Cynnwys y wers hon
- Defnyddiau hydawdd ac anhydawdd
- Gwahanol ffyrdd o wahanu defnyddiau
Lesson content
- Soluble and insoluble materials
- Different ways of separating materials
Hydoddi
Hydoddi ydy'r newid pan fydd solid yn cymysgu gyda hylif i wneud hydoddiant tryloyw.
Mae siwgr a halen yn hydoddi mewn dŵr. Mae sylweddau sy'n hydoddi yn cael eu galw'n hydawdd.
Dydy sialc na thywod ddim yn hydoddi mewn dŵr. Mae sylweddau sydd ddim yn hydoddi yn cael eu galw’n anhydawdd.
Dydy solidau ddim yn diflannu pan maen nhw'n hydoddi. Maen nhw'n mynd yn rhan o hydoddiant.
Mae mwy o'r sylwedd yn hydoddi mewn dŵr cynnes nag mewn dŵr oer. Mae troi y sylwedd yn y dŵr hefyd yn helpu i bethau hydoddi.
Gwahanu defnyddiau
I wahanu sylwedd hydawdd oddi wrthhylif - anwedda'r hylif.
Mae stalactidau yn cael eu ffurfio gan ddŵr sy'n cynnwys calchfaen wedi hydoddi. Pan fydd y dŵr yn diferu, mae’n anweddu gan adael y calchfaen ar ôl.
Mae modd gwahanu solidau anhydawdd oddi wrth hylifau drwy hidlo.
Gallwn wahanu gronynnau solid o wahanol faint drwy ridyllu.
I wahanu sylwedd anhydawdd oddi wrth hylif:
- rhidylla solidau mawr
- hidla solidau mân iawn
I wahanu hylif oddi wrth sylwedd hydawdd -anwedda'r hylif ac yna cyddwyso'r nwy.Paid â rhoi cynnig ar hyn heb oedolyn i dy helpu.
I wahanu dau hylif anhydawdd - arllwys yr hylif o un llestr i'r llall yn araf. Mae hyn yn cael ei alw'n ardywallt.
Mae'n bosib gwahanu solidau a hylifau wrth ardywallt hefyd.
Hafan ý Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11