大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo a chyflwyniad yn atgoffa beth ydy idiom a鈥檌 bwrpas
  • Dau weithgaredd i dy helpu adnabod, cofio a defnyddio idiomau
  • Un fideo a gweithgaredd yn dilyn i ymarfer defnyddio idiomau wrth ysgrifennu鈥檔 greadigol

Lesson content

  • One video and presentation recapping what an idiom is and what purpose they serve
  • Two activities to help you recognise, remember and use idioms
  • One video and follow up activity to practice using idioms when writing creatively
Llinell / Line

Fideo 1 / Video 1

Gwylia鈥檙 fideo yma gan athrawes yn dy atgoffa o bwrpas idiomau.

Llinell / Line

Pwrpas defnyddio idiomau

Mae defnyddio idiomau yn:

  • ychwanegu lliw at yr hyn sy鈥檔 cael ei ddweud
  • pwysleisio teimlad, barn neu brofiad
  • tynnu sylw at ymddangosiad, cymeriad neu weithgaredd

Mae defnydd effeithiol o idiomau yn nodwedd ddarn o waith o safon uwch.

Adnabod a chofio idiomau

Mae idiomau鈥檔 frawddegau gweledol iawn sy鈥檔 dy helpu i ychwanegu lliw at stori neu ddisgrifiad bywiog o olygfa.

Un techneg gwych i gofio idiomau鈥檔 effeithiol yw i greu darlun yn dy ddychymyg - neu ar bapur - o鈥檙 idiom.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Tybed wyt ti鈥檔 gallu dyfalu beth yw鈥檙 idiomau yma?

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dylunia lun yr un i gyfleu ystyr chwech idiom hoffet ti eu dysgu gan ddewis o鈥檙 rhestr yn y tabl.

Enghraifft - Gwneud fy ngorau glas = llun o gwpan/gwobr chwaraeon lliw glas.

IdiomYstyr
Gwneud fy ngorau glasCeisio y gorau gallaf wrth wneud rhywbeth
Uchel ei chloch/ei glochHi/fo yn brolio
Ar bigau鈥檙 drainYn nerfus
Yn wyllt gacwnYn flin/yn grac iawn
Gwenu o glust i glustYn hapus iawn
Mae hi wedi canu ar鈥 (rywun)Mae hi drosodd i (rywun)
Fel cynffon buwchYn hwyrach na phawb arall
Bwrw hen wragedd a ffynYn arllwys y glaw
Mae dau du i bob dudalenMae yna ddwy ochr i bob stori
Dyna鈥檙 drwg yn y cawsDyna beth ydy鈥檙 broblem
Troi鈥檔 gath yn y badellNewid y pwnc

Nawr dy fod wedi creu chwe llun ar gyfer dy chwe idiom, ysgrifenna sgwrs neges destun rhwng dau ffrind am eu penwythnosau gwahanol gan ddefnyddio鈥檙 idiomau hynny.

Enghraifft

Llinell / Line

Fideo 2 / Video 2

Gwylia鈥檙 fideo yma o鈥檙 cyffro yng Nghaerdydd cyn g锚m rygbi rhyngwladol.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Pa bedair idiom gallet ti eu defnyddio i ddisgrifio鈥檙 cyffro a鈥檙 prysurdeb sydd yn y fideo?

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU