大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cyflwyniad i Bedair Cainc y Mabinogi
  • Un fideo o chwedl gyntaf y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed
  • Un gweithgaredd i gywiro gwallau gramadegol o fewn testun
  • Dau weithgaredd i brofi dealltwriaeth o鈥檙 stori

Lesson content

  • An introduction to the Four Branches of the Mabinogi
  • One video of the first story in the Mabinogi, Pwyll Pendefig Dyfed
  • One activity to correct grammatical errors within a text
  • Two activities to test your understanding of the story
Llinell / Line

Pedair Cainc y Mabinogi

Mae Pedair Cainc y Mabinogi yn un o brif drysorau llenyddiaeth Gymraeg. Mae arbenigwyr yn credu bod y pedair cainc wedi cael eu hysgrifennu bron i fil o flynyddoedd yn 么l, ond hyd yn oed nawr mae鈥檙 cyfuniad o gymeriadau arwrol sydd ynddyn nhw, a鈥檙 bydoedd llawn hud a lledrith yn golygu eu bod nhw mor gyffrous ac mor fyw ag erioed.

Y cyfarwydd

惭补别鈥檙 Mabinogi yn perthyn i draddodiad y cyfarwydd. Stor茂wr proffesiynol oedd y cyfarwydd - a鈥檌 waith oedd diddanu a pharatoi adloniant yn llysoedd y brenhinoedd yng Nghymru. Byddai鈥檔 perfformio鈥檙 chwedlau i鈥檙 brenhinoedd yn y llys. Roedd y cyfarwydd yn gallu cofio cannoedd o straeon, ond yn naturiol, roedd manylion y chwedlau yn newid yn aml gan fod y straeon yn cael eu trosglwyddo ar lafar o berson i berson, ac o genhedlaeth i genhedlaeth.

Beth, felly, sy鈥檔 gwneud Pedair Cainc y Mabinogi mor arbennig?

Wel, yn y lle cynta, maen nhw鈥檔 straeon gwych - yn llawn cyffro, tensiwn a dirgelwch. Mae鈥檔 debyg bod llawer o鈥檙 cymeriadau yn y straeon wedi bod yn dduwiau Celtaidd yn wreiddiol, felly mae鈥檙 straeon yn trafod them芒u mawr, er enghraifft:

  • bywyd
  • marwolaeth
  • chwedloniaeth
Llinell / Line

Fideo 1 / Video 1

惭补别鈥檙 fideo yma鈥檔 adrodd chwedl Pwyll Pendefig Dyfed.

Pwyll Pendefig Dyfed

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Ceisia ateb y cwestiynau yma. 惭补别鈥檙 wybodaeth yn y fideo, felly gwylia'r fideo eto os nad wyt ti鈥檔 si诺r o rai o鈥檙 atebion.

  1. Beth yw ystyr Pendefig?
  2. Beth oedd cosb Pwyll?
  3. Beth oedd enw鈥檙 ferch ar y ceffyl gwyn?
  4. Pwy oedd Rhiannon i fod i briodi?
  5. Beth wnaeth Pwyll a Rhiannon i Gwawl?
  6. Am sawl blwyddyn barodd cosb Rhiannon?
  7. Pwy welodd plentyn bach yn gorwedd tu allan i'r drws?
  8. Beth oedd yr enw a roddwyd ar y plentyn bach wedi iddo ddychwelyd at Pwyll a Rhiannon?

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Darllena鈥檙 darnau canlynol. Mae tri gwall ym mhob darn.

Chwilia am y gwallau a chywira nhw.

  1. Gwelodd pwyll yn syth ei fod wedi gwneud camgymeriad. Roedd y dyn ar gefn y ceffyl yn iawn. Nid cwn Pwyll oedd wedi lladd y carw, ond y c诺n gwyn 芒'r clustiau coch. Aeth Pwyll ati ar unwaith i ymddiheiro.
  2. Bu鈥檙 ddau yn byw鈥檔 llawen yn nheyrnasoedd eu gilydd, a neb o holl bobl Annwn na Dyfed yn amau dim o gwbl. Gweithiodd Arawn yn caled a rheolodd yn doeth dros dir Dyfed, a bu Pwyll yn frenin da yn Annwn. Felly y bu am flwyddyn gyfan.
  3. Erbyn hyn, doedd dim byd yn bwysicach ym meddwl Pwyll na dod i wybod pwy oedd y ferch osgeiddig ar y geffyl gwyn, ac erbyn y trydydd diwrnod roedd wedi cael syniad. Doedd dim amdani ond mynd ar ei h么l ei hunan! Ac felly y bu. Pan ymddangosodd y ferch yn y wisg aur a鈥檌 hwyneb dan orchidd gwyn am y trydydd tro tra oedd Pwyll yn eistedd ar Orsedd Arberth, neidiodd ar gefn ei geffyl gorau a carlamu fel y gwynt ar ei h么l.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Bwrdd stori

Wrth lunio bwrdd stori, mae鈥檔 rhaid crynhoi鈥檙 chwedl drwy dynnu llun a chrynhoi'r digwyddiadau mewn brawddeg.

Meddylia am y cwestiynau canlynol wrth i ti greu bwrdd stori:

  • Sut mae鈥檙 chwedl yn dechrau?
  • Beth yw prif ddigwyddiadau鈥檙 chwedl?
  • Pwy yw cymeriadau鈥檙 chwedl a beth maen nhw鈥檔 gwneud?
  • Beth yw canlyniadau鈥檙 gweithredoedd yma?
  • Sut mae鈥檙 chwedl yn gorffen?

Cer ati i grynhoi鈥檙 chwedl i wyth bocs gan ysgrifennu prif ddigwyddiadau鈥檙 chwedl o dan bob llun.

Image caption,
Mae fframwaith bwrdd stori yn edrych yn debyg i hyn.
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn:

  • gyfarwydd 芒 chwedl Pwyll Pendefig Dyfed
  • medru crynhoi鈥檙 stori ar lafar ac yn weledol

Notes for parents

After completing the lesson, students will be:

  • familiar with the story of Pwyll Pendefig Dyfed
  • able to summarise the story both verbally and visually

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU