ý

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cyflwyniad i ragenwau person cyntaf unigol a lluosog
  • Un cwis ar dreigladau trwynol
  • Cyflwyniad i ragenwau ail berson unigol a lluosog
  • Dau weithgaredd yn cadarnhau dealltwriaeth o dreiglo’n drwynol ac yn feddal ar ôl rhagenwau ail berson unigol a lluosog

Lesson content

  • An introduction to first person singular and plural pronouns
  • One quiz on nasal mutations
  • An introduction to singular and plural second person pronouns
  • Two activities reinforcing how to apply nasal and soft mutations following second person singular and plural pronouns
Llinell / Line

Beth yw rhagenw?

Yn syml, gair yn cyfeirio at berson yw rhagenw.

Rhagenw yw gair sy'n cael ei ddefnyddio yn lle enw wrth gyfeirio at berson, ee 'fi', 'chi', 'ti'.

UnigolLluosog
Person cyntaffyein
Ail bersondyeich

Cofia:

Unigol = un person

Lluosog = mwy nag un person

Rhagenwau person cyntaf unigol

  • ‘Fy’ (my yn Saesneg)

Mae’n rhaid treiglo’r llythrennau yma’n drwynol ar ôl ‘fy’:

  • p > mh
  • t > nh
  • c > ngh
  • b > m
  • d > n
  • g > ng

Eisiau help i gofio pa lythrennau sy’n treiglo’n drwynol?Cofia’r frawddeg yma:

Peintiodd tad Catrin bont dal gryf

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Cwestiwn 1

Pa frawddeg sy’n dy helpu i dreiglo’n drwynol?

  • a) Peintiodd mam Geraint bont dal gryf.
  • b) Peintiodd tad Catrin bont dal gryf.

Cwestiwn 2

Pa lythrennau mae’r frawddeg yna’n cynrychioli?

  • a) p m c b d e
  • b) p t c b d g

Cwestiwn 3

Ar ôl pa ragenw wyt ti’n treiglo’n drwynol?

  • a) Y rhagenw person cyntaf unigol, ‘fy'
  • b) Y rhagenw ail berson lluosog, ‘eich'

Llinell / Line

Rhagenwau person cyntaf lluosog

  • ‘Ein’ (our yn Saesneg)

Yr unig bryd rwyt ti’n treiglo ar ôl ‘ein’ yw pan fydd yn dod o flaen gair sy’n dechrau gyda llafariad, sef:

  • a
  • e
  • i
  • o
  • u
  • w
  • y

Os yw ein yn dod o flaen gair sy’n dechrau gyda llafariad rhaid ychwanegu ‘h’ cyn y llafariad, er enghraifft:

  • Ein hysgol ni
  • Ein hymdrech ni
  • Ein hofnau ni
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Treigla’r brawddegau yma.

  1. Rhwygais fy crys newydd.
  2. Mae tair ystafell yn fy tŷ.
  3. Mae ein arian ni yn ein pwrs ni.
  4. Mae fy cefnder yn gweithio yn yr ysbyty.
  5. Roedd yr ysbryd wedi fy dychryn.
  6. Teimlais fy coes yn chwyddo.

Rhagenwau ail berson

Mae dau ragenw ar gyfer yr ail berson:

  • ‘dy’ - unigol (your yn Saesneg)
  • ‘eich’ - lluosog (your yn Saesneg)

Mae’n rhaid treiglo’r llythrennau yma’n feddal ar ôl ‘dy’:

  • p > b
  • t > d
  • c > g
  • b > f
  • d > dd
  • g > diflannu
  • ll > l
  • m > f
  • rh > r

Eisiau help i gofio treiglo’n feddal?

Cofia’r frawddeg yma:

Peintiodd tad Catrin bont Dafydd gyda lliw melyn rhyfedd.

Nid wyt ti’n treiglo ar ôl ‘eich’

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Beth sydd o’i le yn y brawddegau yma?

  1. Mae dy brawd yn olygus iawn.
  2. Mae eich fam yn garedig.
  3. Roedd eich fab yn gas i mi.
  4. Cafodd dy tad gar newydd.
  5. Cawsoch eich fwyd yn hwyr.

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall fod angen treiglo ar ôl rhagenwau person cyntaf ac ail berson unigol a lluosog
  • treiglo’n hyderus ar ôl rhagenwau person cyntaf ac ail berson unigol a lluosog

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • understand the need to mutate words that follow first and second person singular and plural pronouns
  • confidently mutate words that follow first and second person singular and plural pronouns

Hafan ý Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan ý Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU