Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i sut i greu hysbyseb effeithiol
- Un fideo ar yr iaith sydd ei hangen mewn hysbyseb
- Dau weithgaredd i ddeall mwy am beth sy'n gwneud hysbyseb effeithiol
Lesson content
- One introduction on how to create an effective advert
- One video on the type of language required in an advert
- Two activities to understand more about what makes an effective advert
Hysbyseb
Pwrpas hysbyseb yw hysbysebu digwyddiad a pherswadio pobl i fynychu鈥檙 hyn sy鈥檔 cael ei hysbysebu.
Gall hysbyseb hefyd fod yn ffordd o hysbysebu cynnyrch er mwyn perswadio person i鈥檞 brynu.
Arddull
Mae defnyddio'r arddull gywir yn bwysig wrth fynd ati i greu hysbyseb. Dyma rai o'r pethau sy'n bwysig er mwyn cynhyrchu hysbyseb dda.
Rhaid i ti:
- ystyried pwy yw鈥檙 gynulleidfa darged a phwy yw鈥檙 bobl rwyt ti'n ceisio eu perswadio
- defnyddio technegau arddull disgrifiadol, ee ansoddeiriau
- defnyddio berfau gorchmynnol i annog y darllenydd
- defnyddio iaith emosiynol i geisio perswadio
- cynnwys cwestiynau addas a鈥檜 hateb, gan gynnwys cwestiynau rhethregol i ddenu鈥檙 darllenydd at yr hysbyseb
Fideo / Video
Mewn t欧 anniben, llawn chwerthin, mae tri o ffrindiau yn cyd-fyw. Mae鈥檙 criw鈥檔 llunio hysbyseb i ddenu lojar newydd.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall prif arddulliau ysgrifennu disgrifiadol
- deall y pwysigrwydd o wybod pwy yw'r gynulleidfa briodol
- defnyddio iaith ddisgrifiadol, perswadiol a chyfarwyddiadol, drwy ddefnyddio geirfa eang ynghyd ag ansoddeiriau effeithiol a berfau gorchmynnol
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand the main characteristics of descriptive writing
- understand the importance of knowing the target audience
- use descriptive, persuasive and instructional language by using a wide vocabulary together with effective adjectives and imperative verbal forms
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Gwylia'r fideo uchod a noda'r prif nodweddion iaith sy鈥檔 cael eu cyflwyno.
Mae pump nodwedd i gyd. Wyt ti'n gallu eu hadnabod nhw?
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Llunia hysbyseb i berswadio disgyblion i ymuno 芒 chlwb ffitrwydd yr ysgol.
Cofia gynnwys y wybodaeth ganlynol yn dy hysbyseb:
- gweithgareddau鈥檙 clwb
- dyddiau'r wythnos ac amseroedd
- lleoliad
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11