Cynnwys y wers hon
- Lluniau o symbolau trydan
- Egluro sut mae cerrynt yn gallu amrywio
Lesson content
- Images of electric symbols
- Explain how currents can vary
Symbolau trydan
Rydyn ni'n gallu tynnu llun o gylchedau trydan gan ddefnyddio symbolau. Dyma'r symbolau ar gyfer batri, gwifrau, bylbiau, swnwyr, moduron a switshis fel symbolau trydan.
Amrywio'r cerrynt
- Y mwyaf o fylbiau sydd mewn cylched, y gwannaf fydd y bylbiau.
- Y mwyaf o swnwyr a moduron sydd mewn cylched drydan, y tawelaf fydd y swnwyr a'r arafaf fydd y moduron.
1 batri + 1 bwlb. Mae golau'r bwlb yn llachar.
1 batri + 2 fwlb. Mae golau'r bylbiau yn wannach.
1 batri + 3 bwlb. Mae golau'r bylbiau yn wannach fyth - prin eu bod yn goleuo.
1 batri + 1 swnyn. Mae'r swnyn yn swnllyd iawn.
1 batri + 2 swnyn. Mae'r swnwyr yn llai swnllyd.
1 batri + 1 modur. Mae'r modur yn symud yn gyflym.
1 batri + 2 fodur. Mae'r modur yn symud yn arafach.
Switshis
- Pan mae'r switsh ar agor (i ffwrdd) mae'n torri'r gylched drwy wneud bwlch.
- Pan mae'r switsh ar gau (arnodd) mae'n dod â'r gylched ynghyd, ac yn ei gwneud yn gyflawn.
- Pan mae'r switsh ar agor nid oes cerrynt trydan a does dim dyfais drydan yn gweithio.
Hafan ý Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11