Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad ar nodweddion dyddiadur
- Dau fideo gan athrawes Gymraeg yn son am nodweddion, iaith ac arddull dyddiadur
- Tri gweithgaredd i ddysgu mwy am nodweddion dyddiadur
Lesson content
- One introduction to the characteristics of a diary
- Two videos by a Welsh teacher explaining the characteristics, language and style of a diary
- Three activities to learn more about the characteristics of a diary
Cyflwyniad
Mae dyddiadur yn bersonol iawn, a鈥檌 bwrpas yw nodi digwyddiadau sydd wedi digwydd. Hefyd, mae modd i ti nodi dy deimladau neu dy farn am rywbeth.
Dylid ysgrifennu dyddiadur mewn trefn gronolegol, hynny yw bore yn gyntaf, wedyn y prynhawn, ac yna y nos.
Fideo 1 / Video 1
Gwylia athrawes Gymraeg yn siarad am nodweddion dyddiadur.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw nodweddion dyddiadur
- deall bod modd defnyddio gwahanol amseroedd y ferf mewn dyddiadur, ond mai amser gorffennol y ferf sy'n cael ei ddefnyddio gan amlaf wrth ysgrifennu dyddiadur
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand what the characteristics of a diary are
- understand that different tenses can be used when writing a diary, but that the past tense of the verb is generally the most common form when writing a diary
Dyma enghraifft o bwt o ddyddiadur.
Dydd Gwener, 10fed o Ebrill
Annwyl ddyddiadur,
Roedd heddiw鈥檔 ddiwrnod arbennig i mi. 鈥楧w i wedi symud t欧. Aethon ni mewn hen lori enfawr i鈥檙 t欧 newydd bore 鈥榤a. Roeddwn i鈥檔 gyffrous iawn wrth weld ein cartref newydd yn dod i鈥檙 golwg ar ben y tyle serth!
Mae鈥檙 t欧 newydd yn wych achos mae 鈥榥a ddigon o le i ni i gyd 鈥 Mam, Dad, Elen a fi. Ces i ddewis fy 鈥榮tafell wely newydd i hefyd, ac wrth gwrs dewisais 鈥榮tafell ffantasig! Pam fod y 鈥榮tafell yma mor ffantastig? Wel, mae ganddi olygfa o鈥檙 ardd ac mae hi鈥檔 fwy o faint nag un Elen o lawer鈥 ha ha! Roedd Elen yn genfigennus ohonof i ond nid fy mai i yw hi fy mod i鈥檔 14 mlwydd oedd a dim ond 10 ydi hi. Nid yw Elen yn ddigon aeddfed i wneud unrhyw benderfyniadau mawr, felly does dim rhyfedd bod Mam a Dad wedi rhoi鈥檙 dewis anodd a phwysig yma i mi. Pan fydd Elen yn 14 mlwydd oed, mi fydd hi鈥檔 deall beth yw cyfrifoldeb!
Bydd hi鈥檔 anghofio am fod mor grac cyn bo鈥 hir, rwy鈥檔 siwr. Nid yw Elen fel arfer yn dal dig am hir, a 鈥榯a beth, mae gennym ni gymaint i鈥檞 wneud dros y dyddiau nesaf鈥 bocsys di ri i鈥檞 dadbacio, ystafelloedd newydd i鈥檞 haddurno, chwarae gemau yn yr ardd fawr, chwarae triciau ar Dad鈥 Waw, 鈥榙w i methu aros!
Fideo 2 / Video 2
Gwylia鈥檙 fideo canlynol ar iaith ac arddull dyddiadur.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall bod modd defnyddio iaith lafar mewn dyddiadur wrth gofnodi teimladau personol a digwyddiadau
- deall mai amser gorffennol y ferf yw'r ffurf fwyaf cyffredin mewn dyddiadur
- deall bod angen defnyddio person cyntaf unigol y ferf mewn dyddiadur
- deall bod angen defnyddio iaith ddiddorol wrth ysgrifennu dyddiadur a bod amrywiaeth o dechnegau y gellir eu defnyddio i wneud hyn
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand that it is acceptable to use everyday, informal language in a diary when noting personal feelings and events
- understand that the past tense of the verb is the most common tense in a diary
- understand that the first person singular form is required in a diary
- understand that interesting language should be used in a diary and that there are a number of techniques that can be used to achieve this
Ysgrifennu naturiol
Mae dyddiadur yn cael ei ysgrifennu ar ein cyfer ni ein hunain, ac felly mae gennym ni ryddid i fod mor naturiol ac anffurfiol ag y mynnwn ni.
Pan wyt ti鈥檔 ysgrifennu dy ddydiadur di, galli di ddefnyddio dy iaith bob dydd a dy dafodiaith i fynegi dy hun, gan gynnwys rhai geiriau na fyddet yn eu defnyddio mewn darnau o ysgrifen ffurfiol, ee 鈥榙w i methu aros!, tyle; 鈥榮tafell.
Yn ogystal ag ysgrifennu鈥檔 naturiol, mae dyddiadur yn cynnwys y nodweddion canlynol fel arfer:
- defnyddio person cyntaf y ferf i nodi teimladau, meddyliau a digwyddiadau personol, ee Dw i wedi symud t欧
- defnyddio amser gorffennol y ferf wrth s么n am ddigwyddiadau, ee Roedd heddiw yn ddiwrnod arbennig
- iaith ddiddorol, ee ansoddeiriau, cwestiynau rhethregol, ebychiadau, cymariaethau, disgrifiadau llawn a bywiog, ee Waw, 鈥榙w i methu aros!
- hiwmor, ee Pan fydd Elen yn 14 mlwydd oed, mi fydd hi鈥檔 deall beth yw cyfrifoldeb!
Amser y ferf
Mae modd defnyddio cyfuniad o amser y ferf wrth ysgrifennu dyddiadur, ond cofia mai s么n am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd i ni yr ydym yn gwneud, ac nid s么n am yr hyn sydd yn digwydd i ni ar y pryd, ee 鈥楥efais frecwast bore 鈥榤a鈥, nid 鈥楻wy鈥檔 bwyta fy mrecwast nawr.鈥
Dyma esboniad o amseroedd gwahanol y ferf a phryd y byddi di鈥檔 eu defnyddio:
Y gorffennol
Defnyddia鈥檙 amser hwn wrth s么n am beth sydd wedi digwydd. Byddi di鈥檔 defnyddio鈥檙 gorffennol trwy gydol dy ddyddiadur, ee Es i 芒鈥檙 ci mas am dro ar 么l bwyd; edrychodd Mam yn syn arna鈥 i!
Y presennol
Mae鈥檙 amser yma yn cael ei ddefnyddio wrth i ti s么n am dy deimladau wrth ysgrifennu鈥檙 dyddiadur, ee dw i鈥檔 hapus/drist; rwy鈥檔 teimlo鈥檔 euog am fwyta siocled fy mrawd ddoe.
Y dyfodol
Os wyt ti鈥檔 siarad am dy ddymuniadau ar gyfer y dyfodol, defnyddia鈥檙 amser yma, ee Gobeithiaf weld Nain a Taid wsnos nesa; bydda鈥 i鈥檔 edrych mlan at gal tecst oddi wrth Macs yn y bore.
Iaith ddiddorol
Mae ysgrifennu gan ddefnyddio iaith ddiddorol hefyd yn bwysig.
Mae hyn yn gwneud y darllen llawer iawn mwy diddorol pan fyddi鈥檔 ei ddarllen ymhen wythnos, mis, blwyddyn neu ddegawd hyd yn oed.
Cofia ddefnyddio:
- Ansoddeiriau (geiriau sy鈥檔 disgrifio), ee blodeuog, lliwgar, anhygoel, difrifol.
- Cymariaethau (cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall i ddangos pa mor debyg neu wahanol ydynt), ee mor ddu 芒鈥檙 nos; yn ddychrynllyd fel mellt a tharannau.
- Adferfau (gair sy鈥檔 disgrifio berf neu ansoddair), ee yn sydyn, yn fusneslyd.
- Idiomau (ymadroddion neu ddywediadau a ddefnyddiwn mewn iaith bob dydd), ee roeddwn i ar ben fy nigon; ceisiais fy ngorau glas.
- Tafodiaith (math o iaith a ddefnyddir mewn man penodol), ee rwan; tyle; losin; 鈥榙acw.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena鈥檙 darn isod o ddyddiadur plentyn ifanc, a noda鈥檙 berfau sy鈥檔 cael eu defnyddio.
Rhanna鈥檙 berfau fel y canlynol:
- berf yn y gorffennol
- berf yn y presennol
- berf yn y dyfodol
Dydd Llun, Rhagfyr 26
Helo ddyddiadur,
Mae鈥檙 Nadolig drosodd am flwyddyn arall. Teimlais yn gyffrous ofnadw drwy鈥檙 nos, a chodais cyn Mam a Dad, a chyn y wawr! Cripiais i lawr y grisiau yn araf cyn imi agor drws y 鈥榮tafell fyw a chau fy llygaid wrth gerdded i mewn. Pan welais y goeden roeddwn mewn sioc鈥 Cefais fynydd o anrhegion gan Si么n Corn! Roedd m么r o bapur lapio鈥檔 llanw llawr y 鈥榮tafell erbyn imi orffen agor fy anrhegion. Agorais bob un yn ofalus, gan geisio dyfalu鈥檙 cynnwys. Roedd Si么n Corn wedi gwneud gwaith arbennig, chwarae teg iddo.
鈥楧wi mor, mor lwcus i gael yr holl anrhegion yma! Fy ffefryn yw car electrig a heol sy鈥檔 troelli fel neidr ar hyd y llawr. Rwy鈥檔 gobeithio bydda i鈥檔 cael chwarae trwy鈥檙 dydd bob dydd!
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dyma ran o ddyddiadur Anne Frank, merch Iddewig a ddaeth yn enwog ar 么l ei marwolaeth pan gyhoeddwyd ei dyddiadur a gofnodai ei phrofiadau o guddio tra'r oedd yr Almaen wedi meddiannu'r Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Hydref 20fed, 1942:Mae fy nwylo鈥檔 crynu fel dail o hyd. Anghofiodd staff gwirion y swyddfa i鈥檔 rhybuddio ni bod y saer, neu beth bynnag yw ei enw, yn dod i ymweld 芒鈥檙 adeilad i wirio鈥檙 diffoddwr t芒n heddi. Ar 么l iddo weithio am 15 munud, gosododd ei offer yn dawel ar ein cwpwrdd llyfrau a churodd ar ein drws! Aeth ein wynebau ni i gyd yn wyn fel eira. Roedd yr ofn wedi ein rhewi. A glywodd ef ryw s诺n o鈥檔 hystafell ni? Bron imi lewygu鈥 ofnais y byddai鈥檙 sefyllfa鈥檔 mynd o ddrwg i waeth yn sydyn iawn, ac y byddai鈥檙 dieithryn brawychus yma鈥檔 darganfod ein cuddfan arbennig.
Noda鈥檙 iaith ddiddorol sy鈥檔 cael ei defnyddio yn y darn uchod
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ysgrifenna baragraff agoriadol dyddiadur yn adrodd hanes dy ddiwrnod. Rhaid i ti geisio dal sylw鈥檙 darllenydd yn syth drwy:
- nodi digwyddiad
- nodi sut wyt ti鈥檔 teimlo
- nodi dy obeithion ar gyfer y dyfodol
- cynnwys nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, ailadrodd, cymariaethau
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11