Cynnwys y wers hon
- Un gerdd i鈥檞 hastudio
- Tri gweithgaredd i ymarfer sgiliau gwerthfawrogi a chreu barddoniaeth
- Un fideo gyda syniadau i dy ysbrydoli i ysgrifennu darn o farddoniaeth
Lesson content
- One poem to study
- Three activities to practise poetry writing and appreciation
- One video with ideas to inspire you to write a poem
Mae s诺n yn chwarae rhan bwysig mewn barddoniaeth o bob math: s诺n a rhythm y gerdd; y synau mae鈥檙 bardd yn ei ddisgrifio i greu darlun a phwysigrwydd s诺n wrth ddisgrifio emosiwn.
Pa synau wyt ti鈥檔 eu hoffi? Pa synau wyt ti鈥檔 eu cas谩u? Oes rhai synau yr wyt yn eu clywed ar un adeg o鈥檙 dydd yn unig?
Fideo / Video
Gwylia鈥檙 fideo neu darllena鈥檙 gerdd sy鈥檔 trafod pa synau mae鈥檙 bardd, T Llew Jones yn eu clywed yn y nos.
'厂诺苍' gan T Llew Jones
Liw nos ni chlywir, medden nhw,
Ond hwtian oer y 驳飞诲颈-丑诺:
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu鈥檔 drwm.
Ond celwydd noeth yw hynny i gyd,
Mae鈥檙 nos yn llawn o s诺n o hyd;
Mi glywais i, un noson oer,
厂诺苍 c诺n yn udo ar y lloer.
Mi glywais wedyn, ar fy ngair,
厂诺苍 llygod bach yn llofft y gwair 鈥
Rhyw s诺n fel s诺n y gwynt trwy鈥檙 dail,
Rhyw gyffro bach a sibrwd bob yn ail.
A chlywais wedyn, ar 么l hyn,
Grawcian brogaod yn y llyn;
A chlywais unwaith, ar fy ngwir,
Gyfarth y llwynog o鈥檙 Graig Hir.
Pan ddring y lloer a鈥檙 s锚r i鈥檙 nen,
A gwaith y dydd i gyd ar ben,
Pan gilia pawb i鈥檙 t欧 o鈥檙 clos,
Cawn gyfle i wrando ar leisiau鈥檙 nos.
Trysorfa T. Llew Jones, gol. Tudur Dylan Jones, Gomer, 2004
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Llunia restr o鈥檙 holl anifeiliaid sy鈥檔 ymddangos yn y gerdd. Pa synau maen nhw鈥檔 eu gwneud?
Anifail | 厂诺苍 | |
---|---|---|
Er mwyn cyfleu鈥檙 synau sydd yn y gerdd, mae鈥檙 bardd yn defnyddio nifer o dechnegau. Beth am i ni astudio tri?
Odli
Efallai dy fod wedi sylwi ar batrwm yn y gerdd. Odl yw鈥檙 enw ar y patrwm yma. Mae鈥檙 bardd yn defnyddio odl er mwyn rhoi rhythm i鈥檙 gerdd i helpu cyfleu鈥檙 s诺n.
Liw nos ni chlywir, medden nhw,
Ond hwtian oer y 驳飞诲颈-丑诺:
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu鈥檔 drwm.
- Mae geiriau olaf llinell 1 a llinell 2 yn odli gyda'i gilydd.
- Mae geiriau olaf llinell 3 a llinell 4 hefyd yn odli gyda'i gilydd.
- Yr enw ar b芒r o linellau sy'n odli fel hyn yw 'cwpled'.
- Wyt ti'n gallu dod o hyd i'r parau eraill sy'n odli?
Ansoddeiriau
Mae鈥檙 bardd hefyd yn defnyddio ansoddeiriau. Gair sy鈥檔 disgrifio yw ansoddair. Er enghraifft:
- hapus
- cyffrous
- rhewllyd
Yma, mae鈥檙 bardd yn defnyddio鈥檙 ansoddeiriau i bwysleisio bod rhai pobl yn credu bod y nos yn ddistaw, a鈥檙 unig beth i鈥檞 glywed yw鈥檙 驳飞诲颈-丑诺. Mae鈥檔 mynd ymlaen i bwysleisio pa mor anghywir yw hyn.
Wyt ti鈥檔 gallu gweld enghreifftiau eraill o ansoddeiriau yn y gerdd? Beth yw eu heffaith?
Cymariaethau / Cyffelybiaethau
Gwelwn enghraifft o gyffelybiaeth yn y gerdd hefyd. Defnyddiwn gyffelybiaeth wrth gymharu dau beth. Er enghraifft:
- yn boeth fel yr haul
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Wyt ti鈥檔 gallu gweld enghraifft o ansoddair yn y pennill isod?
Liw nos ni chlywir, medden nhw,
Ond hwtian oer y 驳飞诲颈-丑诺:
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu鈥檔 drwm.
Gweithgaredd 3 / Activity 3
A weli di enghraifft o gyffelybiaeth yn y pennill yma?
Mi glywais wedyn, ar fy ngair,
厂诺苍 llygod bach yn llofft y gwair 鈥
Rhyw s诺n fel s诺n y gwynt trwy鈥檙 dail,
Rhyw gyffro bach a sibrwd bob yn ail.
Felly, defnyddia鈥檙 bardd nifer o dechnegau er mwyn helpu creu darlun a chyfleu ei neges. Ond beth yw neges T Llew Jones? Beth mae o鈥檔 ei ddweud wrthym yn y gerdd?
Efallai ei fod am ddenu ein sylw i鈥檙 holl synau gwych sydd i鈥檞 clywed yn ystod y nos. Efallai ei fod eisiau denu ein sylw at fyd natur, a鈥檙 holl anifeiliaid sy鈥檔 effro yn ystod y nos.
Gan fod pob un ohonom yn dehongli cerdd yn wahanol, efallai dy fod di鈥檔 gweld rhywbeth arall yma. Mae hynny鈥檔 hollol iawn.
Gweithgaredd 4 / Activity 4
Pa synau wyt ti鈥檔 eu clywed yn ystod y nos?
Llunia restr o鈥檙 synau sydd i鈥檞 clywed yn dy gartref. Ychwanega ansoddeiriau a chyffelybiaethau er mwyn disgrifio鈥檙 s诺n.
Sut s诺n ydy o? Beth mae鈥檙 s诺n yn ei wneud?
Beth am roi tro ar ysgrifennu darn o farddoniaeth am bethau sy鈥檔 digwydd yn y nos?
Ceisia ddefnyddio odl a chofia ei osod fel cerdd.
Mae gennyt ti rai syniadau鈥檔 barod am bethau sy鈥檔 digwydd o gwmpas dy gartref ond mae croeso i ti ysgrifennu am bethau sy鈥檔 digwydd ymhellach i ffwrdd, efallai yn y dref neu ym myd natur.
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- gwerthfawrogi鈥檙 defnydd o odl, ansoddeiriau a chymariaethau mewn darn o farddoniaeth
- ysgrifennu darn o farddoniaeth
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- appreciate the use of rhyme, adjectives and similes in a piece of poetry
- write a piece of poetry
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11