- Un cyflwyniad am lythyron a negeseuon e-bost
- Tri gweithgaredd i ddysgu mwy am sut i ysgrifennu llythyron a negeseuon e-bost
- One introduction to writing letters and emails
- Three activities to learn more about writing letters and emails
Llythyr
Pwrpas llythyr yw rhannu gwybodaeth gyda rhywun arall. Galli di gael llythyrau ffurfiol ar gyfer ysgrifennu at bobl mewn awdurdod er enghraifft, ac anffurfiol ar gyfer ffrind neu rywun rwyt ti鈥檔 ei adnabod yn dda.
Wrth fynegi barn neu berswadio gan amlaf mae angen llythyr ffurfiol.
Llythyr ffurfiol - iaith ac arddull
- Rhaid gosod dy gyfeiriad personol, a chyfeiriad y person sydd yn derbyn y llythyr ar dop y llythyr.
- Rhaid dechrau鈥檙 llythyr gyda chyfarchiad, ee Annwyl Syr neu Fadam; Annwyl Ms Jones; Annwyl Dr Roberts.
- Rhaid defnyddio ail berson lluosog 鈥 chi/eich 鈥 wrth gyfeirio at dderbynnydd y llythyr er mwyn dangos parch a ffurfioldeb.
- Rhaid nodi pam rwyt ti鈥檔 ysgrifennu ar ddechrau鈥檙 llythyr, ee ysgrifennaf atoch鈥
- Rhaid cynnwys paragraffau i roi trefn ar y gwaith.
- Rhaid defnyddio iaith ffurfiol, ac felly osgoi defnyddio iaith lafar.
- Rhaid defnyddio鈥檙 ail berson lluosog 鈥 chi/eich.
- Rhaid ysgrifennu yn yr amser presennol i nodi pam rwyt ti'n ysgrifennu, yn yr amser gorffennol i nodi beth sydd wedi digwydd, ac yn y dyfodol i nodi beth hoffet ti ei weld yn digwydd.
- Rhaid defnyddio arddull mynegi barn, ee berfau gorchmynnol, cwestiynau rhethregol, ailadrodd a rhestru os oes angen.
- Rhaid gorffen y llythyr gyda ffarw茅l ffurfiol a dy enw llawn, ee Yr eiddoch yn gywir, Janet Jones. Yn gywir, Daniel Davies.
Llythyr anffurfiol neu bersonol 鈥 iaith ac arddull
- Rhaid gosod dy gyfeiriad personol, a chyfeiriad y person sydd yn derbyn y llythyr ar dop y llythyr.
- Rhaid dechrau鈥檙 llythyr gyda chyfarchiad anffurfiol, ee Hel么 Sara, Shwmae!; Annwyl Deiniol.
- Gellir defnyddio ail berson unigol 鈥 ti 鈥 wrth gyfeirio at dderbynnydd y llythyr fel pe baet yn siarad 芒 nhw.
- Rhaid nodi pam rwyt ti鈥檔 ysgrifennu ar ddechrau鈥檙 llythyr, ee Rwy鈥檔 ysgrifennu atat ti i / er mwyn鈥
- Gellir cynnwys cwestiynau personol, ee Sut wyt ti鈥檔 cadw?
- Rhaid cynnwys paragraffau i roi trefn ar y gwaith.
- Gellir defnyddio iaith anffurfiol ac iaith lafar, ee Mam, roedd y lle 鈥榤a yn hyfryd!
- Rhaid ysgrifennu yn yr amser presennol i nodi pam rwyt ti'n ysgrifennu, yn yr amser gorffennol i nodi beth sydd wedi digwydd, ac yn y dyfodol i nodi beth hoffet ti ei weld yn digwydd.
- Rhaid gorffen y llythyr gyda ffarw茅l bersonol, ee Hwyl am y tro; Welai di鈥檔 fuan; Cariad; Oddi wrth; Cofion cynnes.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena'r enghraifft isod o lythyr yn mynegi barn.
Annwyl Syr/Madam,
Ysgrifennaf atoch i gyhoeddi fy nicter tuag at gynlluniau i foddi Cwm Celyn. Ar 么l cysylltu gydag aelodau o gymuned Capel Celyn, mae鈥檔 amlwg fod y rhan helaeth yn cytuno bod hyn yn warthus. Hoffwn gynrychioli barn pobl y cwm a barn eraill ledled Cymru yn y llythyr hwn.
Yn gyntaf, hoffwn s么n am y cenedlaethau a鈥檙 teuluoedd sydd wedi adeiladu pentref, neu鈥檔 hytrach, cymuned ers canrifoedd. Heb Gwm Celyn, does dim cartrefi, dim bywoliaeth a dim swyddi gan gymdogion y cwm. Petaech chi鈥檔 boddi鈥檙 cwm, byddech chi hefyd yn boddi cenedlaethau o fywydau. Dychmygwch eich teulu chi yn gorfod gadael eu pentref a鈥檜 holl atgofion! Fyddech chi鈥檔 eistedd yn 么l a gadael i鈥檙 fath beth ddigwydd?
Yn gywir,
Deian Llwyd
Noda ble mae enghreifftiau o鈥檙 nodweddion arddull canlynol:
- berfau gorchmynnol
- cyfarch y darllenydd
- cwestiynau rhethregol
- ailadrodd/rhestru
Neges e-bost
Ffurf fwy diweddar o lythyr yw neges e-bost. Pwrpas neges e-bost yw i roi gwybodaeth neu ofyn am wybodaeth. Gall e-bost fod yn ffordd o gysylltu gydag eraill i fynegi barn am bwnc.
Arddull
- Rhaid i ti nodi cyfeiriad e-bost y person sydd yn derbyn yr e-bost a nodi gan bwy mae鈥檙 e-bost.
- Rhaid i ti nodi beth yw pwnc yn yr e-bost yn y blwch 鈥楶wnc鈥.
- Rhaid i ti ddechrau neges e-bost ffurfiol drwy ddefnyddio termau cyfarch, ee Annwyl Syr/Madam.
- Rhaid i ti ofyn cwestiynau addas er mwyn cael gwybodaeth yn 么l.
- Rhaid i ti gynnwys technegau, ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru os bydd angen.
Enghraifft o neges e-bost ffurfiol
Annwyl Mr Owen,
Rwy鈥檔 cysylltu 芒 chi heddiw er mwyn cael ychydig mwy o wybodaeth am y swydd Prif Gogydd yn eich bwyty 鈥楥wmni Blas鈥 yn Nhre鈥檙 Sosban. Gwelais yr hysbyseb yn y papur newydd lleol.
Rwy'n meddwl ymgeisio am y swydd a hoffwn gael mwy o wybodaeth am delerau鈥檙 swydd hon. Hoffwn wybod a fydd angen i mi weithio ar y penwythnosau. A hefyd a fydd posib i mi gael cynllunio fy mwydlen fy hun yn hytrach na dilyn y fwydlen bresennol?
Rwy'n awyddus iawn i ymgeisio am y swydd hon a byddaf yn ysgrifennu llythyr cais ac yn ei yrru atoch yn fuan. Rwy鈥檔 berson gweithgar iawn ac mae gen i lawer iawn i鈥檞 gynnig i chi ar gyfer agor eich bwyty.
Edrychaf ymlaen at glywed yn 么l gennych yn fuan ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd fy llythyr cais yn eich plesio.
Cofion cynhesaf,
Mari Hughes
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifenna neges e-bost at ffrind yn s么n am benwythnos hwylus rwyt ti newydd ei gael.
Cofia ystyried y canlynol cyn i ti ffurfio dy neges e-bost bersonol.
- Rhaid i ti ddechrau neges e-bost bersonol drwy ddefnyddio termau cyfarch anffurfiol, ee Hel么 Hana, Shwmae Si么n!
- Rhaid i ti ofyn cwestiynau addas er mwyn cael gwybodaeth yn 么l.
- Rhaid i ti gynnwys technegau, ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru os bydd angen.
- Gellir defnyddio iaith anffurfiol ac iaith lafar, ee Hana, roedd Dydd Sadwrn yn anhygoel!
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Dychmyga dy fod yn trefnu disgo. Ysgrifenna lythyr ffurfiol yn perswadio鈥檙 prifathro i gael cynnal y disgo yn neuadd yr ysgol.
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11