Cynnwys y wers hon
- Un fideo yn cyflwyno ymson
- Un gweithgaredd i ymgyfarwyddo gydag ymson
- Un gweithgaredd i ymgyfarwyddo gyda nodweddion arddull ymson
- Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu ymson
Lesson content
- One video explaining what a soliloquy/monologue is
- One activity to familiarise you with the tone and style of a soliloquy/monologue
- One activity to familiarise you with the writing style and language used in a soliloquy/鈥媘onologue
- One activity to practise writing a soliloquy/monologue
Fideo / Video
Meini prawf ymson
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Dyfala ymsonau pwy yw鈥檙 rhain
Ymson 1
Tybed ym mha wlad fyddwn ni nos yfory yn perfformio i don o gefnogwyr swnllyd, chwyslyd? Ers i ni ennill yr X Factor yn 2011, dwi wedi mwynhau'r profiad o deithio i bedwar ban byd ond weithiau, byddai鈥檔 braf cael bywyd cyffredin unwaith eto 鈥 cerdded y stryd heb haen o golur a鈥檙 paparatsi bondigrybwyll yn fy anwybyddu鈥檔 llwyr.
Ymson 2
M么r o goch yn fy amgylchynu a鈥檙 stadiwm dan ei sang. Mae fy nghoesau fel jeli ac mae鈥檙 chwys yn llifo lawr fy wyneb fel afon fyrlymus. Clywaf fonllefau鈥檙 dorf. Bydd y gic nesaf yn dyngedfennol. Cic bwysicaf fy ngyrfa. Rhaid i mi lwyddo ac ennill balchder y t卯m trwy sicrhau bod y b锚l yn treiddio trwy鈥檙 pyst er mwyn i ni gipio鈥檙 Gamp Lawn. Mae鈥檙 pilipala yn fy stumog yn troelli.
Ymson 3
Hola! Mae angen i mi gofio prynu 鈥榡el鈥 heddiw er mwyn gosod fy ngwallt i fyny yn y 鈥man bun鈥 enwog! Chwysaf ym mhoethder Madrid a dwi鈥檔 hiraethu am fy nheulu yng Nghymru. Mae Giggs wedi rhoi cymaint o bwysau ar fy ysgwyddau ond rwy鈥檔 barod am yr her a鈥檙 sialens. Bydd y ddraig ar fy nghalon yn fy atgoffa i鈥檔 gyson o fy ngwreiddiau yng Nghymru fach ac am ein llwyddiant ysgubol yn yr Euros. Iawn, rownd o golff amdani heddiw rwy鈥檔 credu!
Ymson 4
Bydda i byth yn diflasu ar weld lluniau fy mhriodas yn y cylchgronau lliwgar - roedd e鈥檔 ddiwrnod perffaith! 鈥淩howch lonydd i mi blant!鈥 Pwy fysai鈥檔 meddwl bod magu tri o blant mor anodd! Maen nhw鈥檔 ddrygionus ac yn gwrthod rhannu eu teganau drud ond ta waeth, dwi ar fy ffordd i agoriad sioe heno ac mi fydd fflachiadau鈥檙 camera arna i ac ar y gemwaith yn fy nghoron a fydd yn disgleirio fel s锚r y nos. Byddaf ar flaen tudalen pob papur newydd yfory.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Darllena鈥檙 enghraifft o 鈥榊mson Pennaeth鈥 isod.
Ymson Pennaeth
Mis Medi arall! Dyma fendigedig! Dw i wrth fy modd cael bod yn 么l yn fy swyddfa bwysig, glyd am chwech o鈥檙 gloch y bore!
Do, ges i a fy nheulu wyliau arbennig yn haul braf de Ffrainc ond does dim yn well na chael dod yn 么l i gyfarch mil o ddisgyblion brwdfrydig, gweithgar yn Ysgol Gyfun Pantglas.
Edrychaf allan dros y caeau gwyrdd sydd fel cyrtiau tennis Wimbledon, ac aroglaf y gwair ffres sydd newydd ei dorri. Mae llifoleuadau'r cwrt 鈥榓stro鈥 yn nodwyddau tal, llachar sy鈥檔 disgleirio yn yr haul gloyw, a does dim un cwmwl yn yr awyr las uwchben.
Aroglaf y coffi cryf a ddaw drwy鈥檙 drws o 鈥榮tafell Mrs Jones, fy ysgrifenyddes garedig.
Llusga ceir yr athrawon i鈥檙 maes parcio fel malwod ar siwrne ddiflas 鈥 rhai gwyrdd, arian, coch, du, melyn, fel lliwiau鈥檙 enfys.
Daw pob un allan o鈥檜 ceir mor iach 芒 chneuen ar 么l ymlacio ar y traethau. Mae鈥檔 si诺r y gallan nhw flasu halen y m么r ar eu crwyn o hyd. Ond, dw i鈥檔 sicr na fydd hynny yn para am yn hir. Blasu ac arogleuo hylifau glanhau鈥檙 glanhawyr ffyddlon fyddan nhw ar 么l awr yn y lle yma.
Llifa鈥檙 morgrug o ddisgyblion trwy鈥檙 gatiau cadarn gan gyfarch ei gilydd yn hapus. Clywaf ambell wich fel llygoden, neu ruo fel llew, yn atseinio ar draws yr iard. Mae eu crysau polo lliw gwin yn fy atgoffa o鈥檙 nosweithiau braf ar fy ngwyliau. Mae mor hyfryd gwybod nad fi yn unig sy鈥檔 teimlo mor gyffrous ar gychwyn blwyddyn ysgol newydd.
Iawn te, gorffen fy nghoffi, brwsio fy ngwallt, rhoi fy nhei yn syth, gwisgo fy siaced ac i lawr 芒 fi i groesawu fy mhlantos bendigedig yng ngwasanaeth cyntaf y flwyddyn. Sgwn i ba heriau a ddaw i鈥檔 wynebu ni i gyd eleni?
Nawr, chwilia am y nodweddion arddull, gan nodi enghraifft o bob nodwedd rwyt ti'n dod o hyd iddi mewn tabl. Mae'r enghraifft gyntaf wedi ei gwneud yn barod i ti.
Cofia, efallai bydd mwy nag un nodwedd, felly noda鈥檙 un gyntaf rwyt ti'n dod ar ei thraws.
Enw鈥檙 nodwedd | Enghraifft o'r ymson | |
---|---|---|
Cwestiwn rhethregol | Sgwn i ba heriau a ddaw i鈥檔 wynebu ni i gyd eleni? | |
Iaith lafar | ||
Ebychnod | ||
Cyfeirio at synhwyrau | ||
Brawddeg hir | ||
Teimladau/emosiwn | ||
Amser presennol y ferf | ||
Digwyddiad o鈥檙 gorffennol | ||
Edrych ymlaen at y presennol | ||
Ansoddair | ||
Cymhariaeth/cyffelybiaeth | ||
Trosiad |
Defnyddio amser presennol y ferf
Does dim rhaid defnyddio 鈥楻ydw i鈥︹ bob tro rwyt ti'n ysgrifennu ymson.
Er mwyn amrywio dy ysgrifennu, defnyddia ferfau yn yr amser presennol gan ddefnyddio'r ffurf gryno.
Mae ffurf gryno'r person cyntaf unigol yn yr amser presennol yn gorffen gydag 鈥揳蹿, ee:
- Rydw i鈥檔 teimlo鈥 > Teimlaf鈥 / Teimlaf i
Cofia! Rhaid treiglo gwrthrych yn feddal ar 么l ffurf gryno'r ferf, ee:
- Gwelaf __dd__eilen yn cwympo oddi ar y goeden.
- Gwisgaf __b__芒r o esgidiau newydd鈥
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Cwblha鈥檙 ymarfer canlynol trwy newid pob brawddeg i ffurf gryno amser presennol y ferf. Mae'r frawddeg gyntaf wedi ei gwneud i ti yn barod.
- Rydw i鈥檔 cerdded 鈥 Cerddaf i
- Rydw i鈥檔 yfed
- Rydw i鈥檔 gwylio
- Rydw i鈥檔 sylwi
- Rydw i鈥檔 cysuro
- Rydw i鈥檔 chwerthin
- Rydw i鈥檔 chwilio
- Rydw i鈥檔 siarad
- Rydw i鈥檔 dawnsio
- Rydw i鈥檔 crynu
- Rydw i鈥檔 cr茂o
- Rydw i鈥檔 gwenu
- Rydw i鈥檔 poeni
- Rydw i鈥檔 cytuno
Gweithgaredd 4 / Activity 4
Ysgrifenna baragraff agoriadol ymson person enwog cyn ei fod/bod ar fin cyflawni rhywbeth cyffrous. ee:
- ymson canwr/cantores wrth iddo/iddi sefyll ar ochr y llwyfan
- ymson actor/actores cyn iddo/iddi gael clyweliad mewn ffilm
- ymson athletwr/athletwriag cyn iddo/iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth yn y Gemau Olympaidd
Cofia bod angen:
- defnyddio berfau yn yr amser presennol
- defnyddio'r ffurf gryno
- disgrifio dy deimladau a defnyddio dy synhwyrau
- holi cwestiynau i ti dy hun
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod beth yw ymson
- ysgrifennu ymson gan gofio defnyddio berfau鈥檙 presennol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- recognise a monologue/soliloquy
- write a monologue/soliloquy using present tense verbs
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11