大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i'r arddodiaid sydd angen treiglad meddal ar eu h么l, a sut i ddefnyddio arddodiaid yn gywir gyda berfau
  • Un fideo, sy'n cynnwys gweithgaredd, i egluro sut i dreiglo'n gywir ar 么l arddodiaid
  • Un cyflwyniad ar gyfer gwaith ymestynnol i ddysgu mwy am sut i redeg arddodiaid a dysgu pa arddodiaid i'w defnyddio gyda berfau arbennig
  • Un gweithgaredd i osgoi camgymeriadau cyffredin wrth ddefnyddio arddodiaid gyda berfau

Lesson content

  • One introduction to the Welsh prepositions that need to be followed by a soft mutation, and how to use the prepositions correctly with verbs
  • One video, which includes an activity within it, to explain how to mutate correcty after prepositions
  • One introduction for extended work to learn more about how to conjugate prepositions and learn which ones to use with certain verbs
  • One activity to help you avoid common mistakes when using prepositions with verbs
Llinell / Line

Beth yw arddodiad?

Mae arddodiad yn dangos y berthynas rhwng gair ac enw neu ragenw.

Dyma'r arddodiaid mwyaf cyffredin yn Gymraeg:

  • am, ar, at
  • dan, dros, drwy
  • wrth, gan, heb
  • hyd, i, o

Mae'r arddodiaid yma yn arbennig iawn, oherwydd mae treiglad meddal yn gorfod dilyn pob un. Felly, mae'n bwysig iawn i ti geisio eu cofio nhw.

Treiglo'n feddal ar 么l arddodiaid

Mae treigladau'n golygu bod rhai llythrennau ar ddechrau gair yn gallu newid. Mae'r newid yn dibynnu ar ba air sy'n dod o flaen y llythyren. Mae angen treiglo'n feddal ar 么l yr arddodiaid sydd wedi eu nodi uchod.

Dyma dabl i dy helpu i gofio'r treigladau meddal. Mae'n dangos enghreifftiau o eiriau yn treiglo'n feddal ar 么l yr arddodiaid arbennig.

LlythyrenEnghraifft o airTreiglad ar 么l arddodiad
p > bpenar ben
t > d迟芒濒heb d芒l
c > gcego geg
b > fbawddan fawd
d > dddimam ddim
g > -gwenugan wenu
ll > lllawwrth law
m > fmarwolaethhyd farwolaeth
rh > rrhyddiddros ryddid

Enghreifftiau / Examples

Edrycha ar sut mae arddodiaid yn cael eu defnyddio yn y brawddegau isod. Mae pob arddodiad o鈥檙 rhestr uchod wedi achosi i鈥檙 gair sy鈥檔 dilyn dreiglo鈥檔 feddal.

  • Es i i'r dre __ar f__ws wyth o'r gloch.
  • Ymddiheurodd __am b__eidio 芒 dweud y gwir wrth ei gyfaill.
  • Ei breuddwyd hi yw i chwarae __dros G__ymru.

Dyma enghreifftiau o frawddegau eraill. Wyt ti'n gallu gweld bod mwy nag un treiglad meddal ynddyn nhw? Mae hyn am eu bod yn dilyn nifer o arddodiaid gwahanol o fewn yr un frawddeg.

  • Es i i'r gwely __am d__deg o'r gloch neithiwr __gan o__beithio cael noson __o g__wsg.
  • Dw i __ar b__igau'r drain __i w__ybod canlyniad y gystadleuaeth.
  • Danfonais i ebost __at g__yfaill yn s么n __am l__yfr gwych.

Eithriadau

Does dim angen treiglo ar 么l pob arddodiad - dim ond ar 么l yr arddodiaid yn rhigwm 'am, ar, at'. Er enghraifft, does dim angen treiglo ar 么l yr arddodiaid cyffredin hyn:

  • rhag
  • er
  • nes
  • cyn
Llinell / Line

Fideo

Gwylia'r wers gan athrawes Gymraeg i ddeall mwy am ba arddodiaid sydd angen treiglad meddal ar eu h么l.

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • cofio'r arddodiaid hynny sydd angen treiglad meddal ar eu h么l
  • deall pa lythrennau sy'n treiglo'n feddal
  • treiglo yn gywir ar 么l arddodiaid arbennig

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • remember the prepositions that need to be followed by a soft mutation
  • understand which letters take the soft mutation
  • mutate correctly after certain prepositions
Llinell / Line

Rhedeg arddodiaid (gwaith ymestynnol)

Os yw'r arddodiaid yn rhedadwy, maen nhw鈥檔 gallu rhoi gwybodaeth am y person neu'r peth maen nhw'n cyfeirio atyn nhw, ee yr arddodiad 'amdanaf fi' 鈥 rydym yn gallu gweld ei fod yn cyfeirio at y person cyntaf, sef 'fi'.

Mae'n bwysig cofio defnyddio'r ffurfiau cywir ar gyfer arddodiaid rhedadwy.

Dyma enghraifft yn y tabl isod ar gyfer yr arddodiad 'ar'.

UnigolLluosog
arnaf iarnom ni
arnat tiarnoch chi
arno e/o/hiarnynt hwy / arnyn nhw

Rhagenwau ac arddodiaid

Dyma'r rhagenwau Cymraeg:

  • fi
  • ti
  • fe/fo
  • hi
  • ni
  • chi
  • nhw

Pan mae rhagenw yn dilyn arddodiad mae angen rhedeg yr arddodiad sy鈥檔 dod o鈥檌 flaen.

Edrycha ar enghraifft o'r arddodiad 'gan' yn y tabl isod. Wyt ti鈥檔 gallu gweld bod 鈥榞an鈥 yn newid (hynny yw yn cael ei 'redeg') o flaen y rhagenwau? Mewn geiriau eraill, fyddai hi ddim yn gywir i ddweud 鈥榞an fi鈥, 鈥榞an chi鈥, 鈥榞an nhw鈥 ac yn y blaen. Mae'n rhaid rhedeg yr arddodiad.

UnigolLluosog
gennyf i / gen igennym ni
gennyt tigennych chi
ganddo e/o/higanddyn nhw

Camgymeriadau cyffredin gydag arddodiaid

Un camgymeriad cyffredin yw defnyddio'r arddodiad anghywir ar 么l berf neu ferfenw. Weithiau, mae hyn yn gallu effeithio ar ystyr y frawddeg, ee rwyt ti'n ysgrifennu at berson, ond yn ysgrifennu i sefydliad neu gwmni.

Cofia hefyd dy fod yn:

  • gofyn rhywbeth i rywun
  • dweud rhywbeth wrth rywun
  • siarad 芒 rhywun (ee wyneb yn wyneb, neu ar y ff么n)

Dyma enghreifftiau o ferfenwau sydd ag arddodiaid arbennig yn eu dilyn.

EnghraifftEnghraifftEnghraifftEnghraifft
Adrodd am/wrthCredu yn/amGofyn iGwedd茂o ar/am/dros
Rhyfeddu atYsgrifennu at bersonYsgrifennu i sefydliad/cwmniDisgwyl am/i
Gweiddi ar/amSiarad am/芒Amddiffyn rhagCyfarfod 芒
Anfon at/iAnelu atGofyn iDysgu i/am
Dylanwadu arHiraethu amSynnu atDweud wrth
Atal rhagCytuno 芒Ffarwelio 芒Mynd at/i
Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity

Edrycha ar y darn isod a newidia鈥檙 arddodiaid sydd wedi eu huwcholeuo i鈥檙 arddodiaid cywir ar 么l y ferf, fel bod y paragraff yn gywir.

Ysgrifennais i Lois Jones eto ddoe i ofyn iddi ddod i siarad ar destun pwysig iawn, sef 鈥楬awliau cyfartal i ferched' yn ein cyfarfod nesaf. Dw i wedi bod yn erfyn am Lois i fynychu ein cyfarfodydd ers sbel a dw i wedi dweud iddi ceith hi d芒l am ei hamser. Dywedais iddi i anelu am ddeng munud o gyflwyniad ac yna i fod yn barod am gwestiynau. Byddwn yn ffarwelio gydag ambell aelod hefyd gan fod Huw Rhys yn ymfudo at Ganada. Dw i wedi gofyn wrth y t卯m roi cyfraniad ato. Dw i am ysgrifennu at gwmni dylunio lleol nawr i gael ein siaradwr nesaf.

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU