大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Pedwar fideo ble mae awdur Llyfr Glas Nebo鈥檔 trafod y nofel a chreu cymeriadau
  • Dau weithgaredd i ddatblygu sgiliau gwerthfawrogi cymeriadau

Lesson content

  • Four videos in which the author of Llyfr Glas Nebo discusses the novel and its characters
  • Two activities to develop character appreciation
Llinell / Line

Cymeriadau

Mae鈥檙 nofel 'Llyfr Glas Nebo' gan Manon Steffan Ros yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd a鈥檙 cymeriadau鈥檔 datblygu鈥檔 gyson wrth i鈥檙 nofel a鈥檙 stori ddatblygu.

Mae cymeriadau yn ganolog i bob darn creadigol, boed mewn stori, nofel neu ddyddiadur.

Un o nodweddion darn creadigol llwyddiannus yw gallu鈥檙 awdur i greu cymeriadau gafaelgar, credadwy, sy鈥檔 bachu鈥檙 darllenydd o鈥檙 eiliad gyntaf.

Dadansoddi cymeriadau

Pan fyddi di鈥檔 dadanosddi cymeriad, mae angen i ti sylwi a deall sut a pham mae cymeriad yn ymateb neu鈥檔 ymddwyn mewn ffordd arbennig er mwyn ymateb yn bersonol a chreadigol i鈥檙 nofel.

Mewn arholiad, yn aml bydd angen i ti adnabod y cymeriad yn dda. Bydd angen i ti drafod agweddau penodol o鈥檌 bersonoliaeth a dangos dy ddealltwriaeth di o鈥檌 ddatblygiad o fewn y nofel.

Rhaid i ti feddwl am:

  • y ffordd mae鈥檔 edrych ac yn symud
  • pa fath o berthynas sydd ganddo 芒 chymeriadau eraill 鈥 beth sydd ganddo/ganddi i鈥檞 ddweud am y cymeriadau hynny?
  • beth sydd gan gymeriadau eraill i鈥檞 ddweud amdano e/hi?
  • beth sydd wedi digwydd iddo/iddi 鈥 yn y gorffennol ac yn y presennol, a sut mae wedi ymateb i hynny
  • defnydd yr awdur o arddull a鈥檌 ddefnydd o nodweddion/disgrifiadau 鈥 a oes yna nodweddion/disgrifadau y medru di eu hefelychu yn dy ateb?
Llinell / Line

Fideo 1 / Video 1

Gwylia鈥檙 awdur Manon Steffan Ros yn trafod creu cymeriadau yn ei nofel 'Llyfr Glas Nebo'.

Llinell / Line

Cymeriadau creadadwy

Mae creu cymeriadau credadwy, hynny yw rhai mae鈥檙 darllenydd yn credu ynddyn nhw a鈥檜 bywydau, yn hanfodol i lwyddiant nofel.

Os nad yw cymeriadau鈥檔 gredadwy, yna bydd y darllenydd yn colli diddordeb ynddyn nhw.

Disgrifio cymeriad

Dyma ansoddeiriau defnyddiol i ddisgrifio cymeriad:

CreulonCariadusDihyderCwynfanllydBalch
MewnblygAllblygCystadleuolTawelFfyddlon
CydwybodolBywiogLlawn hwylDialgarAnnifyr
UnigHoff o gyfiawnderAnnibynnolCaledSbeitlyd
TeimladwyHunan-gyfiawnEuogHoffi tynnu coesDiog
BusneslydTwyllodrusHunanolTynerCenfigennus
Hunan-ymwybodolEgwyddorolNa茂f a dibrofiadCefnogolCryf
Pwysig a dylanwadolYn barod i ddioddefOfnusCaredigPenderfynol
ClyfarArwrRhywiaethol (sexist)PryderusDewr
CroendenauBeirniadolYmarferolSensitifSynnwyr digrifwch
AeddfedAnaeddfedTwymgalonGonestAnhapus
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Gan ddefnyddio'r ansoddeiriau uchod, rhestra'r geiriau mewn tabl gan nodi pa rai yw'r:

  • ansoddeiriau cadarnhaol
  • ansoddeiriau negyddol
  • ansoddeiriau sy'n gallu bod yn gadarnhaol neu'n negyddol

Llinell / Line

Fideo 2 / Video 2

Gwylia鈥檙 awdur Manon Steffan Ros yn trafod prif gymeriadau鈥檙 nofel 'Llyfr Glas Nebo'.

Llinell / Line

Sut i ddadansoddi cymeriadau

Cyn i ti ymateb i gwestiwn sy鈥檔 gofyn i ti ddadanosddi cymeriad, bydd angen i ti yn gyntaf ddod i adnabod y cymeriad.

Wedyn, bydd angen i ti ystyried pa dystiolaeth sydd ar gael yn y nofel i gadarnhau ac i atgyfnerthu'r sylwadau rwyt ti wedi eu gwneud ar y cymeriad.

Pan fyddi di鈥檔 dod i ystyried perthynas cymeriad penodol gyda chymeriad arall yn y llyfr, ceisia ddilyn patrwm y dwylo yma i dy helpu:

Yn y bysedd ar y llaw chwith:

  • dewisia un cymeriad o'r nofel neu'r stori rwyt ti'n ei darllen
  • cofnoda bump ansoddair neu nodwedd i ddisgrifio personoliaeth y cymeriad
  • o dan y llaw, ysgrifenna ddyfyniad o'r nofel sy'n dystiolaeth o hyn

Ar y llaw dde:

  • gosoda rhwng dau a phump enw cymeriad arall o'r nofel yn y bysedd
  • o dan y llaw, ysgrifennau ddyfyniad gan y cymeriadau sy'n darlunio/dweud rhywbeth am y cymeriad rwyt ti wedi ei nodi yn y llaw chwith

Nawr mae gen ti sgerbwd ateb er mwyn ymateb i gwestiwn am ddadansoddi cymeriad.

Llinell / Line

Fideo 3 / Video 3

Gwylia awdur 'Llyfr Glas Nebo', Manon Steffan Ros, yn trafod llinell amser ei nofel.

Llinell / Line

Fideo 4 / Video 4

Yn y fideo yma, mae鈥檙 awdur, Manon Steffan Ros yn trafod un o brif gymeriadau鈥檙 nofel, Si么n.

Weithia dwi鈥檔 meddwl ei bod hi鈥檔 amhosib i rywun fod mor dlws ac mor hyll 芒 Mam.

Dwi鈥檔 gwybod bod hynna鈥檔 beth creulon i鈥檞 ddeud. Mae Mam yn cas谩u pan mae pobol yn cael eu galw鈥檔 hyll, hyd yn oed mewn straeon, a dwi鈥檔 methu dallt hynny. Cyn belled 芒 bod y bobol ddim yn clywed, be ydi鈥檙 ots? Ond mae Mam yn deud mai dim ond pobol sy鈥檔 hyll ar y tu mewn sy鈥檔 gweld pobol eraill yn hyll ar y tu allan. Felly mae鈥檔 si诺r 鈥榤od i鈥檔 reit afiach y tu mewn i mi, achos dwi鈥檔 gweld Mam yn wirioneddol hyll weithia.

Tudalen 11, Llyfr Glas Nebo, gan Manon Steffan Ros, cyhoeddwyd gan Y Lolfa Cyf.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Nawr dy fod wedi ymgyfarwyddo gyda chymeriadau鈥檙 nofel, cer ati i ysgrifennu dyddiadur neu ymson ar gyfer rhan benodol o鈥檙 nofel.

Os nad wyt ti鈥檔 si诺r sut i ysgrifennu dyddiadur, cer i'r wers Ysgrifennu Dyddiadur neu'r wers Dyddiadur person cyntaf

Os nad wyt ti鈥檔 si诺r sut i ysgrifennu ymson cer i'r wers Cynllunio ymson

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall pwysigrwydd cymeriadau mewn nofel neu stori
  • dadansoddi cymeriad o鈥檙 nofel Llyfr Glas Nebo

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • understand the importance of characters in novels and stories
  • analyse a character from the novel Llyfr Glas Nebo

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU