Mae 大象传媒 Bitesize yma i鈥檆h helpu i ddarparu addysg heb ei hail i鈥檆h plant tra eu bod i ffwrdd o鈥檙 ysgol.
Mae鈥檙 deunyddiau i gyd wedi eu llunio gan athrawon ac arbenigwyr yn y maes ar ffurf fideos neu weithgareddau byr i ysbrydoli disgyblion cynradd (a鈥檜 rhieni!) wrth eu gwaith.
Derbyn i Flwyddyn 2: 3-7 oed (Cyfnod Sylfaen)
Cymraeg
Dyma gasgliad o fideos hwyliog ar gyfer disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sy'n astudio Cymraeg. Mae鈥檙 fideos yn dilyn criw o ffrindiau wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd, ac maent yn cael help llaw gan Gelert y ci bob hyn a hyn! Clywir acenion a thafodieithoedd o bob cwr o Gymru, ac mae trawsysgrif o鈥檙 cynnwys ar gael yn Gymraeg ynghyd 芒 chyfieithiad Saesneg. Y them芒u dan sylw yw y corff; teulu a ffrindiau; teimladau; bwyd a diod; hob茂au; chwaraeon a ffitrwydd; y tywydd; clociau; arian; cyfarchion; y cartref; dillad; trefn y dydd; lliwiau; dyddiau'r wythnos; cyfri o 1-10; cyfri o 1-100.
Blwyddyn 3 i 6: 7-11 oed (Cyfnod Allweddol 2)
Cymraeg
Ceir detholiad o fideos a gweithgareddau i helpu disgyblion CA2 sy'n astudio Cymraeg. Mae鈥檙 animeiddiadau a鈥檙 gweithgareddau hyn yn dilyn criw o ffrindiau a鈥檜 ci direidus, Gelert, wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd. Clywir acenion a thafodieithoedd o bob cwr o Gymru, felly mae rhywbeth at ddant pawb. Mae trawsysgrif o sgript y ffilm ar gael yn Gymraeg ynghyd 芒 chyfieithiad Saesneg. Y them芒u dan sylw yw y corff; teulu a ffrindiau; teimladau; bwyd a diod; hob茂au; chwaraeon a ffitrwydd; y tywydd; lleoedd; clociau; arian; cyfarchion; ysgol; misoedd y flwyddyn; yr wyddor; portread; stor茂au; ffaith a barn; ymateb i gerdd.
Hanes Cymru
Adnoddau addysgol am bum merch eithriadol o Gymru - Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Cranogwen, Elaine Morgan a Margaret Haig Thomas 鈥 Merched Mawreddog pob un ohonynt!
Mae pob pecyn dysgu yn yr adnoddau hyn yn cynnwys ffilm, cynllun gwers a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed. Mae鈥檙 adnoddau yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y merched, ac yn eu cymharu gyda Chymru fodern.
Mae鈥檙 cynnwys yn mapio at elfennau o鈥檙 Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a鈥檙 Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mathemateg
Does dim angen poeni am golli鈥檙 wers Mathemateg, achos mae help wrth law gydag adnoddau Cyfnod Allweddol 2 大象传媒 Bitesize. Ceir yma gyfres o ffilmiau byr wedi eu hanimeiddio, a fydd yn rhoi naws o hwyl a sbri i unrhyw ddisgybl ifanc wrth ddod i鈥檙 afael 芒 Mathemateg. Y them芒u dan sylw yw Rhif; Mesurau ac arian; Si芒p, safle a symud; Trin data.