Cynnwys y wers hon
- Grwpio pethau byw gan ddefnyddio allweddau
- Sut mae pethau byw wedi addasu i’w cynefin
Lesson content
- Grouping living things using classification keys
- How living things have adapted to their habitat
Grwpio pethau byw
Mae gwyddonwyr yn aml yn defnyddio allweddau i ddweud pa grŵp mae anifail neu blanhigyn yn perthyn iddo. Gallwn osod anifeiliaid a phlanhigion mewn grwpiau yn ôl gwahaniaethau a thebygrwydd. Nifer o gwestiynau ydy'r allwedd. Mae'r atebion yn helpu i adnabod yr anifail neu'r planhigyn. Y ffordd orau i ddeall hyn ydy rhoi cynnig ar un dy hun.
Gweithgaredd / Activity
Rho gynnig ar un dy hun.
- Edrycha ar y lluniau.
- Cymera un anifail ar y tro.
- Dechreua gyda'r cwestiwn cyntaf, a'i ateb ar gyfer yr anifail hwnnw'n unig.
- Dilyna'r llinell oddi wrth bob ateb.
Cynefinoedd
- Cynefin yw'r enw ar gartref naturiol rhywbeth byw.
- Mae cynefinoedd yn gallu bod yn fawr, fel coedwig, neu'n fach, fel deilen.
- Mae pethau byw wedi addasu i'w cynefinoedd. Mae ganddyn nhw nodweddion arbennig sy'n eu helpu i oroesi
Edrycha ar y lluniau i weld sut mae'r anifeiliaid a'r planhigion yma wedi addasu i'w cynefinoedd.
Mae'r eliffant yn cadw'n oer drwy ysgwyd ei glustiau mawr a defnyddio ei drwnc i chwistrellu llwch neu ddŵr drosto'i hun.
Mae gan yr hwyaden blu olewog i ddal dŵr a thraed gweog i nofio.
Mae gan wyddfid flodau sy'n cynhyrchu neithdar i ddenu pryfed er mwyn peillio. Mae'r aeron yn lliwgar er mwyn eu gwasgaru (mae adar yn cael eu denu gan y lliwiau llachar, yn bwyta'r aeron ac yn gollwng yr hadau mewn gwahanol lefydd).
Mae gan gorswellt y tywod wreiddiau hir er mwyn gallu cyrraedd dŵr, a dail tenau i wneud yn siŵr ei fod e ddim yn sychu.
Felly mae anifeiliaid a phlanhigion mewn gwahanol gynefinoedd yn addas i'w hamgylchedd.
Hafan ý Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11