大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i iaith ac arddull ysgrifennu blog
  • Enghreifftiau o flogiau
  • Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu鈥檔 anffurfiol
  • Un gweithgaredd i ysgrifennu blog gwyliau

Lesson content

  • One introduction to the language and style of blog writing
  • Examples of blogs
  • One activity to practise writing informally
  • One activity to write a holiday blog
Llinell / Line

Blog

Dyddiadur personol ar-lein yw blog.

Gall unrhyw un sefydlu blog. Mae'n ffordd hawdd o gysylltu a rhannu gwybodaeth gyda phobl eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o fater penodol.

Pwrpas blog yw bod y person sy'n ysgrifennu'r blog yn trafod testun sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw.

Felly, mae blog yn gallu trafod unrhyw bwnc, ond dyma enghreifftiau o destunau poblogaidd:

  • digwyddiad
  • taith
  • barn am bwnc penodol
  • adolygu ffilm, darn o gerddoriaeth neu nofel

Iaith ac arddull blog

Mae'r rhan fwyaf o flogwyr yn defnyddio arddull anffurfiol wrth ysgrifennu, hynny yw y math o Gymraeg y byddet ti'n ei defnyddio mewn llythyr at ffrind neu mewn neges e-bost.

  • Mae angen i ti ysgrifennu鈥檔 gronolegol, hynny yw mewn trefn amser, ee bore, wedyn prynhawn, ac yna'r nos.
  • Gan amlaf, mae angen ysgrifennu yn y person cyntaf (fi/ni).
  • Defnyddia iaith bob dydd yn hytrach na iaith ffurfiol, ee dw i/rwy'n; chdi; bant.
  • Cadwa鈥檙 wybodaeth yn syml gyda brawddegau byr.
  • Dewisa deitl sy鈥檔 tynnu sylw ac sy鈥檔 crynhoi cynnwys y blog.

Sut i ddenu pobl at dy flog?

Mae dros 31 miliwn o bobl yn y byd yn blogio, sy鈥檔 golygu ei fod yn gyfrwng poblogaidd i rannu gwybodaeth. Felly, sut mae denu sylw at dy flog?

Mae iaith ac arddull yn bwysig, ond hefyd cofia:

  • ysgrifenna flog sy鈥檔 dy ddiddori di, yna rwyt ti鈥檔 debygol o siarad gydag angerdd
  • defnyddia luniau trawiadol i gyflwyno gwybodaeth
  • ceisia osod y blog mewn ffordd sy鈥檔 ddeniadol ac yn hawdd i鈥檞 ddarllen
  • cofia - gall unrhyw un ysgrifennu blog, felly paid 芒 bod ofn rhoi cynnig arni!

Agoriad blog

Mae'r llinell gyntaf mewn unrhyw flog yn rhoi'r cyfle i ti ddenu dy ddarllenwyr yn syth.

Drwy hoelio sylw'r darllenwyr, gydag unrhyw lwc, bydden nhw'n dymuno darllen gweddill dy flog. Wedi'r cwbl, mae mwy gen ti i鈥檞 ddweud yng ngweddill y blog, a fydd yn y pendraw, gobeithio, yn procio meddwl y darllenydd.

Dyma rai enghreifftiau o sut i fachu diddordeb y darllenydd ar dechrau dy flog:

  • dyfyniad diddorol
  • ystadegyn syfrdanol
  • ffaith nad ydy鈥檙 darllenydd yn gwybod amdani
  • hiwmor
  • cwestiwn sy'n procio meddwl y darllenydd
Llinell / Line

Enghraifft 1 / Example 1

Dyma enghraifft sy'n cynnwys iaith ac arddull arferol blog.

Merched ysbrydoledig

Mae diwedd y flwyddyn yn adeg dda am restr, dydy? Mae鈥檙 flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn merched arbennig. Dyma ddwy sydd wedi fy ysbrydoli i fwyaf.

Greta Thunberg

Ai Greta Thunberg yw merch enwoca鈥檙 byd? Synen i daten!! Mae鈥檙 ferch ifanc hon, gyda鈥檌 llais bychan ond neges bwysig yn gyfarwydd i bobl o bedwar ban byd, o hemisffer y de i hemisffer y gogledd. Mae ei hymgyrch i ddenu sylw at newid hinsawdd wedi ysbrydoli pobl ifanc i godi eu llais a mynnu bod gwleidyddion yn troi eu sylw at ddelio gyda鈥檙 argyfwng hinsawdd. Mae鈥檔 ddi-flewyn ar dafod, sy鈥檔 ypsetio rhai gwleidyddion ond yn fy mhlesio i - merch ifanc sy鈥檔 dweud ei dweud, beth sy鈥 ddim i鈥檞 hoffi?

Billie Eilish

Am lais, am dalent! Nid ar chwarae bach mae cynhyrchwyr 'franchise' James Bond yn gwahodd rhywun i ysgrifennu a recordio c芒n agoriadol un o鈥檜 ffilmiau, ond mae鈥檙 fraint honno鈥檔 dweud yn glir cymaint o dalent yw鈥檙 gantores ifanc yma. Gyda鈥檌 llais soprano hudolus, mae ei harddull canu鈥檔 freuddwydiol ac yn wahanol iawn i鈥檙 traciau pop ac R&B digon cyffredin sy鈥檔 amlwg ar hyd siartiau cerddoriaeth y byd. A hithau 鈥榤ond yn ddeunaw oed, mae鈥檙 dyfodol yn ddisglair tu hwnt i gantores 鈥楥芒n y Flwyddyn鈥, Grammy鈥檚 2020, Billie Eilish.

Llinell / Line

Enghraifft 2 / Example 2

Dyma enghraifft o flog gwyliau. Mae'n cynnwys iaith ac arddull arferol blog, ond mae hefyd yn defnyddio lluniau a lliwiau deniadol i ddenu'r darllenwyr.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Mae angen defnyddio iaith anffurfiol wrth ysgrifennu blog.

Newidia鈥檙 brawddegau ffurfiol isod i Gymraeg anffurfiol, gan edrych yn benodol ar y ffurfiau berfol. Mae'r enghraifft gyntaf wedi ei gwneud yn barod.

Cymraeg ffurfiolCymraeg anffurfiol
Cerddaf i鈥檙 dref.Dw i鈥檔 cerdded i鈥檙 dre'.
Af allan i鈥檙 siop bob dydd.
Nid wyf yn hoffi mynd yn y car.
Nid oeddwn yn mwynhau teithio pan oeddwn yn fach.
Nid oedd gennym ni anifail anwes.
Euthum i ar wyliau haf i Sbaen.
Cefais feic pan oeddwn yn ddeuddeg oed.
Credaf fy mod yn eu hadnabod yn weddol dda.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dychmyga dy fod eisiau ysgrifennu blog am wyliau arbennig.

Cyn mynd ati i ysgrifennu dy flog gwyliau, arbrofa gyda dy agoriad trwy ddefnyddio鈥檙 enghreifftiau rwyt ti wedi dysgu amdanyn nhw uchod. Cofia gallet ti ddewis o bump gwahanol fath o agoriad cyn i ti ysgrifennu gweddill dy flog, sef:

  • dyfyniad diddorol
  • ystadegyn syfrdanol
  • ffaith nad ydy鈥檙 darllenydd yn gwybod amdani
  • hiwmor
  • cwestiwn sy'n procio meddwl y darllenydd

Pa bynnag agoriad rwyt ti'n ei ddewis o'r rhestr uchod, cofia fod yn gryno ac i鈥檙 pwynt!

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall beth yw blog
  • deall pa fath o iaith ac arddull i'w defnyddio mewn blog
  • ysgrifennu blog yn hyderus, gan ddefnyddio iaith anffurfiol

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • understand what a blog is
  • understand the type of language and style required in a blog
  • confidently write a blog using informal language

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU