大象传媒

Mesurau cyfansawddCyflymder

Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy鈥檔 cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm鲁, poblogaeth fesul km虏 a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni鈥檔 gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Cyflymder

Defnyddir yr hafaliad canlynol i gyfrifo cyflymder:

\(\text{cyflymder}=\frac{\text{pellter}}{\text{amser}}\)

Triongl hafaliad pellter, cyflymder ac amser
Figure caption,
Mae triongl hafaliad yn rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio i鈥檔 helpu i ad-drefnu hafaliadau

Dyma enghraifft o fesur cyfansawdd gan nad yw鈥檔 bosib mesur pellter ac amser yn yr un uned. Gellir mesur cyflymder mewn metrau yr eiliad, cilometrau yr awr a nifer o ffurfiau eraill hefyd.

Question

Cyfrifa gyflymder cyfartalog mong诺s os yw鈥檔 teithio 4 km mewn 0.25 awr.

Question

Cyfrifa gyflymder cyfartalog llewpart hela os yw鈥檔 teithio 300 m mewn 10 eiliad.

Gellir hefyd ad-drefnu鈥檙 hafaliad cyflymder i un o鈥檙 ddwy ffurf isod:

\(\text{pellter}=\text{cyflymder}\times{\text{amser}}\)

neu

\(\text{amser}=\frac{\text{pellter}}{\text{cyflymder}}\)

Mae hyn yn dy alluogi i gyfrifo un ai pellter neu amser.

Question

Mae car yn teithio o Gaerdydd i Lundain gyda chyflymder cyfartalog o 50 . Os yw鈥檙 daith yn cymryd tair awr, amcangyfrifa鈥檙 pellter o Gaerdydd i Lundain.