Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i egluro beth yw ansoddair a sut i ddefnyddio ansoddeiriau
- Un fideo, sy'n cynnwys gweithgareddau i'w cyflawni, i egluro am ansoddeiriau a'u defnydd
- Dau weithgaredd rhyngweithiol ar ddefnydd ansoddeiriau
Lesson content
- One introduction explaining what adjectives are and how to use them
- One video, which includes activities within it, explaining what adjectives are and how to use them
- Two interactive activities on the use of adjectives
Beth yw ansoddair?
Mae ansoddair yn disgrifio enw. Yn Gymraeg, mae ansoddeiriau fel arfer yn dilyn yr enw.
Yn yr enghreifftiau 鈥榶 llyfr coch鈥 neu 鈥榶 llyfr trwm鈥, mae 鈥榗och鈥 yn dilyn yr enw ac yn disgrifio lliw y llyfr, ac mae 鈥榯rwm鈥 yn dilyn yr enw ac yn disgrifio pwysau鈥檙 llyfr.
Treiglo ansoddeiriau ar 么l enwau benywaidd
Yn Gymraeg, mae enwau yn naill ai:
- gwrywaidd, ee bachgen, llyfr, ci
- benywaidd, ee merch, coeden, cath
Rhaid treiglo鈥檙 ansoddair yn feddal os yw鈥檙 ansoddair yn dilyn enw benywaidd, ee:
- merch + dewr > merch ddewr
- coeden + mawr > coeden fawr
- cath + cariadus > cath gariadus
Trefn ansoddeiriau
Weithiau mae rhai ansoddeiriau yn dod o flaen enw yn Gymraeg.
Pan mae鈥檙 ansoddair yn cael ei roi o flaen enw, rhaid defnyddio鈥檙 treiglad meddal ar gyfer yr enw, ee:
- hen + llyfr > hen lyfr
- hen + t欧 > hen d欧
- gwahanol + pobl > gwahanol bobl
Cyffelybiaeth
Mae cyffelybiaeth yn cael ei defnyddio er mwyn cymharu un peth 芒 pheth arall. Gair arall am gyffelybiaeth yw cymhariaeth.
Bydd cyffelybiaeth yn cael ei defnyddio mewn disgrifiad er mwyn i ni allu deall mwy am y ddelwedd sy'n cael ei disgrifio.
Ar gyfer adnabod cyffelybiaeth mewn darn ysgrifenedig, chwilia am y geiriau:
- fel
- megis
- mor 鈥 芒鈥
Fideo / Video
Gwylia'r wers gan athrawes Gymraeg sy'n egluro mwy am ansoddeiriau.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- adolygu ansoddeiriau
- treiglo ansoddeiriau yn gywir ar 么l 'yn'
- dechrau defnyddio cyffelybiaethau
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- revise adjectives
- mutate adjectives correctly after 'yn'
- start to use comparisons
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Dyma enghraifft o baragraff yn ein perswadio i fynd i fwyty newydd. Uwcholeua鈥檙 ansoddeiriau yn y darn.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Darllena'r adolygiad ffilm canlynol, ac uwcholeua'r ansoddeiriau.
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11