Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i iaith ac arddull ysgrifennu stori fer
- Un fideo yn s么n am strwythur a鈥檙 defnydd o ddeialog mewn stori fer
- Un gweithgaredd i dy helpu adnabod pwysigrwydd deialog mewn stori fer
- Un gweithgaredd yn ymarfer ysgrifennu deialog
Lesson content
- An introduction to the language and style used in short stories
- One video about the structure and use of dialogue in short stories
- One activity to help you identify the importance of dialogue in a short story
- One activity to practise writing dialogue
Iaith ac arddull ysgrifennu stori fer
- Rwyt ti angen penderfynu os wyt ti鈥檔 ysgrifennu yn y gorffennol neu鈥檙 presennol, a glynu wrth dy benderfyniad trwy鈥檙 stori.
- Rwyt ti鈥檔 gallu ysgrifennu yn y person cyntaf 鈥 gwelaf/gwelais, clywaf/clywais, teimlaf/teimlais, 鈥媌lasaf/blasais.
- Neu rwyt ti鈥檔 gallu ysgrifennu yn y trydydd person 鈥 gwelodd ef/clywodd hi/teimlodd o.
- Cofia dreiglo鈥檔 feddal ar 么l berf gryno 鈥 gwelais __b__obl, clywaf __l__eisiau, teimlodd hi wynt 鈥媍ryf.
- Mae angen defnyddio amrywiaeth o dechnegau arddull, ee ansoddeiriau, cymariaethau, 鈥媝ersonoli neu drosiadau.
- Cofia gyfeirio at y synhwyrau, ee clywed, blasu, arogli, teimlo, gweld.
- Rhaid sicrhau bod agoriad diddorol, uchafbwynt a diweddglo addas.
- Rhaid i ti amrywio dechrau brawddegau.
Fideo / Video
Gwylia'r fideo gan athrawes Gymraeg, sy'n egluro pwysigrwydd defnyddio deialog wrth ysgrifennu stori fer.
Ysgrifennu deialog
Mae ysgrifennu deialog yn rhoi鈥檙 cyfle i awdur greu darlun cyflawn o鈥檙 cymeriad a鈥檌 fyd.Mae鈥檔 gwneud hyn drwy gofio:
- y llais
- y corff
- yr amgylchfyd
- y meddwl
Y llais
Mae鈥檔 bosib dangos llawer am y cymeriadau drwy ddisgrifio鈥檙 llais a sut mae rhywbeth yn cael ei ddweud, ee:
- 鈥淏e?! Be?! Ti di colli dy ff么n?鈥 bloeddiodd Dad nerth ei ben.
Y corff
Mae鈥檔 bosib dangos beth mae鈥檙 cymeriad yn ei wneud neu sut maen nhw鈥檔 symud, ee:
- 鈥淔aint o鈥檙 gloch ydy hi? Ydy hi鈥檔 amser cinio eto? Dwi鈥檔 llwgu!鈥 cwynodd Guto gan rwbio鈥檌 fol yn araf.
Yr amgylchfyd
Mae鈥檔 bosib dangos ym mha le mae鈥檙 sgwrs yn digwydd a beth sy鈥檔 digwydd o amgylch y cymeriadau, ee:
- 鈥淲aw! Am ffrog hyfryd; bysai鈥檔 berffaith i鈥檙 parti,鈥 ebychodd Angharad yn uchel dros y siop ddillad ffasiynol.
Y meddwl
Mae鈥檔 bosib dangos sut mae鈥檙 cymeriad yn meddwl, ee:
- 鈥淧umdeg punt! Diolch Nain, dyma鈥檙 anrheg pen-blwydd orau,鈥 meddai Anwen yn llon.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena鈥檙 darn yma o 鈥楶ac o Straeon Rygbi 2鈥 gan Alun Wyn Bevan.
"Gwych, bechgyn!" bloeddiodd Mr Ifans yr athro chwaraeon, a llamu ar y cae efo'i goesau hirion.
"Absolutely brilliant!"
"Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi'u hitio nhw!"
Wedi dysgu Cymraeg oedd Mr Ifans, tua'r un pryd 芒 phan newidiodd ei enw o Evans i Ifans. Roedd o mor frwdfrydig am bob dim bob amser, ac edrycha'n debyg i ebol efo'i osgo heglog a'i wallt hir.
Beth mae鈥檙 disgrifiadau isod o lais, y corff, yr amgylchfyd a鈥檙 meddwl yn dweud am gymeriad Mr Ifans?
- bloeddiodd
- llamu ar y cae
- gyda鈥檌 goesau hirion
- mor frwdfrydig
- edrycha鈥檔 debyg i ebol
- osgo heglog a鈥檌 wallt hir
Eglura dy ateb.
Dyfynodau
Mae'n bwysig defnyddio dyfynodau (" 鈥") o gwmpas yr hyn mae cymeriadau'n eu dweud a chofia, mae angen agor a chau鈥檙 dyfynodau, ee:
- "Diolch i ti am yr anrheg pen-blwydd!" meddai Elin.
Mae'n rhaid rhoi priflythyren i ddilyn y dyfynodau agoriadol, ee:
- "Diolch i ti am yr anrheg pen-blwydd!鈥
Atalnodi
Cofia atalnodi gan ddefnyddio:
- atalnod
- atalnod llawn
- gofynnod
- ebychnod
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dyma luniau o blant yn mwynhau trip i鈥檙 traeth tra'n aros yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.
Dewisa lun ac ysgrifenna sgwrs ddychmygol rhwng y cymeriadau yn y llun, gan gofio creu darlun cyflawn o鈥檙 cymeriadau a鈥檜 byd a defnyddio dyfynodau ac atalnodi.
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- deall strwythur ac arddull deialog stori fer
- ysgrifennu darn byr o ddeialog gan atalnodi a defnyddio dyfynodau yn gywir
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand the structure and language used in dialogue in short stories
- write a short piece of dialogue, using punctuation and quotation marks correctly
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11