大象传媒

Gall y syniad o gadw eich plentyn gartref o鈥檙 ysgol beri i chi deimlo鈥檔 anesmwyth, boed hynny am ddiwrnod, wythnos neu fis.

Er y gall yr amser ychwanegol gyda'ch gilydd fel teulu fod yn fendith gudd weithiau, mae鈥檔 bosib y byddwch chi'n poeni eu bod nhw鈥檔 disgyn ar ei h么l hi gyda鈥檜 gwaith ysgol, neu鈥檔 poeni am ennyn eu diddordeb am y diwrnod cyfan - yn enwedig os ydych chi dan do!

Dyma bum ffordd y gallwch chi gadw eich plant - a'u hymennydd - yn brysur gartref.

1) Cadwch eu sylw nhw yn ystod amser dysgu

Os yw eich plant yn annhebygol o dreulio'r diwrnod wrth ddesg yn gwneud eu gwaith cartref, ffordd ddefnyddiol o ennyn eu diddordeb yn eu gwaith dysgu yw drwy wneud gweithgareddau rhyngweithiol yn ystod amser dysgu.

Mae gan 大象传媒 Teach dros 30 o recordiadau o raglenni rhyngweithiol 30 i 40 munud o'r enw Live Lessons (cynnwys Saesneg), a ddyluniwyd yn wreiddiol i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, sy'n cynnwys arbenigwyr blaenllaw a rhai o frandiau a doniau mwyaf y 大象传媒, gan gynnwys Doctor Who, Blue Planet Live a CBeebies.

Gydag adnoddau cysylltiedig y gellir eu hargraffu yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a Chyfnodau Allweddol, gallwch sicrhau bod eich plant yn dysgu hyd yn oed yn ystod amser sgrin (wrth i chi fachu鈥檙 egwyl fawr ei hangen honno a mwynhau paned o de).A wnawn ni ddim dweud wrthyn nhw mai gwaith ysgol yw hwn os gwnewch chi gadw鈥檙 gyfrinach hefyd.

2) Cadwch nhw鈥檔 heini

Os cewch chi eich gorfodi i aros y tu mewn, gall fod yn destun pryder nad yw eich plant yn gwneud y gweithgareddau corfforol sydd eu hangen arnyn nhw - yn enwedig gan fod (gwefan allanol).

Mae Super Movers yn gydweithrediad rhwng y 大象传媒 a'r Uwch Gynghrair B锚l-droed yn Lloegr i helpu plant i fod yn heini hyd yn oed mewn lleoedd cyfyngedig, ac mae'n hawdd ei weithredu yn eich cartref eich hun.Mae 'na weithgareddau llawn hwyl sydd wedi eu cynllunio i annog plant i symud, mae Super Movers yn gysylltiedig 芒'r cwricwlwm, felly gallwch fod yn sicr eu bod nhw'n dysgu wrth iddyn nhw gadw'n heini, hyd yn oed o fewn pedair wal eich ystafell fyw.

3) Cadwch eu boliau nhw鈥檔 hapus

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod plant yn gallu bod yn flin pan maen nhw eisiau bwyd, ac os ydych chi'n cael trafferth mynd allan, gall ceisio eu cael nhw i wneud rhywfaint o waith cartref wrth iddyn nhw sgrechian am hufen i芒 godi arswyd ar rywun.

Wel, peidiwch ag ofni, oherwydd mae gan 大象传媒 Food ganllaw gwych yn arbennig i chi ar sut i ddysgu eich plant drwy goginio (cynnwys Saesneg) 鈥 gan gynnwys cyfleu cysyniadau o ffracsiynau i ansoddeiriau a hyd yn oed ymarfer ieithoedd tramor modern.

Mae hyd yn oed yn cynnwys ryseitiau syml, gyda phopeth o gwcis darnau siocled i grempogau a hufen i芒, gan eich helpu i fodloni'r awydd am fwyd a rhoi eu hymennydd mewn g锚r yr un pryd.

4) Cadwch bethau鈥檔 gryno ac yn syml

Mae鈥檔 bosib y bydd hi'n demtasiwn rhoi rhaglen ddogfen ar y teledu fel y gall eich plant ddysgu am gyfnod hirach o amser, ond gallai hyn olygu nad ydyn nhw'n amsugno'r wybodaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Llwyth gwybyddol adnodd dysgu yw'r cydbwysedd rhwng yr her sydd yn y tasgau (pa mor anodd yw鈥檙 dasg a pha mor hir mae'r dasg yn para) a'r adnoddau sydd ar gael (gwybodaeth flaenorol plant a'r adnoddau sydd ganddyn nhw wrth law).

Dywed David Didau, yr ymgynghorydd addysg a'r awdur (cynnwys Saesneg), fod yn rhaid i gynnwys llwyddiannus daro ar gydbwysedd anodd ei gyrraedd 鈥 rhaid peidio 芒 chynhyrchu baich sydd mor fawr fel bod myfyrwyr yn colli diddordeb, ond rhaid peidio ag anelu yn rhy isel, i鈥檙 graddau nad yw鈥檙 dysgwyr yn cael eu herio.

Mae gan 大象传媒 Teach filoedd o glipiau byr, cysylltiedig 芒'r cwricwlwm, wedi eu cynllunio i'w defnyddio yn y dosbarth a all helpu i gyfleu pwyntiau dysgu allweddol, gan helpu eich plant i ddysgu'n fwy effeithiol.

5) Denwch nhw i ddod yn 么l dro ar 么l tro

Pa un ai am ddiwrnod ynteu am fis y bydd y plant gartref, gall fod yn anodd cynllunio gweithgareddau fel eu bod nhw'n aros yn brysur am y cyfnod cyfan - yn enwedig os ydych chi'n gweithio gartref ochr yn ochr 芒 nhw.

Os nad yw eich plant wedi defnyddio , nawr yw'r amser perffaith i wneud hynny. Dyluniwyd y wefan yn gyfan gwbl ar gyfer myfyrwyr, fel bod modd iddyn nhw fynd at y cynnwys yn hawdd heb i chi orfod poeni am dynnu鈥檙 llwch oddi ar eich hen lyfrau algebra.

Mae miloedd o gwisiau newydd am ddim ar gael i fyfyrwyr TGAU sydd wedi mewngofnodi, sy'n olrhain eu cynnydd ac yn addasu i'r hyn maen nhw wedi ei ddysgu wrth iddyn nhw fwrw ymlaen, ac mae'r gemau a ddyluniwyd ar gyfer plant oedran cynradd yn llawn hwyl, yn addysgiadol, ac yn cynnwys gwobrau a lefelau yn rhan o鈥檙 g锚m, felly byddan nhw eisiau dod yn 么l am ragor yn gyson.

Rhagor o adnoddau defnyddiol

- Adnoddau addysg cyfrwng Cymraeg ar wefan Llywodraeth Cymru.

- Adnoddau dysgu am ddim i ysgolion Cymru.

- Ystod o adnoddau Cymraeg i'w lawrlwytho am ddim.

- Casgliad o becynnau digidol am ddim ar-lein.

- Casgliad o glipiau sain ar gael ar-lein.

大象传媒 iPlayer Kids - Ap ar gyfer ff么n symudol neu dabled.

- Help i rieni gyda rhaglenni addysgol Cyw.

大象传媒 iPlayer CBeebies - Rhaglenni i blant dan 6 oed.

大象传媒 iPlayer C大象传媒 - Rhaglenni i blant rhwng 6 ac 12 oed.

Gemau Bitesize i blant cynradd (cynnwys Saesneg) - O Karate Kats i Crystal Explorers, mae llwyth o gemau cyffrous drwy gyfrwng y Saesneg ar wefan 大象传媒 Bitesize.

Cymru Fyw - Sut i helpu plant ymdopi heb ysgol?

- Gweithgareddau ar gyfer plant cynradd i'w mwynhau dan do.

- Gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc 11-13 oed.

- Gweithgareddau ar gyfer plant dros 14 oed.

- Adnoddau ystafell ddosbarth ar gyfer athrawon.

- Adnoddau am ddim ar gyfer pobl ifanc.

- Addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth am ddim.

Bitesize TGAU

Canllawiau adolygu

Bitesize TGAU

Mathemateg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau

Mathemateg 8-11 oed

Bitesize CA2 Cymraeg

Fideos a gweithgareddau

Bitesize CA2 Cymraeg