

  • Mae arnom angen amrywiaeth fawr o fwydydd i roi deiet cytbwys i ni.

  • Mae'r bwyd yn cael ei dorri i lawr y tu mewn i'r corff ac mae'n gwneud yn siŵr ein bod yn tyfu, trwsio ac yn cael egni.

Dannedd

  • Mae dannedd yn gryf iawn.

  • Mae bodau dynol yn tyfu dwy set o ddannedd yn ystod eu hoes:

    • Dannedd babi (tua 20 dant)
    • Dannedd parhaol (tua 32 dant)
  • Mae gan fodau dynol dri phrif fath o ddannedd:

    • Rydyn ni'n defnyddio dannedd blaen i dorri bwyd.
    • Rydyn ni'n defnyddio dannedd llygaid i rwygo bwyd.
    • Rydyn ni'n defnyddio dannedd ôl (cilddannedd) i gnoi bwyd.
  • Mae dannedd yn wahanol mewn anifeiliaid eraill.

  • Mae bacteria yn y geg yn defnyddio siwgr fel bwyd ac yn gwneud asid, ac yn pydru'r dannedd. Felly mae bwyta siwgr yn ddrwg i dy ddannedd.

  • Drwy ofalu am y dannedd rydyn ni'n gallu gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn pydru. Mae ein deiet (calsiwm, fitamin C a halwynau mwynol), fflworid, brwsio ddwywaith y dydd, defnyddio edau dannedd, a mynd at y deintydd i gyd yn helpu.

Hafan ý Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan ý Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU