ý

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cylchred bywyd planhigyn
  • Y gwahanol ffyrdd mae hadau’n cael eu gwasgaru

Lesson content

  • The life cycle of a plant
  • The different ways that seeds are dispersed
Llinell / Line

Cylchred bywyd planhigyn

Mae planhigion blodeuol yn tyfu ac yn cynhyrchu hadau sydd, yn eu tro, yn cynhyrchu planhigion newydd. Dyma gylchred bywyd planhigyn.

  1. Egino ydy pan fydd planhigyn newydd yn dechrau tyfu o hedyn.
  1. Mae angen sawl peth ar blanhigion er mwyn tyfu’n dda.
  1. Mae ar blanhigion angen blodau i atgenhedlu. Mae blodau yn cynhyrchu celloedd gwryw o'r enw paill a chelloedd benyw o'r enw ofwlau (wyau). Rhaid i'r paill gyrraedd yr ofwlau er mwyn i'r planhigyn gynhyrchu hadau, hadau a fydd yn tyfu'n blanhigion newydd.
  1. Peillio ydy'r enw ar gael y paill at yr ofwl. Gall peillio gael ei wneud gan bryfed neu'r gwynt.

Mae rhai planhigion yn cael eu peillio gan bryfed. Mae'r petalau mawr lliwgar a'r neithdar yn denu pryfed at y blodau. Yna mae paill y planhigyn yn glynu wrth y pryfed ac maen nhw'n ei gario i'r planhigyn nesaf maen nhw'n glanio arno.

Mae rhai planhigion yn cael eu peillio gan y gwynt. Mae gan rai planhigion betalau bach a brigerau y tu allan i'w petalau fel y gall y gwynt chwythu'r paill i ffwrdd yn hawdd. Mae ganddyn nhw baill ysgafn sy’n gallu cael ei gario ymhell ar y gwynt.

  1. Mae ffrwythloni yn digwydd pan fydd y paill a'r ofwl yn cyfuno i wneud hedyn.
  1. Mae rhai hadau yn cael eu gwasgaru (chwalu) mewn pedair ffordd wahanol.

Mae rhai hadau yn cael eu gwasgaru gan y gwynt. Mae gan laswelltau hadau mân, ysgafn gyda blew arnyn nhw sy’n cael ei chwythu ymhell iawn gan y gwynt.

Mae rhai hadau yn cael eu gwasgaru drwy ffrwydrad. Mae gan bys goden sy'n sychu ac yn hollti, gan daflu'r hadau dros ardal eang.

Mae rhai hadau yn cael eu gwasgaru gan anifeiliaid. Mae gan gelyn ffrwythau lliwgar i ddenu adar sy'n eu bwyta. Caiff yr hadau eu gollwng ymhell oddi wrth y planhigyn.

Mae rhai hadau yn cael eu gwasgaru gan ŵ. Mae gan gnau coco haenen allanol drwchus sy’n gwneud iddyn nhw arnofio mewn dŵr.

Hafan ý Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan ý Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU