大象传媒

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu鈥檔 gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid 芒 phoeni, mae t卯m Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae鈥檙 arbenigwr cof, Dr Rob Hughes, yn rhannu syniadau syml gallai dy helpu di i gofio pethau鈥檔 well.

Fideo: Tips cofio

Tips cofio Dr Rob

Mae 鈥榥a lawer o wybodaeth i鈥檞 ddysgu ac i鈥檞 gofio pan rwyt ti鈥檔 adolygu ar gyfer dy arholiadau. Mae Dr Rob yn arbenigwr iaith a chof, ac mae tips cofio ganddo sy鈥檔 gallu dy helpu di i ddysgu a chofio dy waith yn well.

Tip 1

Gwna dy adolygu dros gyfnod o wythnos neu wythnosau. Paid 芒 gwasgu popeth mewn i un noson. Mae hyn yn debygol o arwain at golli cwsg, ac mae colli cwsg yn gallu achosi straen ychwanegol.

Tip 2

Rho brofion bach i dy hyn yn aml - mae cardiau fflach yn hawdd i鈥檞 creu a鈥檜 defnyddio - rho gwestiwn ar un ochr a鈥檙 ateb ar yr ochr arall.

Tip 3

Mae mapiau meddwl yn ffordd effeithiol o gysylltu gwybodaeth o fewn pwnc 鈥 mae鈥檔 ddull effeithiol o 鈥榳eld鈥 gwybodaeth mewn arholiad.

Tip 4

Tr茂a adolygu yn yr un ystafell bob tro a wedyn, yn yr arholiad, rho dy hyn yn 么l yn yr un ystafell yn dy feddwl. Mae hyn yn medru dy helpu di i gofio鈥檙 wybodaeth rwyt ti wedi鈥檌 adolygu.

Tip 5

Gall cofeiriau - mnemonics - dy helpu di i ddysgu pob math o bethau. Er enghraifft, os wyt ti eisiau cofio trefn y planedau wrth symud i ffwrdd o鈥檙 Haul ar gyfer Ffiseg, pam na wnei di greu brawddeg wirion lle mae llythyren gyntaf pob gair yn cydfynd gyda llythyren gyntaf pob planed - Mae Gen i Ddau Mosgito Iach, Saith Walrws a Neidr - Mercher, Gwener, y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, a Neifion.

Tip 6

Tr茂a dric 鈥榩alas y cof鈥: cysyllta eiriau neu dermau rwyt ti鈥檔 ceisio鈥檜 dysgu gyda phethau gwahanol mewn ystafell - un term gyda鈥檙 soffa, un gyda鈥檙 teledu ac yn y blaen. Yna cerdda drwy鈥檙 ystafell yn dy feddwl i alw i gof y termau rwyt ti wedi eu cysylltu gyda鈥檙 gwahanol bethau.

Tip 7

Cofia gysgu - mae angen digon o gwsg er mwyn i鈥檙 ymennydd fedru atgyfnerthu yr hyn rwyt ti wedi bod yn ei ddysgu.

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw鈥檔 barod. Mae鈥檙 t卯m yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw鈥檔 gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i鈥檞 rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori鈥檔 rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti鈥檔 poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti鈥檔 ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu鈥檔 le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau鈥檔 mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a鈥檙 lle, cysyllta gyda , ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae鈥檙 llinellau ff么n ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar 大象传媒 Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Arholiadau ac asesiadau

Mae ein t卯m ifanc yn trafod ac yn rhannu eu tips nhw ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Arholiadau ac asesiadau

Adolygu: Sut i fod yn drefnus

Cyngor ar sut i roi trefn ar dy waith a bod yn drefnus.

Adolygu: Sut i fod yn drefnus

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Tips ar sut i baratoi ar gyfer y cyfnod adolygu.

Adolygu: Amserlenni a chynllunio