ERIN Wnei di byth guro dy record fel 鈥檔a鈥
JOSEFF Dylai rhywun wneud rhywbeth am y biniau 鈥榥a.
ERIN Yn union. Y cyngor! Pa mor hurt yw e taw dim ond un bin sydd 鈥榥a? Mae angen ailgylchu yn y parc, yn ogystal 芒 phob man arall.
JOSEFF Mm-hm. Be鈥 wnei di?
ERIN Joseff. Credaf yn gryf fod dyletswydd ar bawb i ailgylchu, neu i roi sbwriel yn y bin, o leiaf. Yn sicr nid ei daflu ar lawr! Wyddost ti ei fod yn cymryd mil o flynyddoedd i blastig ddiraddio鈥檔 naturiol?
JOSEFF Does dim amheuaeth fod ailgylchu鈥檔 bwysig, Erin. Smo fi鈥檔 dadlau am hynny. Ond yn fy marn i, nid dyna鈥檙 pwynt. Does dim bin ailgylchu yma.
ERIN Dewn ni o hyd i un.
JOSEFF Pa neges fyddai hynny鈥檔 ei rhoi wedyn?
ERIN Be ti鈥檔 feddwl?
JOSEFF Wel, os yw pawb yn gwneud ymdrech i ailgylchu鈥檔 rhywle arall, pa reswm sydd gan y cyngor i roi bin newydd yn fan hyn? Os oes sbwriel dros y llawr, mae hynny鈥檔 dangos fod angen un.
ERIN Ti鈥檔 gwybod beth fydde鈥檔 cyfleu鈥檙 un neges? Ysgrifennu llythyr.
JOSEFF Ym mha ganrif ges di dy eni? Ebost ti鈥檔 feddwl!
Mae 鈥榥a ffyrdd mwy effeithiol o brotestio. Dyna fy marn i. Ti鈥檔 meddwl ein bod ni鈥檔 dal i siarad am Gandhi oherwydd ei fod e wedi 鈥榮grifennu llythyron at y cyngor? Dyw beth ry鈥檔 ni鈥檔 wneud nawr ddim yn gweithio. Mae鈥檔 rhaid i ti gyfadde hynny.
ERIN Ond dyw hi ddim yn brotest dda os ti鈥檔 gwneud yn union beth ti鈥檔 protestio yn ei erbyn! Alla i ddim meddwl am neb mewn hanes sydd wedi dod yn enwog am wneud hynny. Mae 98% o wyddonwyr yn credu bod cynhesu byd-eang yn broblem ddifrifol, wedi ei chreu gan bobl鈥
JOSEFF Yn gwmws. Ac maen nhw鈥檔 credu dylen ni newid ein bywydau鈥檔 gyfan gwbl i ddelio 鈥榙a鈥檙 peth. Dyw ailgylchu potel fan hyn fan draw ddim yn mynd i helpu yn y tymor hir.
ERIN Mae rhai ohonon ni鈥檔 paratoi ar gyfer adegau fel hyn! Gweld hon? Potel ddur, fel 鈥榤od i ddim yn gorfod defnyddio un blastig dro ar 么l tro. Ac fe ddweda i rywbeth arall wrthot ti 鈥榝yd鈥oeddwn i fod wedi gorffen dwy lap erbyn nawr鈥
JOSEFF Gwranda鈥 dw i鈥檔 deall pa mor gryf ti鈥檔 teimlo am hyn. Ond yn bersonol, sai鈥檔 credu bod ymddwyn yn neis a dilyn rheolau鈥檔 mynd i ddal sylw pobl. Heb os nac oni bai, mae 鈥榥a ffyrdd mwy effeithiol o wneud hynny. Dyna i gyd.
ERIN A, dw i鈥檔 dy ddeall di Joseff. Ond dw i鈥檔 credu fod angen gwneud y gorau galli di nawr, yn hytrach na gobeithio fod pethau鈥檔 mynd i wella yn y dyfodol. Dyw byw fel anifeiliaid ddim yn helpu neb.
JOSEFF A, reit. Ni鈥檔 gyt没n felly.
ERIN Dw i鈥檔 meddwl ein bod ni.
JOSEFF Iawn, ffans?
ERIN Hei! Rhodri! Stopia鈥檙 beic 鈥榥a鈥檙 funud 鈥榤a!
JOSEFF Beth wyt ti? Anifail?