Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i egluro sut i gyflwyno gwybodaeth ar lafar mewn araith
- Un fideo i egluro'r nodweddion sy'n gwneud cyflwyniad llafar da
- Tri gweithgaredd i dy helpu i lunio araith neu gyflwyniad llafar da
Lesson content
- One introduction on how to give an oral presentation or talk
- One video explaining the characteristics needed to give a good oral presentation
- Three activities to help you formulate a good oral presentation
Beth yw araith?
Cyflwyniad llafar yw araith.
Pwrpas araith yw cyflwyno gwybodaeth i gynulleidfa ar lafar. Gan amlaf, mae鈥檙 person sy'n cyflwyno鈥檙 araith eisiau i鈥檙 gynulleidfa gytuno gyda'u barn nhw.
Arddull
Mae鈥檔 bwysig dy fod yn paratoi dy waith yn ofalus er mwyn cyflwyno鈥檙 wybodaeth mewn ffordd ddiddorol a naturiol i鈥檙 gynulleidfa.
- Rhaid i ti gyfarch y gynulleidfa, a chyflwyno dy hun, ee Bore da, Lowri ydw i; Helo, Guto yw fy enw i.
- Rhaid i ti nodi am beth fydd yr araith yn s么n yn y paragraff agoriadol.
- Rhaid i ti fynegi dy farn a chynnig rhesymau i gefnogi.
- Rhaid i ti ddefnyddio iaith berswadiol.
- Rhaid i ti ddefnyddio tystiolaeth ar ffurf ystadegau i gefnogi dy farn.
- Rhaid i ti, ar adegau, ystyried dwy ochr y ddadl.
- Rhaid i ti gynnwys technegau, ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru.
Iaith
Berfau gorchmynnol
Mae'n bwysig siarad yn uniongyrchol gyda dy gynulleidfa, felly cofia ddefnyddio berfau gorchmynnol.
Mae berfau gorchmynnol yn cael eu defnyddio i roi cyfarwyddiadau, ac rwyt ti eisiau i鈥檙 gynulleidfa wneud yr hyn rwyt ti鈥檔 ei ddweud wrthyn nhw, ee:
- ceisiwch
- gofalwch
- gwrandewch
- gwyliwch
- meddyliwch
- ystyriwch
Brawddegau agoriadol defnyddiol
Dechreua dy frawddegau drwy fynd yn syth i鈥檙 pwynt. Bydd hyn yn dal sylw a diddordeb dy gynulleidfa. Dyma rai enghreifftiau:
- Heb amheuaeth鈥
- Heb yn wybod i mi鈥
- Yn fuan wedyn鈥
- Cyn bo hir鈥
- O鈥檙 diwedd鈥
Termau mynegi barn
Mae defnyddio termau fel y rhai isod yn dy helpu i gyfleu dy farn.
- Heb os nac oni bai鈥
- Yn fy marn i鈥
- 颁谤别诲补蹿鈥
- Does dim amheuaeth鈥
Cysyllteiriau defnyddiol
Defnyddia rhain i gadw dy araith yn llyfn ac yn drefnus.
- Fodd bynnag鈥
- O gymharu 芒鈥
- Serch hynny鈥
- Ar un llaw鈥
- Ar y llaw arall鈥
- Mae鈥檔 bosibl鈥
- I gloi鈥
Trefn dy gyflwyniad llafar
Dylai pob cyflwyniad llafar neu araith ddilyn y strwythur canlynol:
- agoriad - dyma'r darn ble rwyt ti'n cyfarch y gynulleidfa, yn cyflwyno dy hun, ac yn egluro testun a bwriad y cyflwyniad, ee rwyt ti鈥檔 gobeithio codi ymwybyddiaeth am destun, neu berswadio鈥檙 gynulleidfa i gytuno 芒 thi
- prif gorff y cyflwyniad - dyma'r darn ble rwyt ti'n mynegi dy farn bersonol yn ogystal 芒 barn pobl eraill, os yw'n berthnasol. Rwyt ti鈥檔 gallu ystyried a thrafod gwahanol safbwyntiau yma, hefyd
- casgliad - neu mewn geiriau eraill diweddglo cryf, sy'n crynhoi beth wyt ti wedi ei ddweud
Neu mewn geiriau syml iawn:
- dyweda wrth y gynulleidfa beth rwyt ti am ei ddweud
- dyweda fe
- dyweda wrthyn nhw eto, yn fyr iawn, beth rwyt ti newydd ei ddweud
Agweddau
Cofia bydd angen i ti rannu prif gorff dy gyflwyniad yn agweddau trefnus. Meddylia am agweddau fel is-deitlau ar gyfer cynnwys dy gyflwyniad. Mae agweddau鈥檔 sicrhau dy fod yn trefnu鈥檙 wybodaeth mewn ffordd sy鈥檔 glir i鈥檙 gynulleidfa.
Er enghraifft, petaet yn dewis cyflwyno gwybodaeth am Urdd Gobaith Cymru dyma鈥檙 math o agweddau y gallet eu trafod:
Agwedd un - Cefndir Syr Ifan ab Owen Edwards, sef sylfaenwr yr Eisteddfod
Agwedd dau - Hanes yr Eisteddfod
Agwedd tri - Gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan Llyn a Chaerdydd
Agwedd pedwar - Yr Urdd heddiw
Sut mae llwyddo?
Yn ogystal ag agor yn effeithiol, dyma bwyntiau eraill i ti eu hystyried wrth fynd ati i ddatblygu dy ddarn a ffurfio cyflwyniad cadarn:
- siarad gyda dy gynulleidfa 鈥 eu cyfarch ar y dechrau, wedyn diolch iddyn nhw am wrando ar dy ddarn ar y diwedd
- defnyddio lluniau drwy dechnoleg gwybodaeth neu sioe sleidiau, ond paid 芒 defnyddio gormod o luniau neu fydd y gynulleidfa ddim yn gallu canolbwyntio ar beth wyt ti'n ei ddweud
- siarad yn glir a dim mwmian
- cyflymder 鈥 siarad yn bwyllog a phaid 芒 siarad yn rhy gyflym
- iaith addas 鈥 dim bratiaith na geiriau Saesneg
- iaith ddiddorol a chreadigol 鈥 ansoddeiriau da, cyffelybiaethau, ailadrodd, trosiadau ayyb
- cloi yn effeithiol 鈥 dyma sut bydd y gynulleidfa yn dy gofio di a dy ddarn
- amseru dy ddarn i sicrhau nad yw'n rhy hir neu'n rhy fyr
- ymarfer yn gyson o flaen ffrind neu aelod o dy deulu cyn gwneud y cyflwyniad
Enghreifftiau
Edrycha ar y gwahanol enghreifftiau isod, a sylwa ar y gwahanol effaith mae鈥檙 tair yn eu cael.
Cyflwyniad: enghraifft un
"Gyfeillion, dw i'n mynd i gyflwyno gwybodaeth am ardal Abertawe. Yr agweddau fydda i'n eu trafod fydd ffeithiau am hanes y ddinas ac enwogion sy'n gysylltiedig 芒'r ardal, fel Michael Sheen, Catherine Zeta Jones a Dylan Thomas."
Sylwadau am enghraifft un
Mae'r darn uchod yn:
- cyfarch y gynulleidfa
- rhestru popeth yn drefnus
- cyflwyno'r testun yn effeithiol
Serch hynny, gallet ti ddadlau bod y darn yn ddiddychymyg braidd, er enghraifft efallai byddai dechrau'r cyflwyniad gyda darn o gerdd gan Dylan Thomas am Abertawe wedi gwneud mwy i ddenu sylw'r gynulleidfa.
Dydy'r siaradwr ddim wedi cyflwyno ei hun, a dydyn ni ddim yn clywed sut maen nhw'n teimlo am Abertawe. Ydyn nhw'n hoff iawn o'r ddinas, ai dyma'u cynefin nhw? Mae elfen bersonol fel hyn bob amser yn helpu wrth gyflwyno gwybodaeth ar lafar. Mae gan y gynulleidfa ddiddordeb ynot ti fel person, ac mae dangos dy bersonoliaeth wrth gyflwyno'r darn yn effeithiol iawn.
Cyflwyniad: enghraifft dau
"Gyfeillion, bore da i chi gyd. Fy enw i ydy Elan.
Pam fod merched yn dal i ennill llai na dynion yn y gweithle a ninnau bellach yn yr 21ain ganrif?
Dw i am drafod gyda chi heddiw pam fod merched sydd newydd raddio yn ennill miloedd yn llai na dynion sydd newydd raddio, gyda'r ystadegau diweddaraf a'r rhesymau yn fy marn i am yr anghydraddoldeb hwn."
Sylwadau am enghraifft dau
Mae'r darn uchod yn dechrau gyda chwestiwn sy'n mynd i apelio at chwilfrydedd y gynulleidfa ac yn dangos cryfder teimladau'r siaradwr tuag at y pwnc.
Mae'r siaradwr hefyd yn:
- cyfarch y gynulleidfa yn uniongyrchol
- cyflwyno ei hun
- defnyddio cwestiwn rhethregol ar y dechrau
- rhestru cynnwys y darn yn glir
- cynnig tystiolaeth dros ei safbwynt
- cysylltu 芒'r gynulleidfa
Cyflwyniad: enghraifft tri
"Dw i am drafod pam fod cyfryngau cymdeithasol yn beryglus i bobl ifanc. Maen nhw'n achosi bwlio a phroblemau cymdeithasol eraill."
Sylwadau am enghraifft tri
Mae'r darn hwn yn wan am nad yw'n cyflwyno'r testun yn effeithiol nac yn cyfarch y gynulleidfa.
Does dim ymgais i ddiddori'r gynulleidfa gyda'r frawddeg agoriadol. Nid yw'r agoriad yn rhestru cynnwys y darn yn ei gyfanrwydd, mae'n ailadrodd y gair 'cymdeithasol' ac nid yw'n cysylltu 芒'r gynulleidfa.
Fideo / Video
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall pwysigrwydd ennyn a chadw diddordeb y gynulleidfa o鈥檙 dechrau
- adnabod technegau i strwythuro cyflwyniad llafar yn effeithiol
- defnyddio ymadroddion sy鈥檔 sicrhau dilyniant llyfn ac arweiniad clir i鈥檙 cyflwyniad
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand the importance of drawing and keeping the audience鈥檚 attention from the very start
- recognise techniques to effectively structure an individual presentation
- use phrases that ensure a smooth and orderly delivery of a presentation
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Dyma ddwy enghraifft o baragraff agoriadol araith. Pa enghraifft yw鈥檙 orau yn dy farn di? Noda'r rhesymau pam bod un yn well na'r llall.
Enghraifft un
Annwyl gyfeillion. Aaron ydw i, a rydych chi wedi ymgasglu yma heddiw i wrando ar fy araith am hela llwynogod, pwnc sydd yn fy marn i, yn hynod o bwysig i ni yma yng Nghymru heddiw. Wrth wrando ar fy araith, cewch gyfle i ystyried nifer o ddadleuon gwahanol o blaid ac yn erbyn hela llwynogod. Mae digon i鈥檞 ddweud 鈥 mae ymladd teirw wedi bod yn bwnc gyda digon o drafod tanllyd amdano yn ddiweddar. Tybed beth yw eich barn chi? Tybed a ydych chi鈥檔 cytuno gyda mi fod y weithred o hela llwynog yn un hynod o farbaraidd a chreulon? Neu, a ydych chi鈥檔 un o鈥檙 rhai hynny sydd yn cyfaddef bod y llwynog druan yn haeddu鈥檙 fath greulondeb? Os ydych chi鈥檔 cyfri eich hun yn rhan o鈥檙 ail garfan, yna rwy鈥檔 gobeithio y byddaf yn llwyddo i newid eich meddyliau erbyn diwedd fy araith.
Enghraifft dau
Annwyl Flwyddyn 10. Mae technoleg yn felltith oherwydd gall arwain at fwlio. Mae 14 y cant o blant yn y DU wedi cael eu bwlio trwy gyfrwng ffonau symudol. Dw i鈥檔 credu mai rhan o鈥檙 broblem yw bod camer芒u a gwefannau cymdeithasol fel Facebook ar gael ar y ffonau symudol erbyn hyn sydd yn achosi llawer o broblemau.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Mae'n rhaid cofio nodweddion arddull arbennig i roi yn dy gyflwyniad llafar. Wyt ti'n cofio beth ydyn nhw?
Profa dy hun drwy aildrefnu'r diffiniadau isod a'u rhoi yn y lle cywir.
Techneg | Pwrpas | |
---|---|---|
Cwestiwn rhethregol | Nodi mwy nag un rheswm neu ffaith un ar 么l y llall i bwysleisio. | |
Cyfarch y gynulleidfa | Dweud yr un peth fwy nag unwaith i bwysleisio. | |
Rhestru | Gofyn cwestiwn lle nad oes angen ateb iddo, er mwyn annog y gynulleidfa i feddwl. | |
Ailadrodd | I sicrhau bod dy farn a dy safbwynt yn glir. | |
Ymadroddion sy鈥檔 mynegi barn | Annog y gynulleidfa i feddwl a theimlo bod y cyflwynydd yn siarad gyda nhw. |
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ysgrifenna gyflwyniad ar un o鈥檙 testunau isod.
- Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn fuddiol i bobl ifanc.
- Awdur/bardd/gwleidydd/chwaraewr/gwyddonydd enwog.
- Llysieuaeth (vegetarianism) yw ein dyfodol.
Ar 么l i ti orffen, cyflwyna鈥檙 darn ar lafar i dy ffrindiau neu aelodau o'r teulu a gofynna iddyn nhw am eu barn.
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11