大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i'r treiglad meddal a sut mae'n cael ei ddefnyddio gyda berfau
  • Tri gweithgaredd i ymarfer y treiglad meddal gyda berfau

Lesson content

  • One introduction to the soft mutation with verbs
  • Three activities to practise the soft mutation with verbs
Llinell / Line

Y treiglad meddal

Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu鈥檔 gywir yn Gymraeg.

Y treiglad mwyaf cyffredin yn Gymraeg yw鈥檙 treiglad meddal.

Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio鈥檙 treiglad meddal, ond bydd y wers hon yn canolbwyntio ar y rheolau sy鈥檔 ymwneud 芒 berfau yn unig.

Dyma dabl o鈥檙 llythrennau sy鈥檔 treiglo feddal a鈥檙 newid sy鈥檔 cymryd lle.

LlythyrenBerfenwBerfenw wedi ei dreiglo'n feddal
p > bparhaubarhau
t > dtynnudynnu
c > gcerddedgerdded
b > fbaglufaglu
d > dddeffroddeffro
g > -gyrruyrru
ll > llliwioliwio
m > fmarwfarw
rh > rrhedegredeg

Berfau a berfenwau yw鈥檙 geiriau sy鈥檔 ymwneud 芒 gwneud rhywbeth penodol.

Dyma鈥檙 rheolau sydd angen eu dilyn wrth ystyried pryd i dreiglo鈥檔 feddal wrth ddefnyddio berfau.

1. Mae angen treiglad meddal ar gyfer gwrthrych sy鈥檔 dilyn ffurf gryno鈥檙 ferf

  • llyfr > Darllenaf lyfr da ar hyn o bryd. (amser presennol)
  • car > Prynan gar newydd yn y flwyddyn newydd. (amser dyfodol)
  • plentyn > Gwelaist blentyn yn canu. (amser gorffennol)

Cofia fod hefyd angen treiglad meddal os wyt ti鈥檔 defnyddio rhagenwau ar 么l ffurf gryno鈥檙 ferf.

  • llyfr > Darllenaf i lyfr da ar hyn o bryd. (amser presennol)
  • car > Prynan nhw gar newydd yn y flwyddyn newydd. (amser dyfodol)
  • plentyn > Gwelaist ti blentyn yn canu. (amser gorffennol)

2. Ffurfiau berfol ar 么l 鈥榝e鈥 / 鈥榤i鈥

Mae鈥檙 ffurfiau 鈥榝e鈥 neu 鈥榤i鈥 yn cael eu defnyddio gan amlaf wrth ysgrifennu neu siarad yn anffurfiol, ee mewn dyddiadur, mewn sgwrs.

Does dim gwahaniaeth yn yr ystyr rhwng 鈥榤i鈥 a 鈥榝e鈥 pan maent yn ymddangos o flaen ffurf gryno鈥檙 ferf, ac maen nhw鈥檔 gallu cael eu defnyddio ar gyfer pob person.

  • clywais i - Fe/Mi glywais i.
  • talan nhw - Fe/Mi dalan nhw.
  • gwnes i - Fe wnes i fynd.
  • talaf i - Mi dalaf i.

3. Ffurf negyddol y ferf gryno (heblaw am ferfau sy鈥檔 cychwyn gyda c, p, t 鈥 mae rhain yn cymryd y treiglad llaes)

Edrycha ar y gwahaniaeth rhwng y frawddeg gadarnhaol a鈥檙 frawddeg negyddol yn yr enghreifftiau isod. Gyda鈥檙 frawddeg negyddol, mae鈥檙 ffurf gryno wedi cael ei threiglo鈥檔 feddal ar ddechrau鈥檙 frawddeg.

CadarnhaolNegyddol
Darllenais i lyfr ddoe.Ddarllenais i ddim llyfr ddoe.
Bwytaist ti frechdan.Fwytaist ti ddim brechdan.
Gwelodd hi fam Robin.Welodd hi ddim mam Robin.

4. Wrth ofyn cwestiwn gyda鈥檙 ffurf gryno

  • Ddarllenaist ti lyfr ddoe?
  • Welodd hi fam Robin?
  • Wnaiff / wneith e weld ffilm heno?

5. Ateb yn negyddol, hynny yw dweud 鈥榥a鈥, wrth ddefnyddio ffurfiau berfol yn dy ateb

Ond, cofia - dydy hyn ddim yn wir ar gyfer unrhyw eiriau sy鈥檔 dechrau gyda c, t, p (mae geiriau sy鈥檔 dechrau gyda鈥檙 llythrennau hyn angen y treiglad llaes yn yr achos hwn)

CadarnhaolNegyddol
ByddwnNa fyddwn
GalloddNa allodd
GwyddostNa wyddost
DylaiNa ddylai

6. Yn syth ar 么l y ffurf orchmynnol gan mai hwn yw goddrych y ferf

  • Darllena lyfr!
  • Siaradwch Gymraeg!
  • Cofiwch wneud hyn!

Clicia yma i ddysgu rhagor am ffurf orchmynnol y ferf

7. Ar 么l rhai arddodiaid

Rhaid treiglo unrhyw air, gan gynnwys berfau, ar 么l yr arddodiaid hyn:

am, ar, at

dan, dros, drwy

wrth, gan, hyd

heb, i, o

  • mynd > heb fynd
  • dod > Wyt ti am ddod efo fi?
  • gweiddi > Mae angen i ti weiddi.

Mae hyn yn cynnwys y patrwm 鈥榬haid i鈥, gan fod 鈥榠鈥 yn un o鈥檙 arddodiaid sydd angen y treiglad meddal ar ei 么l.

  • bwyta > Oes rhaid i ni fwyta cig?
  • mynd > Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 plant fynd i鈥檙 gwely鈥檔 gynnar.
  • talu > Does dim rhaid iddi hi dalu鈥檙 bil trydan heddiw.

8. Berfenwau ar 么l patrwm 鈥榟offwn鈥 neu 鈥榙ylwn鈥

  • mynd > Hoffwn fynd. / Mi hoffwn i fynd.
  • mynd > Dylwn i fynd.
  • mynd > Ni ddylwn fynd.
  • cael > Hoffet ti gael paned o de?
  • cael > Ddylai hi gael mynd?
  • cael > Ni ddylen nhw gael yr arian.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Newida'r brawddegau cadarnhaol yma i rai negyddol.

Cofia fod ffurf negyddol y ferf gryno angen treiglo'n feddal (heblaw am ferfau sy鈥檔 cychwyn gyda c, p, t, sy'n cymryd y treiglad llaes). I atgoffa dy hun, edrycha ar Reol 3 uchod.

  1. Bwytais i ginio ddoe.
  2. Dawnsiaist ti鈥檔 egn茂ol iawn neithiwr!
  3. Gwrandawodd hi ar ei hoff gerddoriaeth.
  4. Gwenodd ef wrth feddwl am wyliau鈥檙 haf.
  5. Meddyliais i am yr atebion cywir i鈥檙 cwestiwn.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Defnyddia ffurf orchmynnol ar gyfer y berfenwau canlynol, a chofia dreiglo鈥檔 feddal ar eu h么l.

Er enghraifft:

  • Darllen llyfr. (ti) > Darllena lyfr.
  • Siarad Cymraeg. (chi) > Siaradwch Gymraeg.
  1. Ysgrifennu dyddiadur. (ti)
  2. Prynu cacen. (chi)
  3. Bwyta banana. (chi)
  4. Ceisio rhedeg. (ti)
  5. Osgoi cnoi. (chi)
  6. Cymysgu cynhwysion. (chi)
  7. Gwylio rhaglen. (chi)
  8. Ystyried popeth. (ti)
  9. Dringo mynydd. (chi)
  10. Gadael llonydd. (ti)

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Rho fe/mi o flaen ffurf gryno鈥檙 berfau canlynol.

  1. Cerddais i i鈥檙 dre ddoe.
  2. Prynais i ddillad newydd ar gyfer y parti.
  3. Meddyliaf i am syniadau newydd i ti.
  4. Cysgodd hi鈥檔 drwm am oriau neithiwr.
  5. Dychmygodd hi fyd newydd iddi hi ei hun.

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU