Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i'r rhagenwau, gan ganolbwyntio ar y rhagenwau trydydd person
- Un gweithgaredd i ymarfer rhagenwau'r trydydd person
Lesson content
- One introduction to the pronouns, concentrating on the third person pronouns
- One activity to practise the third person pronouns
Beth yw rhagenw?
Gair bach sy'n cyfeirio at yr hyn sy'n eiddo i berson yw rhagenw.
Mae rhagenwau yn bodoli yn y person cyntaf, yr ail a'r trydydd.
Yn y tabl isod, mae dwy golofn - y golofn gyntaf yw'r unigol, sydd bob tro yn cyfeirio at un person yn unig, a'r ail golofn yw'r lluosog, sy'n cyfeirio at fwy nag un person.
Unigol | Lluosog | |
---|---|---|
Person cyntaf | Fy | Ein |
Ail berson | Dy | Eich |
Trydydd person | Ei (g) / Ei (b) | Eu |
Rhagenwau yn y trydydd person
Efallai dy fod di'n meddwl ei bod hi ychydig yn rhyfedd fod dau air yn y blwch unigol trydydd person, sydd wedi eu sillafu yr un peth - ei (g) ac ei (b).
Mae un 'ei' yn cyfeirio at fachgen. Mae'r (g) sy'n ymddangos ar 么l 'ei' yn sefyll am y gair 'gwrywaidd'.
Ystyr ei (g) yw his yn Saesneg.
Mae'r 'ei' arall yn cyfeirio at ferch. Mae'r (b) yn sefyll am y gair 'benywaidd'.
Ystyr ei (b) yw her.
Ond mae ei (g) ac ei (b) wastad yn cyfeirio at un person yn unig.
Mae sillafiad y rhagenw trydydd person lluosog - eu - ychydig yn wahanol.
Ystyr eu yw their.
Mae nifer o dafodieithoedd yn ynganu'r tri gair yr un peth, ond mae tafodieithoedd eraill yn ynganu 'i' ac 'u' yn wahanol. Serch hynny, mae'n hawdd eu cymysgu.
Mae'r hyn sy'n digwydd ar 么l y rhagenw trydydd person yn hanfodol bwysig. Pam?
Gan fod ei (g), ei (b) ac eu i gyd yn swnio'n debyg iawn i'r glust, yr unig ffordd o wybod pa un rwyt ti'n ei olygu yw drwy dreiglo rhai geiriau sy'n dilyn.
Treiglo ar 么l ei (g)
Treiglad meddal sydd yn dod ar 么l ei (g).
Dysga'r frawddeg yma i dy helpu gyda'r treiglad meddal.
Peintiodd
Tad
Catrin
Bont
Dafydd
Gyda
Lliw
Melyn
Rhyfedd
Llythyren gyntaf pob gair yn y frawddeg yma yw'r naw llythyren sy'n gallu treiglo'n feddal. Does dim un llythyren arall yn treiglo'n feddal.
Cofia'r frawddeg.
Dyma sut mae'r llythrennau yn newid:
Llythyren | Newid | |
---|---|---|
P | > | B |
T | > | D |
C | > | G |
B | > | F |
D | > | Dd |
G | > | - |
Ll | > | L |
M | > | F |
Rh | > | R |
Os oes gair sy'n dechrau gydag un o'r llythrennau yma ar 么l rhagenw trydydd person unigol gwrywaidd, yna rhaid treiglo yn feddal.
- cadair > ei gadair ef
- llaw > ei law ef
Ond does dim angen treiglo geiriau sydd ddim yn dechrau ag un o'r naw llythyren uchod, fel:
- ffenestr - ei ffenestr ef
Treiglo ar 么l ei (b)
Gyda'r ail fath o ragenw trydydd person unigol - ei (b) - mae treiglad llaes yn digwydd.
Mae tair llythyren yn newid ar ddechrau gair, a dyma sut:
Llythyren | Newid | |
---|---|---|
T | > | Th |
C | > | Ch |
P | > | Ph |
Dyma rai enghreifftiau:
- tad > ei thad hi
- p锚l > ei ph锚l hi
Ond does dim treiglad ar gyfer geiriau sy'n dechrau gydag unrhyw lythyren arall:
- bag > ei bag hi
Cofia
Un peth pwysig arall sydd rhaid i ti ei gofio. Os oes gen ti air sy'n dechrau gyda llafariad, sef:
- a
- e
- i
- o
- u
- w
- y
rhaid i ti ychwanegu'r llythyren H i ddechrau'r gair, ee:
- afal > ei hafal hi
- ysgol > ei hysgol hi
Treiglo ar 么l eu
Nid oes angen treiglo o gwbl ar 么l y rhagenw trydydd person lluosog, sef eu.
Ond, os yw'r gair ar 么l eu yn dechrau gyda llafariad, sef:
- a
- e
- i
- o
- u
- w
- y
rhaid i ti ychwanegu 'h' i ddechrau'r gair, ee:
- ysgol > eu hysgol nhw
- orenau > eu horenau nhw
Gweithgaredd / Activity
Faint wyt ti'n ei gofio am y rhagenwau trydydd person?
Cywira'r brawddegau canlynol:
- Eisteddodd John ar ei beic.
- Ei tad ef gafodd sioc.
- Roedd ei cath hi yn ddel.
- Mae ei trwyn hi yn dwt.
- Roedd ei coes ef yn dost.
- Cafodd Angharad ei arian hi yn 么l yn y pendraw.
- Roedd eu freichiau nhw yn flinedig.
- Mae eu ysgol nhw ar gau heddiw.
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11