大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un gerdd i鈥檞 darllen a鈥檌 hastudio
  • Tri fideo gan y bardd yn trafod y gerdd
  • Dau weithgaredd i ymarfer sgiliau gwerthfawrogi barddoniaeth

Lesson content

  • One poem to read and study
  • Three videos of the poet discussing the poem
  • Two activities to practise poetry appreciation skills
Llinell / Line

Beth yw barddoniaeth?

Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad o ysgrifennu barddoniaeth. Ond pam tybed bod beirdd yn teimlo鈥檙 angen i ysgrifennu cerddi?

Llinell / Line

Fideo 1 / Video 1

Mae beirdd yn barddoni am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau neu deimladau.

Gwylia'r bardd Gwion Hallam yn egluro sut aeth ati i farddoni cyfrol o saith cerdd, sy鈥檔 addas i bobl ifanc, o鈥檙 enw, 鈥楥erddi y Coridorau鈥.

Llinell / Line

Gwerthfawrogi barddoniaeth

Fel cynulleidfa, gallwn ni werthfawrogi gwaith beirdd wrth astudio a dadansoddi eu gwaith. Yr enw ar hyn yw gwerthfawrogi barddoniaeth.

Wrth werthfawrogi barddoniaeth, mae angen i ni ystyried sawl peth:

  • cynnwys a neges y gerdd
  • sut mae鈥檙 bardd yn cyfleu ei neges (hynny yw, nodweddion arddull a mesur)
  • ymateb personol

Cynnwys a neges y gerdd

Dyma鈥檙 math o gwestiynau rhaid eu gofyn wrth astudio cynnwys a neges cerdd:

  • Am beth mae鈥檙 gerdd yn s么n?
  • Beth mae鈥檙 bardd yn ei ddweud yn y gerdd?
  • Ydy鈥檙 gerdd yn s么n am brofiad personol?
  • Ydy'r gerdd yn adrodd hanes mewn cyfnod o amser?
  • Ydy'r gerdd yn disgrifio digwyddiad penodol?
  • Ydy鈥檙 bardd yn myfyrio ar rywbeth?

Wrth drafod cynnwys, rhaid dyfynnu a dadansoddi gan edrych dan wyneb y geiriau a cheisio ateb y cwestiynau uchod.

Llinell / Line

Fideo 2 / Video 2

Gwylia鈥檙 bardd Gwion Hallam yn darllen ei gerdd 'Bws Ysgol' neu ddarllena鈥檙 gerdd isod dy hun.

Bws Ysgol

Mor rhyfedd sut all taith
bob dydd
mewn bws
droi鈥檔 artaith byw,
a sut all croeso鈥檙
seddau mawr cart诺n
droi鈥檔 hunllef real iawn
i un.
Mae鈥檔 eistedd hefo鈥檌
fag fel ffrind
a鈥檌 groen yn gwrando鈥檔 chwys;
fel milwr ffilm sy鈥檔 cofio鈥檙 sgript
mae鈥檔 disgwyl bang y bom,
yn paratoi at glec
gren锚d y geiriau.
Oi gay-boy? Ma鈥 pawb yn gwbod!
Hei o 鈥檓a, s鈥檇im lle i homos!
Oc锚, os ti鈥檔 g锚 dwed y gwir!
Nid gofyn ond dweud
a neb eisiau ateb 鈥
haws chwerthin a chwislan
ar gelwydd sedd gefn
na gwrando ar y gwir:
gwell closio at y bwli
na鈥檙 boi sy鈥檔 diodde
ei boen.
鈥 Gwion Hallam, allan o
Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005
Llinell / Line

Cynnwys y gerdd

Am beth mae鈥檙 bardd yn s么n?

Yma, cawn hanes plentyn yn cael ei fwlio ar fws ysgol. Does neb yn ochri gydag ef gan ei bod yn haws ochri gyda bwli na dioddefwr. Mae鈥檙 profiad yn 鈥渁rtaith byw鈥 i鈥檙 plentyn sy鈥檔 cael ei fwlio bob dydd, yn ddi-baid. Mae鈥檔 aros am 鈥済lec y geiriau鈥 sy鈥檔 awgrymu bod y bwlio yn digwydd o hyd ac o hyd a bod pob gair cas yn ei frifo mwy a mwy. Does neb yn ffrind iddo a neb yn fodlon 鈥済wrando ar y gwir鈥.

Beth yw neges y bardd?

Ydy鈥檙 bardd yn dweud rhywbeth wrthym yma? Efallai ei fod am i ni gymryd sylw o beth sy鈥檔 digwydd o鈥檔 cwmpas. Ydyn ni鈥檔 euog o ochri gyda bwli yn hytrach na鈥檙 鈥渂oi sy鈥檔 diodde ei boen鈥? Neu efallai bod y bardd eisiau i ni ystyried teimladau eraill a鈥檙 effaith mae ein geiriau yn gallu eu cael?

Sut mae鈥檙 bardd yn cyfleu ei neges ?

Wrth ystyried sut mae鈥檙 bardd yn cyfleu ei neges, mae angen trafod y nodweddion arddull a ddefnyddir yn y gerdd.

Rheol 3E

Dilynwn y rheol 3E wrth drafod arddull:

  • Enw 鈥 rhaid enwi鈥檙 nodwedd sy鈥檔 cael ei defnyddio, ee ansoddair.
  • Enghraifft 鈥 rhaid dyfynnu鈥檙 enghraifft, ee 鈥渁rtaith byw鈥.
  • Effaith 鈥 rhaid trafod effaith y nodwedd. Er mwyn gwneud hyn, ystyria beth mae鈥檙 bardd yn denu sylw ato a pham. Er enghraifft, mae鈥檔 pwysleisio鈥檙 ansoddeiriau sy鈥檔 mynegi casineb y bwli tuag at y dioddefwr. Mae鈥檔 gwneud hyn er mwyn disgrifio effaith y geiriau cas ar y diddoddefwr 鈥 maent yn ei boeni ac yn teimlo fel 鈥渁rtaith byw鈥 iddo, sy鈥檔 denu sylw i ba mor ofnadwy yw鈥檙 geiriau a鈥檙 profiad.

Beth yw mesur y gerdd?

Mae hon yn gerdd yn y mesur rhydd. Nid oes rheolau pendant yn y gerdd 鈥 mae gan y bardd ryddid i amrywio hyd y llinellau a鈥檙 penillion, odlau a sillafau.

Llinell / Line

Fideo 3 / Video 3

Gwranda ar y bardd yn egluro sut aeth ati i greu鈥檙 gerdd 'Bws Ysgol'.

Pa nodweddion arddull mae e鈥檔 cyfeirio atynt? Oes technegau eraill y mae e鈥檔 eu trafod?

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Llenwa鈥檙 tabl trin arddull isod gydag enghreifftiau o鈥檙 gerdd 'Bws Ysgol' sy'n cyfateb i'r nodweddion sydd eisoes wedi eu nodi yn y tabl. Rwyt wedi clywed y bardd yn trafod rhai o'r enghreifftiau hyn yn y fideos.

Wedyn, cer ati i lenwi gweddill y tabl trwy geisio trafod effaith yr enghreifftiau, gan gofio ystyried beth mae鈥檙 bardd yn denu sylw ato a pham.

Enw鈥檙 nodweddEnghraifftEffaith
trosiad
cyffelybiaeth / cymhariaeth
personoli
cyflythrennu
deialog

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Ymateb personol

Beth yw dy ymateb personol di i鈥檙 gerdd? Wyt ti鈥檔 ei hoffi? Ydy鈥檙 gerdd yn berthnasol ac yn addas? Nid oes atebion anghywir yma ond mae angen cyfiawnhau dy farn gyda rheswm!

Her: Cer ati i ysgrifennu gwerthfawrogiad o鈥檙 gerdd 'Bws Ysgol'.

Rhaid cofio cynnwys paragraff am y canlynol:

  • cynnwys a neges y gerdd
  • sut mae鈥檙 bardd yn cyfleu ei neges (hynny yw, nodweddion arddull a mesur)
  • ymateb personol

Syniadau dechrau brawddegau

  • Egyr y gerdd鈥 (Mae鈥檙 gerdd yn agor鈥)
  • Mynega鈥檙 bardd ei鈥 (Mae鈥檙 bardd yn mynegi ei鈥)
  • Gwelwn ddarlun鈥
  • Gallwn weld鈥
  • Neges y gerdd yw鈥
  • Llwydda鈥檙 gerdd i gyfleu鈥
  • Teimla鈥檙 bardd鈥
  • Sonia鈥檙 bardd am鈥
  • 顿别蹿苍测诲诲颈补鈥
  • Wrth gloi鈥檙 gerdd鈥
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • gwerthfawrogi'r gerdd 鈥楤ws Ysgol鈥 gan Gwion Hallam
  • gwerthfawrogi sut mae arddulliau iaith amrywiol yn cyfoethogi darn o farddoniaeth
  • ysgrifennu gwerthfawrogiad o鈥檙 gerdd 'Bws Ysgol'

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • appreciate the poem 鈥楤ws Ysgol鈥 by Gwion Hallam
  • appreciate how various language styles enrich a piece of poetry
  • write an appreciation of the poem 'Bws Ysgol'

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU