Cynnwys y wers hon
- Defnyddiau sy’n dargludo gwres
- Defnyddiau sy’n ynysu gwres
Lesson content
- Materials that conduct heat
- Materials that are thermal insulators
Dargludyddion thermol
Mae rhai defnyddiau yn gadael i wres basio trwyddyn nhw’n hawdd. Yr enw ar ddefnydd fel hyn yw dargludydd thermol. Mae dargludydd thermol (dargludydd gwres) yn ddefnydd sy'n dargludo gwres yn dda ac yn gyflym.
Mae metelau yn ddargludyddion thermol da.
Ynysyddion thermol
Dydy rhai defnyddiau ddim yn gadael i wres basio trwyddyn nhw yn hawdd. Rydyn ni'n galw'r math yma o ddefnydd yn ynysydd thermol (ynysydd gwres).
Mae plastigau, pren, corc a rhai ffabrigau yn ynysyddion thermol da.
- Mae ynysyddion thermol yn dda am gadw gwres allan.
- Mae ynysyddion thermol yn dda am gadw gwres i mewn.
- Mae'n bwysig cofio bod hyd yn oed ynysyddion yn dargludo gwres ond maen nhw'n gwneud hynny'n araf.
Hafan ý Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11