Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i'r treiglad meddal pan nad yw'n ymwneud yn benodol ag enw, ansoddair neu ferf
- Dau weithgaredd i ymarfer y treiglad meddal
Lesson content
- One introduction to the soft mutation when it is not exclusively linked to a noun, adjective or verb
- Two activities to practise using the soft mutation
Y treiglad meddal
Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu鈥檔 gywir yn Gymraeg.
Y treiglad mwyaf cyffredin yw鈥檙 treiglad meddal. Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio鈥檙 treiglad meddal, er enghraifft, mae rheolau arbennig i鈥檞 dilyn ar gyfer y treiglad meddal gydag enwau, gydag ansoddeiriau a鈥檙 treiglad meddal gyda berfau.
Ond hefyd, mae rheolau ychwanegol sydd angen eu dysgu ar gyfer defnyddio鈥檙 treiglad meddal.
Dyma dabl o鈥檙 llythrennau sy鈥檔 treiglo feddal a鈥檙 newid sy鈥檔 cymryd lle.
Llythyren | Treiglad meddal | ||
---|---|---|---|
p | > | b | |
t | > | d | |
c | > | g | |
b | > | f | |
d | > | dd | |
g | > | - | |
ll | > | l | |
m | > | f | |
rh | > | r |
Dyma'r rheolau ar gyfer y treiglad meddal pan nad yw'n ymwneud yn benodol ag enwau, ansoddeiriau na berfau.
1. Ar 么l y rhagenwau 鈥榙y鈥 ac 鈥榚i鈥 (gwrywaidd)
Am ragor o fanylion ac i ymarfer y rhagenwau, cer i鈥檙 gwersi canlynol: Rhagenwau 鈥 person 1af a鈥檙 2il berson a Rhagenwau 鈥 3ydd person.
tad > dy dad di
tad > ei dad ef/o
mam > dy fam di
mam > ei fam ef/o
ci > dy gi di
ci > ei gi ef/o
gweld > dy weld di
gweld > ei weld ef/o
2. Ar 么l 鈥榥eu鈥 ar gyfer enwau, ansoddeiriau a berfenwau
Enwau:
- coffi > te neu goffi
- te > coffi neu de
- drwg > da neu ddrwg
- merch > bachgen neu ferch
- bachgen > merch neu fachgen
- llai > mwy neu lai
Ansoddeiriau:
- gwyn > du neu wyn
- du > gwyn neu ddu
- bach > mawr neu fach
- mawr > bach neu fawr
Berfenwau:
- peidio > Wyt ti鈥檔 bwriadu mynd neu beidio?
- rhedeg > cerdded neu redeg
Does dim angen treiglo ffurf gryno鈥檙 ferf ar 么l 鈥榥eu鈥:
- cerddwch neu rhedwch
- rhedwch neu cerddwch
3. Dyddiau鈥檙 wythnos os wyt ti eisiau cyfleu diwrnod penodol
- dydd Mawrth = y diwrnod yn gyffredinol
- ddydd Mawrth = ar ddydd Mawrth penodol, ee ddydd Mawrth, 25 Mehefin
Mae鈥檙 rheol yma yn ddefnyddiol os wyt ti鈥檔 creu poster, taflen neu wahoddiad.
4. Wrth ddefnyddio鈥檙 amser fel adferf
- tair blynedd > Fe briodon nhw dair blynedd yn 么l.
- pob > Dw i鈥檔 mynd am dro bob dydd.
- gwastad > Mae hi wastad yn treiglo鈥檔 gywir.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena鈥檙 disgrifiad canlynol am fachgen o鈥檙 enw Si么n.
Chwilia am y gwallau treiglo - cofia fod 鈥榚i鈥 gwrywaidd yn achosi treiglad meddal.
Edrychai Si么n yn od o鈥檌 pen i鈥檞 draed. Roedd ei gwallt yn bentwr o gyrls sinsir, ei trwyn yn hir ac yn bigog, ei crys yn smotiau llachar a throwsus gwyrdd. Gwisgai esgidiau a oedd yn rhy fawr iddo, ac roedd ei cerddediad yn gam. Edrychai fel person o blaned arall!
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Cywira鈥檙 canlynol:
- dy cefn
- dy cot
- dy bag
- dy llyfrau
- dy llaw
- dy esgidiau
- dy gwefus
- dy trwyn
- dy pen
- dy maneg
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11