Cynnwys y wers hon
- Tymheredd
- Rhewi, ymdoddi, cyddwyso ac anweddu
- Newidiadau cildroadwy ac anghildroadwy
Lesson content
- Temperature
- Freezing, melting, condensing and evaporating
- Reversible and irreversible changes
- Tymheredd rhywbeth yw pa mor boeth neu oer ydy e.
- Gallwn ddefnyddio thermomedr neu synhwyryddtymheredd i fesur tymheredd.
- Rydyn ni'n mesur tymheredd mewn graddau Celsius.ºC yw'r ffordd rydyn ni'n ei ysgrifennu.
- 0ºC yw'r rhewbwynt pan fydd dŵr yn troi'n iâ.
- 100ºC yw'r berwbwynt pan fydd dŵr yn troi'n ager.
Tymheredd | ||
---|---|---|
Rhewgell | -18° | |
Iâ yn dechrau ymdoddi | 0° | |
Diwrnod oer o aeaf | 9° | |
Diwrnod braf o haf | 25° | |
Person iach | 37° | |
Person sâl | 40° | |
Paned o de poeth | 70° | |
Dŵr berw | 100° |
Mae gwresogi defnyddiau yn gwneud iddyn nhw newid. Mae gwresogi yn gwneud i solidau ymdoddi ac i hylifau anweddu.
Ymdoddi ydy'r newid o solid i hylif.
Anweddu ydy'r newid o hylif i nwy.
Mae menyn yn ymdoddi wrth i ti ei wresogi.Mae persawr yn anweddu os ydy e'n cynhesu.
- Mae tynnu gwres oddi ar ddefnyddiau (eu hoeri) yn gwneud iddyn nhw newid. Mae oeri yn gwneud i nwyon gyddwyso ac i hylifau rewi.
- Cyddwyso ydy'r newid o nwy i hylif.
- Rhewi ydy'r newid o hylif i solid.
Mae anwedd dŵr mewn anadl yn cyddwyso ar ffenestr oer.
- Mae cymysgu defnyddiau yn gwneud iddyn nhw newid.
- Mae rhai solidau yn hydoddi pan fyddwch chi'n eu cymysgu â dŵr. Hydoddi ydy'r newid pan fydd solidau yn cymysgu gyda hylif i wneud hydoddiant tryloyw (clir).
Mae siwgr a halen yn hydoddi mewn dŵr.
Dydy sialc a thywod ddim yn hydoddi mewn dŵr.
- Mae modd cildroi rhai newidiadau. Gelwir y rhain yn newidiadau cildroadwy.
- Mae newidiadau cildroadwy yn newidiadau ffisegol pan fydd defnydd yn newid y ffordd mae'n edrych neu'n teimlo.
- Dydy newidiadau cildroadwy ddim yn creu defnyddiau newydd. Newidiadau dros dro ydyn nhw.
- Does dim modd cildroi rhai newidiadau. Mae'r rhain yn newidiadau anghildroadwy.
- Mae newidiadau anghildroadwy yn newidiadau cemegol pan mae defnyddiau newydd yn cael eu ffurfio. Maen nhw'n newidiadau parhaol.
- Mae newidiadau anghildroadwy yn cynhyrchu defnydd newydd sy'n gallu bod yn ddefnyddiol.
Hafan ý Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11