大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i egluro sut i gofnodi digwyddiadau ar hyd linell amser
  • Un gweithgaredd i ddeall sut i osod digwyddiadau yn eu trefn gronolegol
  • Dau weithgaredd i ymarfer creu llinell amser
  • Un fideo fel sail i weithgaredd ar greu llinell amser

Lesson content

  • One introduction on how to record events using a timeline
  • One activity to understand how to place events in their chronological order
  • Two activities to practise creating a timeline
  • One video 鈥媋s a basis for an activity on creating a timeline
Llinell / Line

Beth yw llinell amser?

Mae llinell amser yn nodi pryd ddigwyddodd gwahanol ddigwyddiadau drwy eu lleoli ar hyd linell.

Mae'r digwyddiadau wastad yn cael eu nodi mewn trefn gronolegol ar hyd linell amser.

Ystyr y term 鈥榗ronolegol鈥 yw rhoi pethau yn y drefn amser gywir.

Felly, er mwyn rhoi digwyddiadau yn y drefn gronolegol gywir, rhaid cychwyn gyda'r dyddiad hynaf ar ddechrau'r llinell amser a gorffen gyda'r dyddiad mwyaf diweddar ar ben arall y llinell.

Pam defnyddio llinell amser?

Mae creu llinell amser yn ffordd ddefnyddiol i dy helpu i gofio nifer o wahanol ddyddiadau, digwyddiadau a datblygiadau.

Mae'n ffordd hawdd a gweledol o gofnodi newidiadau a datblygiadau.

Gelli di ddefnyddio llinell amser i:

  • blotio prif ddigwyddiadau nofel, stori, hunangofiant neu ddyddiadur
  • crynhoi datblygiad cymeriad mewn nofel neu stori
  • nodi digwyddiadau hanesyddol
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Gosoda鈥檙 digwyddiadau yma yn eu trefn gronolegol, gan ddechrau gyda Vesuvius yn ffrwydro dros Pompei gan mai'r digwyddiad hwn oedd y cyntaf i ddigwydd mewn hanes.

  • 1914 - Y Rhyfel Byd Cyntaf
  • 1939 - Yr Ail Ryfel Byd
  • 1215 - Y Magna Carta
  • 1847 - Brad y Llyfrau Gleision
  • 1588 - Yr Armada
  • 1066 - Brwydr Hastings
  • 1955 - Caerdydd yn brifddinas
  • 1400 - Rhyfel Glynd诺r
  • 410 - Y Rhufeiniaid yn gadael Prydain
  • 79 - Vesuvius yn ffrwydro dros Pompei
  • 1485 - Brwydr Bosworth
  • 1348 - Y Pla Du

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Nawr, ceisia gyflwyno'r wybodaeth hanesyddol o Weithgaredd 1 yn y drefn gronolegol trwy greu llinell amser.

Sut fyddet ti鈥檔 nodi鈥檙 digwyddiadau ar y llinell amser yma?

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Rho dro ar greu llinell amser bersonol:

  • dewisa ddeg dyddiad sy鈥檔 bwysig i ti 鈥 dewisa atgofion hapus, er enghraifft, 'dysgu reidio 鈥媌eic' neu 'gwyliau yn yr Alban'
  • tynna linell ar draws y dudalen
  • gosoda鈥檙 dyddiadau neu'r blynyddoedd o dan y llinell 鈥 fel yng Ngweithgaredd 2 uchod
  • ysgrifenna nodyn o dan bob dyddiad/blwyddyn i nodi'r digwyddiad
Llinell / Line

Gweithgaredd 4 / Activity 4

Gwylia鈥檙 fideo 鈥榊 Chwyldro Diwydiannol ac Amlddiwydiant鈥 ac yna ceisia greu llinell amser yn seiliedig ar y prif ddigwyddiadau yn ystod y cyfnod.

Tynna linell ar draws tudalen, cofnoda鈥檙 dyddiad ac ysgrifenna nodyn o dan y dyddiad yn esbonio pam bod y flwyddyn a鈥檙 dyddiad hwnnw yn bwysig.

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • nodi digwyddiadau mewn trefn gronolegol
  • deall sut mae creu llinell amser
  • creu llinell amser personol ac un hanesyddol

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • understand how to organise events in a chronological order
  • understand how to create a timeline
  • create a timeline based on both personal and historical events

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU