大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i ysgrifennu erthyglau
  • Tri gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu erthyglau

Lesson content

  • One introduction to writing articles
  • Three activities to practise writing articles
Llinell / Line

Beth yw erthygl?

Pwrpas erthygl yw trafod rhywbeth sydd wedi digwydd neu adrodd hanes, fel arfer heb fynegi barn ar y cynnwys.

Mae papurau newyddion yn cyhoeddi erthyglau, ond gelli di gael hyd i erthyglau ar-lein, mewn cylchgronau ac hefyd mewn papurau academaidd.

Bwriad erthygl yw cynnig gwybodaeth gyflawn am ddigwyddiad neu sefyllfa i鈥檙 darllenydd, hynny yw, ateb y cwestiynau canlynol - pwy, ble, pryd, beth a pham?

Darn o ysgrifen ffurfiol yw erthygl, gyda naws broffesiynol iddi. Gall erthygl gynnwys lluniau, is-deitlau a dyfyniadau gan wahanol ffynonellau, a hyd yn oed tystiolaeth llygad-dyst am ddigwyddiad.Mae erthygl dda yn cynnwys digon o fanylion ac yn crynhoi鈥檙 prif ddigwyddiadau pwysig.Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu erthygl:

  • ffurf - ym mha ffurf wyt ti鈥檔 ysgrifennu, ee erthygl
  • cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti鈥檔 ysgrifennu, ee plant, oedolion, dynion, menywod?
  • pwrpas - pam wyt ti鈥檔 ysgrifennu, ee i gyhoeddi, adrodd, adolygu?
  • arddull - sut wyt ti鈥檔 ysgrifennu, ee ffurfiol, difrifol, ffeithiol?
  • cynnwys 鈥 beth wyt ti鈥檔 ysgrifennu, ee adrodd digwyddiadau鈥檔 glir, ffeithiol ac yn ddiduedd, safbwyntiau eraill?

Mathau o erthyglau

Mae sawl math gwahanol o erthygl, ee:

  • cylchgrawn
  • papur newydd
  • erthygl ar y we
  • erthygl academaidd

Iaith ac arddull

Rhaid cofio鈥檙 nodweddion canlynol wrth ysgrifennu erthygl.

  • Dewis pennawd trawiadol.
  • Dweud beth sydd wedi digwydd yn syml, yn drefnus ac yn glir.
  • Defnyddio disgrifiadau ffeithiol a defnydd da o ansoddeiriau a chymariaethau.
  • Rhaid ateb y cwestiynau: pwy? beth? ble? pryd? pam? sut?
  • Gall erthygl fod wedi cael ei hysgrifennu yn y presennol neu鈥檙 gorffennol.
  • Rhaid ysgrifennu鈥檙 erthygl yn y trydydd person, ee ef, hi, nhw, ei, eu.
  • Mae angen i ti ddefnyddio berfau amhersonol, ee gwelwyd, darllenwyd.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Darllena鈥檙 enghraifft o erthygl papur newydd isod, yna ateba鈥檙 cwestiynau yma:

  • Pwy?
  • Ble?
  • Pryd?
  • Pam?
  • Sut?

Wrecsam yn Ennill

Ionawr 23, 2016

Wrecsam 3鈥1 Lincoln

Daeth rhediad gwael Wrecsam i ben gyda buddugoliaeth dros Lincoln ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Doedd y Dreigiau heb ennill mewn pedair g锚m yn y Gynghrair Genedlaethol cyn ymweliad Lincoln ond roedd goliau York, Jennings a Heslop yn ddigon i ddod 芒鈥檙 rhediad hwnnw i ben.

Rhoddwyd yr ymwelwyr ar y blaen gan Matt Rhead yn y chwarter awr cyntaf yn dilyn trosedd Rhys Taylor ar Jack Muldoon.

Roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl, serch hynny, diolch i beniad Wes York o groesiad Connor Jennings.

Jennings ei hun sgoriodd i roi鈥檙 t卯m cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, yn manteisio wedi i Paul Farman yn y g么l wneud smonach o groesiad Dominic Vose.

Cafodd Lincoln gyfleoedd wedi hynny ond roedd Taylor yn cael g锚m dda yn y g么l i Wrecsam, a roedd y tri phwynt yn ddiogel i鈥檞 d卯m bum munud o鈥檙 diwedd diolch i ergyd Simon Heslop o bellter.

Mae鈥檙 canlyniad yn codi Wrecsam dros Lincoln i鈥檙 degfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, ond maent yn parhau chwe phwynt i ffwrdd o鈥檙 safleoedd ail gyfle.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Ysgifenna erthygl papur newydd yn trafod cynllun bwyta鈥檔 iach mewn ysgolion.

Cofia fod angen y canlynol:

  • pennawd bachog sy鈥檔 dal sylw
  • paragraff agoriadol sy鈥檔 cyfleu鈥檙 cynnwys
  • paragraffu trefnus wrth adrodd y ffeithiau
  • iaith ffurfiol a diduedd, gan ddefnyddio鈥檙 trydydd person a berfau amhersonol
Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Berfau Amhersonol

  • Mae berfau amhersonol yn gorffen gydag '鈥搘yd' wrth s么n am ddigwyddiadau鈥檙 gorffennol.
  • Maen nhw鈥檔 cael eu defnyddio wrth ysgrifennu erthyglau ac adroddiadau, ac wrth ysgrifennu鈥檔 ffurfiol.

Defnyddia ffurf amhersonol y ferf i lanw鈥檙 bylchau isod.

  1. _______________ y t欧 i鈥檙 llawr dros nos. (Llosgi)
  2. _______________ nifer o bobl mewn damweiniau. (Anafu)
  3. _______________ y g么l a enillodd y g锚m yn y munud olaf un. (Sgorio)
  4. _______________ cannoedd o dai pan ddigwyddodd y tirlithriad. (Claddu)
  5. _______________ hyd i olion Rhufeinig wrth adeiladu鈥檙 archfarchnad. (Cael)
  6. _______________ y t欧 am chwarter miliwn o bunnau. (Prynu)

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU