大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i sut i ysgrifennu adroddiad clir ac effeithiol
  • Un animeiddwaith yn crynhoi'r hyn sydd ei angen mewn adroddiad effeithiol
  • Tri gweithgaredd i ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adroddiad ysgrifenedig effeithiol

Lesson content

  • One introduction on how to write a clear and effective report
  • One animation summarising what makes a good report
  • Three activities to practise the skills required for an effective written report
Llinell / Line

Beth yw adroddiad?

Pwrpas adroddiad yw esbonio rhywbeth sydd wedi digwydd. Yn wahanol i ddyddiadur, nid yw adroddiad fel arfer yn s么n am bethau personol sydd wedi digwydd i ti.

Mae sawl math gwahanol o adroddiad. Mae adroddiad ysgrifenedig yn gallu ymddangos mewn:

  • cylchgrawn
  • papur newydd
  • ar y we

Mae adroddiad da yn cynnwys digon o fanylion, ond eto yn crynhoi鈥檙 prif ddigwyddiadau pwysig.

Strwythur adroddiad

Mae cadw at strwythur clir yn ddefnyddiol wrth fynd ati i ysgrifennu adroddiad.

Dyma'r strwythur dylet ti ei ddefnyddio:

  1. Rhagarweiniad - dyma'r dechrau, felly mae angen cyflwyniad syml sy鈥檔 crynhoi'r cynnwys sydd i ddod yn dy adroddiad, ac eglura beth yw dy fwriad.
  2. Cyflwyno'r prif destun - nesaf, mae angen i ti gyflwyno鈥檙 ffeithiau a datblygu dy syniadau yn glir.
  3. Casgliad cryf - ceisia orffen dy adroddiad gyda chasgliad neu ddiweddglo cryf.

Iaith ac arddull

Arddull

Mae angen arddull arbennig wrth greu adroddiad. Dyma rai pethau i'w hystyried:

  • Dweud beth sydd wedi digwydd yn syml, yn drefnus ac yn glir.

  • Mae modd gwneud hyn drwy ateb y cwestiynau canlynol yn dy adroddiad:

    • beth?
    • pwy?
    • ble?
    • pryd?
    • pam?

Ond hefyd, cofia ystyried 'sut' digwyddodd rhywbeth.

Iaith

Mae angen defnyddio iaith ffurfiol wrth lunio adroddiad.

Dylet ti ysgrifennu鈥檙 adroddiad:

  • yn y trydydd person, sef defnyddio 'ef'/'hi'/'nhw'
  • yn yr amser presennol neu鈥檙 amser gorffennol
  • gan ddefnyddio berfau amhersonol, ee 'dywedwyd'/'credir'/'honnir'/'sonnir'
  • gan atalnodi yn gywir, fel bod yr adroddiad yn glir

Yn olaf, ar 么l cwblhau dy adroddiad, bydd angen i ti feddwl am bennawd trawiadol i ddenu darllenwyr.

Llinell / Line

Enghraifft

Dyma enghraifft o adroddiad

LLAFUR PLANT A'R DIWYDIANT FFASIWN

Yn 2007 datgelodd The Observer fod plant yn India yn cael eu gorfodi i frodio blowsys merched a oedd yn cael eu gwerthu gan y cwmni dillad GAP. Cyhoeddwyd tystiolaeth fod y plant hyn, a oedd mor ifanc 芒 deg oed, yn cael eu gorfodi i weithio am ddim am hyd at 16 awr y dydd, ac yn cael eu curo 芒 pheipen rwber os oeddent yn cwyno. Mynnodd y cwmni nad oeddent yn ymwybodol o hyn ac aethant ati ar unwaith i wneud yn si诺r nad oedd y blowsys yn cyrraedd y siopau.

H&M a ZARA dan feirniadaeth

Yn 2009 cyhuddwyd H&M a ZARA o werthu dillad a oedd wedi鈥檜 gwneud o gotwm a oedd yn cael ei gasglu gan blant. Mae鈥檔 debyg fod plant ifanc yn Uzbekistan a Bangladesh yn cael eu gorfodi i weithio am ddim yn casglu cotwm yn y caeau, a bod y cotwm hwn yn cael ei ddefnyddio gan gyflenwyr H&M a ZARA. Gwnaeth H&M ddatganiad fod 鈥渓lafur plant yn annerbyniol鈥 i鈥檙 cwmni, a mynnodd Inditex, y cwmni sy鈥檔 berchen ar ZARA, fod eu cod ymddygiad yn gwahardd llafur plant.

[Ffynhonnell: The Guardian]

Dyma'r nodweddion sydd i'w gweld yn yr adroddiad:

  • Berfau amhersonol 鈥 'cyhoeddwyd', 'cyhuddwyd'.
  • Dyddiadau/amser pendant 鈥 'yn 2007', '16 awr', 'mor ifanc 芒 deg oed', '2009'.
  • Dyfynnu gan arbenigwr 鈥 鈥渓lafur plant yn annerbyniol鈥.
  • Is-deitlau 鈥 'H&M a Zara dan feirniadaeth'.
  • Berfau鈥檙 gorffennol 鈥 'mynnodd', 'gwnaeth', 'datgelodd'.
  • Brawddegau agoriadol defnyddiol.
    • Yn 么l llygad-dyst鈥
    • Mae tystiolaeth鈥
    • Dywedodd gohebydd鈥
    • Does dim amheuaeth鈥
Llinell / Line

Dylunio adroddiad

Mae'n bosibl denu darllenwyr yn hawdd os wyt ti'n cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, ond mae modd denu pobl hefyd drwy wneud i dy waith edrych yn ddeniadol.

Mae hi felly yn bwysig i ystyried sut bydd dy adroddiad gorffenedig di'n edrych.

Er bod geiriau yn hanfodol ym mhob adroddiad, weithiau dydy geiriau yn unig ddim yn ddigon i greu adroddiad sy'n sefyll allan. Petaet ti'n olygydd cylchgrawn neu wefan, sut fyddet ti鈥檔 denu sylw dy ddarllenwyr di? Dyma rai enghreifftiau i ti eu hystyried:

  • Mae 濒濒耻苍颈补耻鈥档 ffordd wych o egluro dy them芒u, ond mae'n bwysig sicrhau eu bod yn berthnasol i'r testun rwyt ti wedi ei ysgrifennu. Paid 芒 defnyddio gormod o luniau chwaith - cadwa edrychiad dy adroddiad yn syml.

  • Mae hyd yn oed modd cyflwyno ffigurau ac ystadegau mewn ffordd ddeniadol, er enghraifft mewn tabl, graff neu siart gylch. Drwy wneud hyn, bydd y wybodaeth yn glir ac yn haws i'r darllenydd ei darllen.

  • Hefyd, meddylia am ddefnyddio cynnwys o'r cyfryngau cymdeithasol - yn aml bydd pobl yn postio fideos a sylwadau diddorol fydd yn berthnasol i dy adroddiad. Ond gwiria fod y cynnwys yn ddibynadwy - hynny yw, yn gywir ac yn addas - cyn ychwanegu unrhyw fanylion at dy adroddiad.

Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia'r fideo i ddysgu rhagor am sut i gyflwyno gwybodaeth mewn adroddiad.

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • strwythuro cynnwys adroddiad yn drefnus, yn effeithiol ac yn bwrpasol
  • deall bod ymddangosiad adroddiad mor bwysig 芒鈥檌 gynnwys
  • defnyddio ac ystyried gwahanol ddulliau a ffyrdd diddorol o gyflwyno gwybodaeth ac ystadegau o fewn adroddiad

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • purposefully structure their report, ensuring the content is presented effectively
  • understand that a report's presentation is as important as its content
  • use and consider a variety of ways to present facts and figures within their report
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Gan amlaf, bydd adroddiad yn defnyddio鈥檙 amser gorffennol, ac felly mae鈥檔 bwysig dy fod yn ymarfer defnyddio鈥檙 amser hwn.

Newida鈥檙 berfenwau o fewn y cromfachau i ferf yn yr amser gorffennol.

  1. (Defnyddio) ________ y cwmni llwyddiannus 'Lleuad' gronfa elusennol y dref i ariannu ei brosiect newydd.
  2. (Cwyno) ________ y trigolion am derfynau cyflymder eu strydoedd yn ystod y cyfarfod neithiwr.
  3. (Ennill) ________ Alun Davies, dyn o Lanelli, filiwn o bunnoedd ar y loteri nos Sadwrn.
  4. (Cyhoeddi) ________ Ysgol y Fro mai鈥檙 hanner tymor olaf i鈥檙 pennaeth yw鈥檙 tymor yma, am ei fod yn ymddeol yn gynnar.
  5. (Llwyddo) ________ Lisa Jones, disgybl o Fachynlleth, ennill 12 A* yn ei harholiadau TGAU eleni.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Mae strwythuro dy waith yn hollbwysig, ac fe ddylet ysgrifennu鈥檔 drefnus ac yn gronolegol. Ystyr cronolegol yw gosod pethau yn nhrefn amser digwyddodd rhywbeth, ee bore > prynhawn > nos.

Dyma bwyntiau o adroddiad am adeiladu parc beicio o fewn ardal o brydferthwch yn Abertawe. Mae鈥檙 pwyntiau wedi鈥檜 cymysgu. Trefna鈥檙 pwyntiau isod yn gronolegol.

  • Cynlluniau a threfniadau ar gyfer adeiladu鈥檙 parc beicio wedi鈥檙 cytundeb gan y cyngor.
  • Yr hyn a ddigwyddodd pan gytunwyd i adeiladu鈥檙 parc beicio o fewn yr ardal.
  • Yr ymateb gan bobl i鈥檙 newyddion o gytundeb gan y cyngor i adeiladu parc beicio o fewn ardal o brydferthwch.
  • Sut ddechreuwyd trafodaethau i adeiladu parc beicio yn Abertawe.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Cynllunia adroddiad ysgrifenedig gan ddechrau gyda chyflwyniad, prif destun a chasgliad. Cofia ychwanegu lluniau neu ddata addas i gyd-fynd gyda'r testun er mwyn creu adroddiad deniadol.

Dyma yw dy destun:

Mae t卯m p锚l-droed yr ysgol wedi ennill lle yn rownd derfynol twrnament ysgolion lleol.

Enillon nhw鈥檙 rownd gynderfynol yn erbyn gwrthwynebydd mwyaf yr ysgol gyda 3 g么l i 0.

Sgoriwyd dwy g么l gan Ronan, capten y t卯m. Dywedodd Ronan ei fod yn falch iawn o鈥檌 d卯m.

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU