Cynnwys y wers hon
- Un fideo yn esbonio beth yw pwrpas cofnodion
- Un cyflwyniad yn egluro sut i ysgrifennu cofnodion
- Dau weithgaredd yn canolbwyntio ar ferfau amhersonol
- Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu cofnodion cyfarfod dychmygol
Lesson content
- One video explaining the purpose of writing minutes
- One introduction setting out how to write minutes
- Two activities focusing on impersonal verbs
- One activity to practise writing minutes for an imaginary meeting
Fideo / Video
Gwylia'r fideo i ddeall beth yw pwrpas cofnodion.
Iaith ac arddull cofnodion
Wrth ysgrifennu cofnodion, cofia wneud y canlynol:
- defnyddio iaith ffurfiol, uniongyrchol
- nodi prif benderfyniadau鈥檙 cyfarfod
- ysgrifennu yn y gorffennol
- defnyddio berfau amhersonol
- nodi鈥檙 ffeithiau yn unig - does dim angen mynegi barn
- ateb y cwestiynau canlynol:
- pwy?
- pryd?
- ble?
- sawl?
- pam?
- rhifo pob ffaith
Berfau amhersonol
Mae berfau amhersonol yn cael eu defnyddio mewn sefyllfa ffurfiol pan nad ydym yn si诺r pwy sy鈥檔 gweithredu鈥檙 ferf.
Dyma鈥檙 terfyniadau amhersonol:
- -颈谤鈥 (presennol) - darllenir, cofnodir, cytunir
- -飞测诲鈥 (gorffennol鈥嬧嬧) - darllenwyd, cofnodwyd, cytunwyd
- -别谤鈥 (gorchmynnol) - sylwer, gweler, pryner
- -颈诲鈥 (amherffaith a鈥檙 amhenodol)鈥 - edrychid, prynid, clywid
Gan amlaf, defnyddiwn ferfau amhersonol y gorffennol a鈥檙 presennol mewn cofnodion.
Dyma ferf amhersonol y presennol:
- Darllenir y ddogfen - hynny yw, mae rhywun yn darllen y ddogfen ond nid ydym yn gwybod pwy.
Dyma ferf amhersonol y gorffennol.
- Darllenwyd y ddogfen - hynny yw, roedd rhywun wedi darllen y ddogfen.
Mae鈥檙 enw鈥檙 gweithredwr yn cael ei nodi gan ddefnyddio gan, ee:
- Darllenir y ddogfen gan y cadeirydd.
- Cynigwyd cais cynllunio newydd gan Mr Jones.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Rho dro ar newid y berfenwau canlynol yn ferfau gorffennol amhersonol.
- rhannu
- cytuno
- darllen
- adrodd
- pleidleisio
Gweithgaredd / Activity 2
Dyma enghraifft o gofnodion cyfarfod.
Chwilia am enghreifftiau o ffurfiau amhersonol y ferf.
1.1 Ethol swyddogion newydd
Etholwyd Guto Jones yn Gadeirydd. Cynigwyd ei enw gan Kevin Hughes. Diolchodd Guto am yr anrhydedd a nododd ei fod yn addo rhoi o鈥檌 orau yn ystod y flwyddyn.
Yn yr un modd, ailetholwyd Iona Parry yn ysgrifenyddes. Derbyniodd y swydd gan ddiolch i bawb am eu cymorth yn ystod y flwyddyn.
1.2 Capten
Diolchwyd i Martin Smith am ei holl waith, ac etholwyd Dorian Pugh yn gapten am y flwyddyn nesaf. Derbyniodd y swydd.
Ni dderbyniwyd enwau eraill ar gyfer y swyddi uchod.
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Dychmyga dy fod yn gweithio i gadeirydd clwb p锚l-droed. Dy waith di yw ysgrifennu cofnodion y cyfarfod sy'n trafod pwy fydd yn cael eu prynu a鈥檜 gwerthu yn y 鈥榝fenest drosglwyddo鈥 (transfer window) nesaf.
NEU
Dychmyga dy fod ar y pwyllgor sy鈥檔 trefnu parti diwedd tymor yr ysgol. Dy waith di yw ysgrifennu cofnodion y cyfarfod olaf cyn y parti.
Geirfa ddefnyddiol:
- cyfarfod/cyfarfodydd
- cynhadledd/cynadleddau
- aelod/aelodau
- cyfrinachol
- cynnig (berf)
- gwrthwynebu
- cynnig/cynigion
- penderfyniad/penderfyniadau
- consensws
- mater/materion
- dyddiad cau
- cytuno
- anghytuno
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod a deall yn hyderus beth yw cofnodion cyfarfod a beth yw pwrpas cofnodion
- gwybod sut i fynd ati i ysgrifennu cofnodion, gan ddefnyddio iaith ffurfiol - yn bennaf berfau amhersonol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- confidently recognise and understand what minutes taken in meetings are and what purpose they serve
- write minutes using formal language - in particular impersonal verbs
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11