大象传媒

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo gan athrawes yn egluro beth yw gwaith ymchwil
  • Un cyflwyniad yn egluro beth yw ymchwil
  • Dau weithgaredd i ddysgu mwy am sut i wneud ymchwil da

Lesson content

  • One video by a teacher explaining how to carry out research
  • One introduction on how to carry out research
  • Two activities to learn how to research well
Llinell / Line

Y broses ymchwil

Ystyr y gair ymchwil yw astudio rhywbeth yn ofalus er mwyn cael hyd i wybodaeth newydd i'w chyflwyno mewn darn ysgrifenedig neu mewn araith.

Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia athrawes Gymraeg yn egluro beth yw gwaith ymchwil a pham ei fod yn bwysig.

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall beth yw gwaith ymchwil
  • deall am bwysigrwydd gwaith ymchwil
  • dysgu sut i fynd ati i wneud gwaith ymchwil

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • understand what research is
  • understand the importance of research
  • learn how to carry out research
Llinell / Line

Ymchwil ar-lein

Lle da i gychwyn gyda gwaith ymchwil yw ar-lein. Mae ymchwil ar-lein yn gallu ymddangos yn dasg enfawr, ond drwy ddysgu sut i'w wneud yn effeithiol, gelli di arbed amser a gwaith.

Mae鈥檙 camau canlynol yn egluro un dull o wneud hyn:

  • penderfynu pa fath o ymchwil rwyt ti eisiau ei wneud
  • dewis geiriau chwilio yn ofalus
  • penderfynu yngl欧n 芒鈥檙 math o ffynhonnell
  • bod yn drylwyr - paid 芒 dibynnu ar y wybodaeth o'r dudalen gyntaf yn unig

Ffynonellau eraill

Gall ffynonellau ymchwil eraill gynnwys:

  • blogiau
  • fforymau a safleoedd trafod
  • safleoedd adolygu cynnyrch

Ond gan nad wyt ti'n adnabod y bobl sydd wedi ysgrifennu rhain, elli di ddim wastad ymddiried yn y ffynonellau hyn gymaint. Cofia felly fod yn drylwyr wrth wneud dy ymchwil.

Pan wyt ti'n chwilio ar-lein, edrycha ar ganlyniadau sy'n ymddangos ar fwy nag un dudalen, yn hytrach na dibynnu ar y wybodaeth sy'n ymddangos ar y dudalen gyntaf yn unig.

Os nad wyt ti wedi darganfod y wybodaeth sydd ei hangen arnat ti ar y we, gall ffynonellau ymchwil eraill gynnwys:

  • llyfrau
  • cylchgronnau
  • ffrindiau a theulu
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Mae dy athro dosbarth wedi gofyn y canlynol i ti:

鈥淗offwn i dderbyn traethawd byr gennyt ti sy鈥檔 cyflwyno gwybodaeth ac ymchwil am gynhesu byd eang a鈥檙 hyn sydd yn ei achosi. Rydw i eisiau i ti gyflwyno ffeithiau a barnau eraill yn dy draethawd, a defnyddio mwy nag un ffynhonnell ar gyfer dy ymchwil.鈥

Ateba鈥檙 cwestiynau canlynol am dy dasg:

  • Beth yw testun dy ymchwil?
  • Pa eiriau wyt ti am eu defnyddio i chwilio am wybodaeth?
  • Pa ffynonellau sydd ar gael i ti ddefnyddio ar gyfer dy ymchwil?
  • Pa fath o ffynonellau byddai鈥檔 cynnig ffeithiau yn unig i ti?

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dewis geiriau chwilio鈥檔 ofalus.

Mae Anna wedi bod yn ymchwilio ar y we am wybodaeth ar gyfer ei gwaith cwrs hi. Mae鈥檔 rhaid iddi hi ysgrifennu erthygl sy鈥檔 trafod y cwestiwn canlynol:

鈥榊dy ffonau symudol yn dinistrio bywydau pobl ifanc?鈥

Dyma鈥檙 termau chwilio mae Anna wedi eu defnyddio hyd yma:

  • 鈥渇fonau symudol鈥
  • 鈥減obl ifanc鈥
  • 鈥渇fonau pobl ifanc鈥

Nid yw Anna wedi meddwl am ei thestun ymchwilio, na dewis ei geiriau chwilio鈥檔 ofalus, ac felly mae鈥檙 tudalennau sy鈥檔 ymddangos sy鈥檔 amherthnasol i鈥檞 hymchwil hi. Mae hyn yn gwastraffu llawer o amser ac ymdrech.

Pa dermau chwilio byddai鈥檔 well ar gyfer ymchwil Anna?

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU