大象传媒

Bydd angen cymorth ar eich plentyn yn ystod yr arholiadau TGAU. Nid yn unig mae gan d卯m Meddwl ar Waith gefnogaeth wych ar eu cyfer nhw - mae gyda ni awgrymiadau i rieni hefyd.

Rhieni - beth allwch chi wneud i helpu?

Amserlenni

Mae鈥檔 syniad da eistedd i lawr gyda鈥檆h plentyn i greu鈥檙 amserlen adolygu gyda鈥檆h gilydd. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i reoli eu hamser a gwneud y dasg o adolygu yn llawer llai brawychus. Mantais arall creu amserlen yw lleihau鈥檙 demtasiwn i'ch plentyn i aros lan tan oriau m芒n y bore yn adolygu. Cofiwch ei bod hi鈥檔 bwysig cynnwys amser i ymlacio yn yr amserlen hefyd.

Bwyd a diod

Mae hi'n bwysig bod eich plentyn yn bwyta'n iach ac eu bod nhw鈥檔 bwyta鈥檔 gyson - gwnewch yn si诺r bod eich plentyn yn cael tri phryd y dydd. Peidiwch 芒 gadael iddyn nhw hepgor brecwast, yn enwedig ar ddiwrnod yr arholiad. Gwnewch yn si诺r eu bod yn yfed digon o dd诺r ac yn bwyta digon o garbohydradau, ac atgoffwch nhw i beidio ag yfed gormod o gaffein!

Cyfathrebu

Daliwch ati i siarad gyda鈥檆h plentyn, mae'r arholiadau'n gyfnod sy鈥檔 llawn straen, ac efallai eu bod yn teimlo'r pwysau. Gwnewch yn si诺r eu bod yn gwybod y gallan nhw siarad 芒 chi, a byddwch yn galonogol ac yn gadarnhaol. Anogwch nhw i siarad 芒'u ffrindiau hefyd.

Gwobrwyo

Gwnewch yn si诺r eich bod chi'n gwobrwyo'ch plentyn am weithio'n galed. Gallwch chi eu tretio nhw i rywbeth bach fel bar siocled, neu fynd 芒 nhw i rywle braf ar y penwythnos. Bydd unrhyw beth sy'n eu cymell yn helpu.

Peidiwch 芒 gwthio yn rhy galed

Er bod pob rhiant yn gorfod gwthio eu plentyn i adolygu mae鈥檔 rhaid bod yn ofalus i beidio 芒 gwthio yn rhy galed. Ceisiwch greu awyrgylch braf yn y t欧. Ceisiwch dynnu eu meddwl oddi ar arholiadau yn ystod amser segur a chynnig digon o fwyd a diod iddyn nhw. Cofiwch fod eich plentyn eisiau gwneud yn dda - felly mae鈥檔 bwysig eich bod chi鈥檔 credu ynddyn nhw yn ogystal 芒鈥檜 gwthio.

Tips pellach

  • Peidiwch 芒 siarad am arholiadau o hyd.
  • Ceisiwch helpu鈥檔 ymarferol, er enghraifft dod o hyd i adnoddau a chynnig profi eich plentyn.
  • Anogwch eich plentyn a鈥檜 canmol am waith da.
  • Cadwch lefelau s诺n y t欧鈥檔 isel rhag amharu ar yr adolygu.
  • Mae cynnig paned bob yn hyn a hyn yn mynd yn bell!

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw鈥檔 barod. Mae鈥檙 t卯m yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw鈥檔 gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i鈥檞 rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori鈥檔 rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti鈥檔 poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti鈥檔 ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu鈥檔 le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau鈥檔 mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a鈥檙 lle, cysyllta gyda , ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae鈥檙 llinellau ff么n ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar 大象传媒 Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Meddwl ar Waith

Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.

Meddwl ar Waith

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Tips ar sut i baratoi ar gyfer y cyfnod adolygu.

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Adolygu: Sut i gofio pethau

Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Sut i gofio pethau