Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio geirfa addas wrth chwarae ac mewn gweithgareddau strwythuredig a sefyllfaoedd ffurfiol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use appropriate vocabulary when playing and in structured activities and formal situations.
This lesson includes:
- one video
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.
Fideo
Mae Rhys yn n么l llawer o grysau-t gwahanol liw i Anna eu trio ymlaen.
Nodiadau i rieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- defnyddio berfenwau a phatrymau gramadegol cywir i fynegi barn ar lafar, er enghraifft dw i eisiau鈥, dw i'n hoffi鈥
- amrywio ffordd o fynegi barn ar lafar, er enghraifft dw i am鈥 ar gyfer dw i eisiau鈥
- defnyddio ystod o liwiau yn hyderus, er enghraifft coch, melyn, gwyrdd, gwyn, du, glas, oren
- defnyddio cymariaethau, er enghraifft glas fel y m么r, du fel y nos
Gweithgaredd 1
I egluro beth yw dy hoff liw, dyweda:
- Fy hoff liw ydy鈥
- Fy hoff liw yw鈥
I egluro beth yw hoff liw pobl eraill, dyweda er enghraifft:
- Hoff liw Dad ydy鈥
- Hoff liw Dad yw鈥
Gwna arolwg o dy ffrindiau ac aelodau'r teulu, drwy nodi ar bapur beth yw hoff liw pob person. Paid ag anghofio nodi dy hoff liw dy hun! Wedyn, darllena'r canfyddiadau ar goedd i ffrind.
Os wyt ti eisiau, beth am ofyn i bobl roi'r rheswm eu bod mor hoff o'u hoff liw, er enghraifft:
- Hoff liw Mam ydy glas, achos mae hi'n cefnogi t卯m p锚l-droed Caerdydd.
- Fy hoff liw i yw gwyn, fel yr eira.
Gweithgaredd 2
Beth am ail-greu'r senario siop o'r fideo, drwy arddangos nifer o eitemau gwahanol liw, er enghraifft dillad, esgidiau, tegannau, bwyd, pensiliau, blodau, - yn wir, unrhyw beth rwyt ti eisiau!
Bydd rhaid gofyn i rywun arall chwarae gyda ti. Bydd angen i un ohonoch fod yn berchennog y siop a bydd rhaid i'r llall fod yn gwsmer.
Dylai'r cwsmer ofyn am, a rhoi barn ar y gwahanol eitemau yn y siop, er enghraifft:
- Ga i afal coch os gwelwch yn dda?
- Ga i drowsus melyn os gwelwch yn dda?
- Dw i ddim yn hoffi'r crys glas. Oes crys mewn lliw arall?
Cofia gyfnewid r么l fel dy fod yn chwarae r么l y perchennog a'r cwsmer.
Gweithgaredd 3
Oeddet ti'n gwybod bod modd creu lliw newydd drwy gymysgu dau liw gyda'i gilydd?
Defnyddia baent i gymysgu'r lliwiau isod gyda'i gilydd. Pa liwiau newydd wyt ti wedi eu creu?
- glas + melyn =
- coch + glas =
- gwyn + coch =
- coch + melyn =
- du + gwyn =
Video
Rhys fetches lots of different coloured t-shirts for Anna to try on.
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- use verbal nouns and grammatical patterns to express opinion when speaking, for example dw i eisiau鈥, dw i'n hoffi鈥 (I want鈥, I like鈥)
- vary how to express an opinion in speech, for example dw i am鈥 in place of dw i eisiau鈥 (I want)
- confidently use a range of vocabulary for different colours, for example coch, melyn, gwyrdd, gwyn, du, glas, oren (red, yellow, green, white, black, blue, orange)
- use comparisons, for example glas fel y m么r, du fel y nos (blue like the sea, black like the night)
Activity 1
To explain what your favourite colour is, say:
- Fy hoff liw ydy鈥 (My favourite colour is鈥)
- Fy hoff liw yw鈥 (My favourite colour is鈥)
To explain what other people's favourite colour is, say for example:
- Hoff liw Dad ydy鈥 (Dad's favourite colour is鈥)
- Hoff liw Dad yw鈥 (Dad's favourite colour is鈥)
Carry out a survey with your friends and family, by noting down what each person's favourite colour is. Don't forget to include yourself! Then read out your findings to a friend.
If you like, why not ask people to give a reason for why they like their favourite colour so much, for example:
- Hoff liw Mam ydy glas, achos mae hi'n cefnogi t卯m p锚l-droed Caerdydd. (Mam's favourite colour is blue, because she supports the Cardiff football team.)
- Fy hoff liw i yw gwyn, fel yr eira. (My favourite colour is white like the snow.)
Activity 2
How about recreating the shop scenario from the video and displaying a number of different items of different colours, for example clothes, shoes, toys, food, pencils, flowers - in fact, anything you want!
You'll have to ask someone else to play with you. One of you will need to be the shopkeeper and the other will need to be the customer.
The customer should ask for, as well as give an opinion on the different items in the shop, for example:
- Ga i afal coch os gwelwch yn dda? (May I have a red apple please?)
- Ga i drowsus melyn os gwelwch yn dda? (May I have yellow trousers please?)
- Dw i ddim yn hoffi'r crys glas. Oes crys mewn lliw arall? (I don't like the blue shirt. Is there a shirt in another colour?)
Remember to swap roles so that you play the role of both the shopkeeper and the customer.
Activity 3
Did you know that you can create a new colour by mixing two colours together?
Use paint to mix the colours below together. What new colours have you created?
- glas + melyn (blue + yellow) =
- coch + glas (red + blue) =
- gwyn + coch (white + red) =
- coch + melyn (red + yellow) =
- du + gwyn (black + white) =
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11