Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad am sut i greu poster neu daflen effeithiol
- Un fideo yn edrych ar iaith berswadiol i'w defnyddio mewn poster effeithiol
- Tri gweithgaredd i dy helpu i lunio posteri a thaflenni effeithiol
Lesson content
- One introduction on how to create effective posters and leaflets
- One video looking at effective persuasive language in posters
- Three activities to help you create an effective poster or leaflet
Posteri
Mae posteri i鈥檞 gweld ymhob man 鈥 ar ochr adeiladau, ar gefn bws, wrth arhosfan bws, mewn ffenestri siop, ac ar ochr y ffordd. Fel arfer, maent yn denu sylw gyda鈥檜 lluniau lliwgar, ffont amrywiol a鈥檜 dyluniad syml. Gall poster fod yn fawr neu鈥檔 fach, ond yr un bwriad sydd gan bob un, sef dy atynnu di i ddarllen ei gynnwys!
Beth yw pwrpas posteri?
Prif bwrpas poster yw i roi gwybodaeth, gwerthu cynnyrch neu i hysbysebu digwyddiadau.
Mae llawer o gystadleuaeth, felly mae angen i dy boster di ddal sylw鈥檙 gynulleidfa.
Cyn cynllunio poster, taflen neu unrhyw arddangosiad gweledol, dylet ti ystyried y cwestiynau isod yn ofalus.
- Pwy yn union yw鈥檙 gynulleidfa?
- Ble dylai鈥檙 poster gael ei arddangos er mwyn dal sylw'r gynulleidfa?
- Beth yw'r neges mae angen ei chyfleu?
Iaith ac arddull
O ran iaith, mae angen i dy boster fod yn fachog, yn fyr ac yn syml.
Os wyt ti鈥檔 hysbysebu cyngerdd er enghraifft, bydd yn hollbwysig i ddangos ble a phryd bydd y digwyddiad yn cymryd lle.
Dyluniad
Mae鈥檙 defnydd o luniau lliwgar yn bwysig, er mwyn gwneud i dy boster sefyll allan fwy. Ond paid 芒 defnyddio gormod o luniau bach, neu bydd y poster yn edrych yn anhrefnus. Byddai un llun mawr yn gweddu yn well.
O ran edrychiad, mae defnyddio鈥檙 ffont cywir yn bwysig hefyd. Mae cymaint o ddewis, felly cym dy amser i ddewis yr un sy鈥檔 gweddu orau. Paid 芒 dewis dy hoff ffont dy hun, ond hytrach meddylia am beth fydd yn apelio at y gynulleidfa darged, er enghraifft ar gyfer plant ifanc iawn, byddai ffont gyda llythrennau mawr, clir yn addas. Neu ar gyfer cyngerdd clasurol, beth am ffont mwy soffistigedig? Byddai pobl sydd yn dymuno mynychu digwyddiad hanesyddol efallai yn hoffi gweld ffont mwy hen ffasiwn, sy鈥檔 edrych fel hen lawysgrif.
Lleoliad
Ble fydd dy boster yn ymddangos? Rhaid i gynnwys dy boster fod yn addas ar gyfer ei leoliad. Er enghraifft, mae'n debygol byddai llai o destun mewn poster ar gefn bws na mewn hysbyseb mewn cylchgrawn.
Mae hyn oherwydd bydd gan bobl mwy o amser i ddarllen gwybodaeth mewn cylchgrawn. Ar y llaw arall, bydd angen deall y neges ar fws yn sydyn iawn, oherwydd bydd y bws yn symud ac felly yn mynd o鈥檙 golwg yn fuan.
Fideo / Video
Mewn t欧 anniben, llawn chwerthin, mae tri o ffrindiau yn cyd-fyw. Mae鈥檙 criw鈥檔 llunio poster i鈥檞 busnes newydd gan ddefnyddio ysgrifennu perswadiol.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- defnyddio nodweddion arddull iaith addas mewn ffordd hyderus
- deall beth yw geiriau perswadiol a'u defnyddio yn hyderus
- cofio ystyried y gynulleidfa darged
- deall a defnyddio cwestiynau rhethregol
- deall a defnyddio geiriau cyfarwyddiadol drwy ddefnyddio berfau gorchmynnol
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- confidently use appropriate linguistic characteristics
- understand what persuasive words are and use them confidently
- remember to consider the target audience
- understand and use rhetorical questions
- understand and use instructional words by using the imperative forms of the verb
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Gwylia'r fideo uchod a noda'r prif nodweddion iaith sy鈥檔 cael eu cyflwyno.
Taflenni
Mae taflenni yn cyfleu neges mewn ychydig iawn o eiriau. Yn aml, mae'r neges yn cael ei chrynhoi ar ochr neu ddwy yn unig o dudalen fach o bapur.
Yn ogystal 芒 chynnwys gwybodaeth, mae taflenni yn aml yn ceisio perswadio鈥檙 darllenydd i wneud rhywbeth. Maen nhw鈥檔 ddull poblogaidd o godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig.
Dyma鈥檙 camau sydd eu hangen wrth fynd ati i greu taflen lwyddiannus.
Er mwyn annog pobl i ddarllen dy daflen, bydd angen teitl bachog neu lun a fydd yn dal sylw鈥檙 darllenydd.
Ar 么l dal sylw鈥檙 darllenwyr, mae angen i ti geisio cadw eu sylw nawr, a gwneud yn si诺r eu bod yn darllen y daflen ac yn deall dy neges. Mae rhannu testun yn ddarnau bach a byr yn gallu bod yn effeithiol. Mae鈥檔 bosibl gwneud hyn drwy ddefnyddio blychau testun, penawdau ochr a phwyntiau bwled.
Yn olaf, mae angen i ti nodi鈥檔 glir beth rwyt ti eisiau i鈥檙 darllenwyr ei wneud. Hynny yw, mae angen ystyried beth yw pwrpas y daflen. Ai gofyn am gyfraniadau, annog pobl i osgoi prynu cynnyrch penodol, neu eu hannog i gefnogi achos penodol yw'r pwrpas?
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Darllena鈥檙 paragraff agoriadol hwn o daflen sy鈥檔 perswadio pobl i ymweld 芒 pharc adloniant.
Diwrnod o ddifyrrwch i bawb!
Hoffi cael hwyl fel teulu? Mwynhau teimlo gwefr a chyffro? Mae鈥檙 Parc Adloniant Arbennig yn berffaith i chi!
Wedi鈥檌 leoli yng Nghanolbarth Cymru, mae Parc Adloniant Arbennig yn cynnig atyniadau sy鈥檔 addas ar gyfer pob aelod o鈥檙 teulu 鈥 plant bach, arddegwyr, rhieni ac hyd yn oed Neiniau a Theidiau! Mae gennym ni gwt cyfforddus a chlyd ar gyfer y ci hyd yn oed 鈥 yn rhad ac am ddim!
Dewch i brofi鈥檙 sbort a sbri! Ni fyddwch yn cael eich siomi.
Ymwelwch 芒鈥檔 gwefan am fwy o wybodaeth 鈥 www.ParcAdloniantArbennig.cymru
Labela鈥檙 nodweddion arddull ac iaith rwyt ti鈥檔 eu gweld.
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ysgifenna daflen neu boster i berswadio pobl i ddod i Gymru ar gyfer eu gwyliau haf.
Cofia ystyried y canlynol cyn i ti fynd ati:
- pwrpas y darn
- y gynulleidfa darged
- teitl bachog
- technegau perswadio, er enghraifft berfau, ansoddeiriau, cwestiynau
- lluniau
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11