大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo gan athro yn s么n am nodweddion ysgrifennu perswadiol
  • Un cyflwyniad i arddull ysgrifennu perswadiol
  • Un gweithgaredd i dy helpu adnabod nodweddion ysgrifennu perswadiol mewn hysbyseb
  • Un gweithgaredd yn seiliedig ar fideo i ymarfer ysgrifennu taflen berswadiol

Lesson content

  • One teacher-led video outlining the main features of persuasive writing
  • One introduction to techniques used in persuasive writing
  • One activity to help you recognise features of persuasive writing in an advert
  • One activity, based on a video, to practise writing a persuasive leaflet
Llinell / Line

Fideo 1 / Video 1

Gwylia鈥檙 fideo gan athrawes yn cyflwyno prif nodweddion ysgrifennu perswadiol.

Llinell / Line

Iaith ac arddull ysgrifennu perswadiol

Rwyt ti angen:

  • defnyddio tystiolaeth (hynny yw, ffeithiau) i gefnogi dy safbwynt
  • rhoi rheswm o blaid ac/neu yn erbyn pwynt
  • gofyn cwestiynau rhethregol
  • paragraff neu frawddeg rhagarweiniol

Gall iaith gadarnhaol a rhestru dy ddadleuon gadw dy waith yn drefnus a chadw diddordeb y darllenydd.

Dyma rai enghreifftiau o iaith gadarnhaol a iaith rhestru gallet ti eu defnyddio:

  • Yn gyntaf, 鈥
  • Yn ail,鈥嬧嬧
  • Yn drydydd,
  • Yn olaf,鈥嬧
  • Ar y naill llaw,鈥嬧
  • Yn sicr,
  • Heb os,
  • 鈥嬧婣r y llaw arall,
  • Yn fy marn i,
  • Does dim dwywaith amdani,

Efallai gallet ti feddwl am rai ychwanegol hefyd.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Edrycha'n ofalus ar yr hysbyseb isod, sy'n defnyddio enghreifftiau o iaith berswadiol.

Dyma enghraifft o daflen sy鈥檔 ceisio perswadio pobl i weithio i gwmni casglu ffrwythau

Fedri di baru鈥檙 arddull ysgrifennu cywir gyda鈥檙 enghreifftiau isod o iaith berswadiol sydd i'w gweld yn yr hysbyseb?

  • mwynhau bwyta ffrwythau, maethlon, ffres
  • Mae cefn gwlad Cymru dy angen di!
  • Wyt ti鈥檔 mwynhau helpu dy gymuned?
  • heini, gweithgar, brwdfrydig
  • Wyt ti鈥檔 mwynhau bod allan yn yr awyr iach?
ArddullEnghraifft
Agoriad trawiadol
Cwestiwn rhethregol i wneud i鈥檙 darllenydd feddwl
Iaith bositif
Iaith emosiynol
Apelio at deimladau鈥檙 darllenydd

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Gwylia鈥檙 fideo 鈥楽wyddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf鈥 isod, sy鈥檔 s么n am sefyllfa gwaith menywod cyn ac yn ystod y rhyfel.

Nawr dy fod wedi gwylio鈥檙 fideo, ysgrifenna daflen gan y Llywodraeth i berswadio menywod i fynd i weithio. Cofia ddefnyddio iaith berswadiol.

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • adnabod testun sy鈥檔 defnyddio arddull ysgrifennu perswadiol ac i ba bwrpas
  • deall a defnyddio arddull ysgrifennu perswadiol mewn testun creadigol eu hunain

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • recognise a text that uses persuasive writing techniques and for what purpose
  • understand and use persuasive writing techniques in a creative text of their own

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU