Cynnwys y wers hon
- Cyflwyniad ar sut i greu gwahoddiad
- Cymharu dau wahoddiad priodas
- Un gweithgaredd yn ymwneud 芒 berfau gorchmynnol
- Un gweithgaredd i greu gwahoddiad
Lesson content
- An introduction on how to create an invitation
- Compare two wedding invitations
- One activity involving imperative verbs
- One activity to create an invitation
Gwahoddiad
Rhaid cynnwys sawl darn pwysig o wybodaeth mewn gwahoddiad ac mae鈥檔 rhaid i鈥檙 wybodaeth gael ei throsglwyddo mor glir 芒 phosib i鈥檙 darllenydd.
Ystyria:
- defnydd o liw a llun
- pennawd bachog
- gosod y manylion yn ddarllenadwy
- defnydd o ferfau gorchmynnol
- sicrhau bod y gwahoddiad cyfan yn dal sylw鈥檙 darllenydd
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Astudia鈥檙 ddau wahoddiad i briodas Pwyll a Rhiannon. Pa un o鈥檙 gwahoddiadau yw鈥檙 gorau yn dy farn di? Ysgrifenna鈥檙 ateb yn llawn.
Ystyria'r canlynol:
- y defnydd o frawddegau llawn
- y defnydd o ffont
- y defnydd o liw
- y defnydd o ddelweddau/graffeg
- yr amrywiaeth ym maint y ffont, ee pennawd
- yr arddull hen ffasiwn / modern
Nid oes ateb cywir, ond rhaid i ti drafod pa un sydd fwyaf effeithiol yn dy farn di a pham.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Rwyt ti鈥檔 defnyddio gorchymyn er mwyn dweud wrth rywun beth i鈥檞 wneud.
Mae dwy ffurf i bob gorchymyn 鈥 'ti' a 'chi':
- defnyddia 鈥榯i鈥 wrth ysgrifennu鈥檔 anffurfiol
- defnyddia 鈥榗hi鈥 wrth ysgrifennu at fwy nag un person, neu wrth ysgrifennu鈥檔 ffurfiol
Wrth lunio gwahoddiad priodas, gan dy fod yn ysgrifennu鈥檔 ffurfiol, bydd angen i ti ddefnyddio鈥檙 ffurf 鈥榗hi鈥.
Newida鈥檙 geiriau sydd yn y cromfachau i ferfau gorchmynnol gan ddefnyddio 'chi'.
- (Rhedeg) chi o amgylch y cae bedair gwaith.
- (Ysgrifennu) yn daclus yn eich llyfrau.
- (Eistedd) chi i lawr a (bod) yn ddistaw.
- (Ceisio) orffen eich gwaith cartref cyn mynd i鈥檙 gwely.
- (Cofio) godi鈥檔 gynnar yfory.
- (Darllen) eich straeon, blant. Maen nhw鈥檔 wych.
- (Prynu) laeth a bara ar eich ffordd adref.
- (Gweithio) yn galed yfory.
- (Brwsio) eich dannedd cyn mynd i鈥檙 gwely.
- (Peidio) 芒 cherdded yn rhy agos i鈥檙 heol.
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Creu gwahoddiad i barti
Cer ati i greu gwahoddiad ar gyfer parti stryd.
Cofia fod angen:
- pennawd bachog
- manylion perthnasol, ee lleoliad, amser, dyddiad ac yn y blaen
- lliw a llun
- ffont amrywiol
- berfau gorchmynnol
- i鈥檙 gwahoddiad cyfan ddal sylw鈥檙 darllenydd
Nodiadau i rieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn:
- gyfarwydd 芒鈥檙 nodweddion sydd eu hangen mewn gwahoddiad
- medru creu gwahoddiad eu hunain
Notes for parents
After the lesson, students will be:
- familiar with the characterisics needed in an invitation
- able to create their own invitation
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11