Cynnwys y wers hon
- Dysgu am y pum peth mae pob peth byw yn ei wneud
Lesson content
- Learn about the five things that all living things do
Mae pethau byw i gyd yn Tyfu, Atgenhedlu, Symud, angen Maeth, ac yn Sensitif.
Dyma frawddeg dda i dy helpu di i gofio'r geiriau:
Triodd yr anifail sgrialu a methu stopio.
Tyfu - T - Triodd
- Cynyddu mewn maint ydy tyfu. Twf ydy'r broses o dyfu.
- Mae anifeiliaid bach yn tyfu ac yn dod yn oedolion.
- Mae eginblanhigion yn tyfu'n blanhigion aeddfed, mwy.
Atgenhedlu - A - yr Anifail
- Mae anifeiliaid a phlanhigion yn creu anifeiliaid a phlanhigion newydd sy'n debyg i'w rhieni.
Symud - S - Sgrialu
- Mae anifeiliaid yn symud mewn sawl gwahanol ffordd.
- Mae planhigion yn gallu symud eu dail er mwyn amsugno goleuni'r haul.
Maethiad - M - a Methu
- Mae planhigion yn gwneud eu bwyd eu hunain o ddeunyddiau crai syml.
- Dydy anifeiliaid ddim yn gwneud eu bwyd eu hunain. Maen nhw'n bwyta planhigion neu anifeiliaid eraill.
Sensitifrwydd - S - Stopio
- Mae anifeiliaid a phlanhigion yn gwybod am y ffordd mae eu hamgylchedd yn newid ac maen nhw'n ymateb i hynny.
Cofia
Gallu gwneud pob un o'r rhain ydy beth sy'n gwneud pethau yn organebau byw.
Hafan ý Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11